Y Dirprwy Weinidog yn annog pobl ifanc i ddychwelyd am ail ddos o frechlyn
Deputy Minister urges young people to return for second vaccine dose
- O'r wythnos hon ymlaen, bydd pobl ifanc yn cael yr ail ddos o'r brechlyn MenB
- Mae dros 17,000 wedi dod ymlaen am eu dos cyntaf
- Mae amser o hyd i'r rhai sydd yn y garfan gymwys gael eu dos cyntaf
- Mae'r ddau ddos yn angenrheidiol ar gyfer amddiffyniad llawn.
O'r wythnos hon ymlaen, bydd pobl ifanc yn dechrau cael yr ail ddos o'u brechlyn Meningitis B, a allai achub eu bywyd.
Yn ystod pedair wythnos gyntaf y rhaglen frechu, a oedd yn cael ei chyflwyno o dan derfynau amser, daeth dros 16,000 o bobl ifanc ledled Cymru ymlaen i gael eu brechu.
Ymwelodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd Cyhoeddus ac Ataliol, Nerys Evans, â chlinig ym Maelfa, Caerdydd, lle y cyfarfu â phobl ifanc sy'n cael eu hail ddos cyn dechrau yn y brifysgol yr hydref hwn.
Mae'r brechlyn yn cael ei weinyddu fel dau ddos ar wahân. Mae'r ail ddos ymhen mis. Rhaid i bobl ifanc gymwys gael y ddau ddos er mwyn sicrhau'r amddiffyniad gorau. Gellir cael yr ail ddos ym mhrifysgol y myfyriwr os oes angen.
Mae'r brechlyn, sy'n rhad ac am ddim, yn rhoi amddiffyniad i bob person ifanc a anwyd rhwng 1 Medi 2007 a 31 Awst 2008, yn ogystal â'r rhai o dan 25 oed sy'n mynd i addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf yr hydref hwn.
Mae cymhwystra ar gyfer y rhaglen hon ar sail y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf. Mae pobl ifanc sy'n mynd i'r brifysgol am y tro cyntaf saith gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefyd meningococol. Mae hyn yn arbennig o wir am y rhai sy'n byw mewn llety a rennir, pan fo pobl ifanc yn rhannu cyfleusterau cymdeithasol ac arlwyo ac yn cymysgu'n agos â'i gilydd. Mae'r cynnig o frechlyn hefyd yn cael ei ymestyn i'r myfyrwyr sy'n byw mewn llety addysg bellach neu mewn neuaddau preswyl, a allai fod yn cymysgu mewn ffyrdd tebyg.
Dywedodd Nerys Evans:
"Dw i'n annog pob person ifanc cymwys ledled Cymru i ddilyn esiampl y rhai dw i wedi cwrdd â nhw yma yng Nghaerdydd heddiw drwy wneud yn siŵr eich bod chi'n mynd yn ôl i gael yr ail ddos hanfodol hwnnw.
"Os nad ydych chi wedi manteisio ar y cynnig eto - dydy hi ddim yn rhy hwyr. Trefnwch apwyntiad i gael eich dos cyntaf cyn gynted â phosibl."
Dywedodd Dr Chris Johnson, Pennaeth y Rhaglen Frechu yn erbyn Clefydau Ataliadwy yn Iechyd Cyhoeddus Cymru:
"Mae miloedd o bobl ifanc ledled Cymru eisoes wedi manteisio ar y cynnig i gael brechlyn MenB. Mae hyn yn ddechrau cadarnhaol iawn o ran helpu i amddiffyn y rhai sy'n wynebu'r risg fwyaf wrth iddynt baratoi i fynd i'r brifysgol neu i addysg bellach breswyl.
"Mae clefyd meningococol B yn brin, ond gall ddatblygu'n gyflym ac achosi salwch difrifol. Mae'n hanfodol felly bod pawb sy'n gymwys yn dod ymlaen i gael eu brechu ac, yr un mor bwysig, yn sicrhau eu bod yn cael eu hail ddos. Mae dau ddos, yn ddelfrydol cyn dechrau eu cwrs, yn rhoi'r amddiffyniad gorau rhag yr haint dinistriol hwn."
Bydd pobl ifanc 17 ac 18 oed sy'n gymwys yn cael llythyr gan eu bwrdd iechyd. Os nad yw'r rhai o dan 25 oed sy'n dechrau addysg uwch neu addysg bellach breswyl am y tro cyntaf wedi cael llythyr, dylent gysylltu â'u bwrdd iechyd yn uniongyrchol, neu fynd i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael rhagor o wybodaeth.
Nodiadau i olygyddion
The time-limited Meningitis B vaccination programme began to be rolled out in Wales on Monday, July 20.