Lansio canllawiau newydd gyda’r nod o leihau arferion cyfyngol mewn lleoliadau gofal iechyd, gofal cymdeithasol ac addysgol
Launch of new guidance aimed at reducing use of restrictive practices in healthcare, social care and educational settings
Mae’r Gweinidog Gofal Cymdeithasol wedi croesawu set o adnoddau newydd gyda’r nod o leihau’r defnydd o arferion cyfyngol mewn lleoliadau gofal iechyd, gofal cymdeithasol ac addysgol.
Mae'r Fframwaith ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol yn rhoi cyngor i'r rhai sy'n gweithio gyda phlant ac oedolion mewn lleoliadau a gwasanaethau perthnasol.
Nod y Fframwaith yw lleihau'r defnydd o arferion cyfyngol, a elwir hefyd yn ataliaeth, a ddefnyddir ar bobl o bob oed ac ar y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu'r set o adnoddau newydd i gefnogi'r Fframwaith mewn partneriaeth â'r Rhwydwaith Lleihau Ataliaeth a Gwella Cymru. Mae'r adnoddau'n seiliedig ar brofiadau byw y rhai sydd wedi’u heffeithio.
Maent yn cynnwys animeiddiad a gynhyrchwyd ac a ysgrifennwyd gan bobl sydd â phrofiad byw, dogfen esboniadol, a phoster.
Mae'r animeiddiad yn dangos yr wyth math o arferion cyfyngol; cyfyngiadau sy’n defnyddio’r corff, cemegau, offer, ynysu, seicoleg, normau diwylliannol, gwyliadwriaeth a rheolau cyffredinol.
Yn ogystal â'r animeiddiad, mae'r ddogfen esboniadol a'r poster yn ceisio hwyluso trafodaeth a gwella gwybodaeth y cyhoedd.
Mae'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden, wedi croesawu'r adnoddau newydd sy'n ceisio lleihau'r defnydd o arferion cyfyngol mewn lleoliadau perthnasol ar gyfer pobl o bob oed.
Yn siarad cyn lansio'r adnoddau newydd, dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden: “Ry'n ni'n gwybod bod arferion cyfyngol yn gallu cael effaith negyddol ar y bobl maen nhw'n cael eu defnyddio arnyn nhw, yn ogystal ag ar y rhai sy'n eu rhoi ar waith a'r rhai sy'n dystion”.
“Ry'n ni'n gobeithio y bydd y set newydd hon o adnoddau i godi ymwybyddiaeth yn lleihau'r defnydd o arferion cyfyngol yn y dyfodol, ac yn gwella dealltwriaeth o’r niwed y gallant ei achosi."
Mae gweminar a gynhelir gan y Rhwydwaith Lleihau Ataliaeth mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Gwelliant Cymru wedi'i drefnu ar gyfer 24 Gorffennaf 2024 i lansio'r adnoddau newydd yn swyddogol.
Dywedodd Ben Higgins, Prif Weithredwr y Rhwydwaith Lleihau Ataliaeth: "Rydym yn falch iawn o gefnogi lansiad adnoddau newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer ymarferwyr sy'n gweithio mewn lleoliadau iechyd, gofal ac addysgol, a grëwyd fel rhan o'r Fframwaith ar gyfer Lleihau Arferion Cyfyngol.
"Gobeithiwn y bydd yr animeiddiad hwn sydd wedi'i gydgynhyrchu yn gwella dealltwriaeth o arferion cyfyngol - beth ydyn nhw, y niwed maen nhw'n ei achosi a sut i'w lleihau a'u hatal - gan gefnogi ymarferwyr i leihau'r defnydd o arferion cyfyngol yng Nghymru a gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl."