Lansio cyllid newydd gwerth £30m i hybu arloesedd yng Nghymru
New £30m funds launched to boost innovation in Wales
- Rhaglen Cefnogaeth Arloesedd Hyblyg SMART (SMART FIS) newydd gwerth £20m i fuddsoddi mewn ymchwil ac arloesi blaengar newydd a fydd yn gwella bywydau pobl.
- Bydd yn cefnogi sefydliadau i arloesi ac yn helpu i greu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, yn gwella sgiliau, yn helpu i ddatblygu gallu Ymchwil, Datblygu ac Arloesi a'r gallu i gefnogi twf cynaliadwy.
- Mae gweinidogion hefyd yn lansio Cronfa’r Economi Gylchol ar gyfer Busnes gwerth £10m i'w cefnogi i symud tuag at economi garbon sero net gylchol.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £30m mewn rhaglenni newydd a fydd yn helpu sefydliadau yng Nghymru i ddatblygu ac ymgorffori cynhyrchion a gwasanaethau arloesol newydd i helpu i wella bywydau pobl, tyfu'r economi a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur, meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething a'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, heddiw.
Bydd Rhaglen Cefnogaeth Arloesedd Hyblyg SMART (SMART FIS), sydd bellach ar agor ar gyfer ceisiadau, yn helpu busnesau, sefydliadau ymchwil, academia a chyrff y sector cyhoeddus a'r trydydd sector i arloesi, creu cynhyrchion a gwasanaethau newydd, a gwella sgiliau, gan helpu i ddatblygu gallu Ymchwil, Datblygu ac Arloesi a’r capasiti i gefnogi twf cynaliadwy.
Bydd buddsoddiad yn targedu gweithgareddau fydd yn helpu i gyflawni'r amcanion a nodir yn strategaeth arloesi newydd Llywodraeth Cymru, Cymru’n Arloesi Strategaeth arloesi i Gymru | LLYW.CYMRU.
Bydd y rhaglen yn helpu sefydliadau i gyrraedd "Rhagoriaeth Arloesi" trwy ddatblygu Cynlluniau a chynigion Arloesi, gan weithio ochr yn ochr â thîm o arbenigwyr sy'n darparu arbenigedd, ymgynghorwyr a chyllid.
Yn wahanol i raglenni blaenorol, nid yw Cymorth Arloesi Hyblyg SMART wedi'i gyfyngu i fusnesau a sefydliadau ymchwil – mae'n agored i unrhyw sefydliad sydd â phrosiectau cymwys sy'n helpu i gyflawni'r amcanion yn ein strategaeth arloesi, megis y trydydd sector, awdurdodau lleol, a byrddau iechyd.
Mae Llywodraeth Cymru yn lansio rownd nesaf Cronfa Arloesedd yr Economi Gylcholheddiw hefyd. Bydd gweinidogion yn buddsoddi £10m yn y gronfa dros y ddwy flynedd nesaf (2023/24 a 2024/25).
Yn unol â strategaeth economi gylchol Llywodraeth Cymru, Mwy nag Ailgylchu, bydd y cyllid hwn yn cefnogi buddsoddiad mewn prosesau gweithgynhyrchu i gynyddu'r defnydd o gynnwys wedi'i ailgylchu a'i ailddefnyddio mewn cynnyrch neu gydrannau, neu ymestyn oes cynhyrchion a deunyddiau. Gall busnesau wneud cais am hyd at £200,000 o gyllid i gefnogi'r gweithgaredd hwn.
Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ysgogi arloesedd i wella bywydau pobl ledled Cymru. Rydym yn gwneud hynny drwy adeiladu economi yng Nghymru yn seiliedig ar egwyddorion cynaliadwyedd, gwaith teg ac ar ddatblygu diwydiannau a gwasanaethau'r dyfodol.
"Mae'r strategaeth arloesi a lansiwyd yn gynharach eleni yn nodi sut rydym yn defnyddio arloesedd i greu Cymru gryfach, decach a gwyrddach trwy gefnogi sefydliadau'r sector preifat, cyhoeddus a'r trydydd sector i ddylunio a darparu atebion i rai o'r heriau mawr sy'n wynebu ein cymdeithas.
"Bydd yr arian newydd rydyn ni'n ei lansio heddiw yn helpu mentrau arloesol yng Nghymru trwy gefnogi sefydliadau i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol newydd sy'n ein helpu i gyflawni'r weledigaeth honno - gan helpu i wella bywydau pobl, rhoi hwb i'r economi a helpu i ddiogelu ein hamgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Meddai y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
"Mae parhau i bontio i economi gylchol yn elfen hanfodol o ddatgarboneiddio. Trwy sicrhau bod adnoddau'n cael eu defnyddio cyhyd â phosibl ac osgoi gwastraff, mae nid yn unig o fudd i'r amgylchedd, ond bydd yn galluogi Cymru i fanteisio ar gyfleoedd economaidd drwy fyrhau cadwyni cyflenwi, cynyddu cystadleurwydd, a gwella effeithlonrwydd ein hadnoddau.
"Mae lansio'r cam nesaf hwn o'n Cronfa Economi Gylchol ar gyfer Busnes yn adeiladu ar y rhaglen beilot lwyddiannus tair mlynedd ac yn cyflawni ein hymrwymiad yn Cymru Sero Net i ddarparu £10m o gyllid i fusnesau i helpu i'w cefnogi i symud tuag at economi garbon sero net gylchol.
"Mae hon yn enghraifft wych o sut mae ein strategaeth Economi Gylchol, Y Tu Hwnt i Ailgylchu a’n Strategaeth Arloesi yn gweithio gyda'i gilydd i gefnogi arloesedd mewn meysydd megis gwella effeithlonrwydd adnoddau ac amnewid deunyddiau."
Un o’r rhai cyntaf i dderbyn y cyllid SMART FIS newydd yw Haydale, cwmni datrysiadau technoleg byd-eang o Rydaman gyda gweithrediadau yn UDA a'r Dwyrain Pell.
Bydd y gefnogaeth yn galluogi Haydale i gyflymu datblygiad eu prototeip gwresogi graphene o dan y llawr tuag at gynnyrch CE sy'n barod ar gyfer y farchnad, y gellir ei brofi mewn amgylchedd cartref.
Bydd y rhaglen gymorth hefyd yn sbarduno masnacheiddio inciau graphene biofeddygol Haydale ar gyfer cymwysiadau synwyryddion a diagnostig, gan gyflymu'r cynnydd a wnaed hyd yma gyda Phrifysgol Caerdydd ac Ymchwil Arennau'r DU.
Meddai David Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr y DU yn Haydale:
"Mae derbyn y gefnogaeth hon yn garreg filltir bwysig wrth ariannu ein harloesedd a datblygu cynnyrch yn barhaus. Rwy'n falch iawn bod ein perthynas â Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi Ymchwil, Datblygu ac Arloesi er mwyn cyflawni ein cynllun arloesi a dod â'n cynnyrch graphene i'r farchnad."
Mae rhagor o wybodaeth am sut i wneud cais am gyllid ar gael ar wefan Busnes Cymru - Cymorth Arloesi Hyblyg | Innovation (gov.wales)