Rheolau prisiau alcohol yn newid yng Nghymru i helpu i achub bywydau

Alcohol price rules change in Wales to help save lives

O heddiw ymlaen (dydd Iau 1 Hydref), bydd isafbris uned o alcohol yng Nghymru yn cynyddu o 50c i 65c, mewn ymgais y disgwylir iddo achub cannoedd o fywydau.

Mae’r isafbris uned am alcohol wedi’i gynllunio i fynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys derbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau, drwy leihau’r defnydd o alcohol ymhlith yfwyr mewn perygl ac yfwyr a niweidir.

Mae arbenigwyr o’r farn y gallai’r ymgais hwn a ddaw i rym heddiw atal mwy na 900 o farwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol a helpu bron i 5,000 o bobl yng Nghymru i leihau yfed mewn modd niweidiol dros yr 20 mlynedd nesaf.

O hyn ymlaen, bydd Cymru yn codi’r un isafbris â’r Alban.

Yn rhan o werthusiadau annibynnol a gynhaliwyd ym mis Ionawr 2025, yr Adroddiad Gweithrediad ac Effaith a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2025 a’r ymgynghoriad dilynol ar barhad a chynyddu’r isafbris, cafwyd tystiolaeth bod chwyddiant wedi effeithio ar y gyfradd 50c ac wedi lleihau ei gwerth mewn termau real i 39c ym mhrisiau 2020. Mae codi’r isafbris uned i 65c yn helpu i ddatrys hyn.

Mae siopau, Safonau Masnach a gwasanaethau cymorth wedi cael canllawiau newydd cyn y newid hwn heddiw.

Mae’r isafbris uned yn un o nifer o gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i helpu i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb a gwella canlyniadau iechyd. Mae’n buddsoddi dros £68 miliwn i helpu’r rhai yr effeithir arnynt gan y defnydd o alcohol a chyffuriau, gan gynnwys mwy na £41 miliwn sy’n cael ei roi yn uniongyrchol i wasanaethau cymorth lleol ledled Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, Nerys Evans: “Mae pob un o’r cannoedd o fywydau y gallai’r newid hwn ei achub yn rhiant, yn bartner neu’n blentyn i rywun. Dyna pam mae hyn yn bwysig.

“Mae tystiolaeth yn dangos bod cyflwyno isafbris uned am alcohol wedi gwneud cyfraniad pwysig o ran mynd i’r afael â’r risgiau iechyd sy’n gysylltiedig â goryfed alcohol.

“Ond ry’n ni hefyd yn gwybod bod chwyddiant wedi gwneud yr isafbris o 50c yn llai effeithiol, felly dyw ei godi i 65c ddim yn ymwneud â chosbi pobl sy’n yfed yn gyfrifol, ond mae’n golygu cau’r bwlch hwnnw a gwneud yn siŵr bod yr isafbris uned yn parhau i wneud ei waith drwy gadw alcohol cryf, rhad iawn oddi ar y silffoedd.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Cymru yr elusen Alcohol Change UK, Andrew Misell: “Mae isafbris uned yn targedu’r diodydd rhataf a chryfaf, sy’n aml yn achosi’r niwed mwyaf.

“Mi fydd yr isafbris newydd hwn o 65c yn cadw poteli mawr o seidr cryf iawn oddi ar y silffoedd, a hefyd yn ei gwneud hi’n anoddach i archfarchnadoedd gynnig gostyngiadau swmp, lle mae diodydd alcohol yn rhatach po fwyaf ry’ch chi’n eu prynu. A hyn i gyd heb wthio pris peint i fyny mewn tafarndai.”