Lansio cymhelliant i ddenu gweithlu addysgu mwy amrywiol
Launch of incentive to attract a more diverse teaching workforce
Mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi lansio cymhelliant swyddogol i ddenu mwy o bobl o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i addysgu.
Mae'r Cynllun Cymhelliant Addysg Gychwynnol i Athrawon o Gymunedau Ethnig Lleiafrifol yn darparu hyd at £5,000 i unigolion cymwys – er mwyn sicrhau bod y gweithlu addysg yn adlewyrchu amrywiaeth Cymru.
Mae cyfanswm o £5,000 ar gael i athrawon cymwys sydd yn fyfyrwyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Mae £2,500 ar gael ar gyfer ennill Statws Athro Cymwysedig a thaliad terfynol o £2,500 ar ôl cwblhau cyfnod ymsefydlu.
Mae'r cynllun yn un o dri chymhelliant sydd ar gael ar hyn o bryd i athrawon cymwys dan hyfforddiant. Ac mae cyfanswm o £25,000 ar gael i'r rheini sy'n ateb gofynion y tri chynllun.
Y ddau gynllun arall, ochr yn ochr â'r cymhelliant newydd hwn, yw:
- Cymhelliant Addysg Gychwynnol Athrawon ar gyfer Pynciau â Blaenoriaeth: £15,000 i'r rhai sy'n arbenigo yn y pynciau uwchradd sydd eu hangen fwyaf yn y gweithlu addysgu.
- Cynllun Cymhelliant Iaith Athrawon Yfory: £5,000 ar gyfer astudio i ddysgu pynciau uwchradd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
"Mae'r cymhelliant hwn yn rhan bwysig o'r gwaith rydyn ni'n ei wneud i ddenu mwy o ymgeiswyr Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol i'r proffesiwn addysgu.
"Ar hyn o bryd mae llai na 2% o'n gweithlu addysgu o gefndir Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. A dyw hynny ddim yn ddigon da. Rwy wedi ymrwymo i gynyddu'r gynrychiolaeth honno yn ein gweithlu addysg. Rhaid i'n pobl ifanc allu uniaethu eu hunain â’u harweinwyr, gan gynnwys uniaethu profiadau eu hunain â rhai eu harweinwyr.
"Rydyn ni'n symud i gyfnod newydd cyffrous wrth i’r cwricwlwm newydd gael ei gyflwyno. A bydd y cymhelliant hwn yn helpu i sicrhau bod amrywiaeth Cymru yn cael ei adlewyrchu'n well."
Mae'r cynllun yn rhan o waith ehangach y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud fel rhan o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol.
Ochr yn ochr â'r cymhelliant, mae pob un o'n Partneriaethau Addysg Gychwynnol i Athrawon wedi datblygu cynlluniau recriwtio sydd wedi'u cynllunio i ddenu myfyrwyr ethnig lleiafrifol i ddilyn rhaglenni addysgu. Mae'r Partneriaethau wedi eu lleoli ym Mhrifysgol Aberystwyth, Prifysgol Bangor, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol De Cymru, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a'r Brifysgol Agored.
Mae grŵp o Fentoriaid Cymunedol yn cefnogi'r Partneriaethau, ac maen nhw’n defnyddio eu gwybodaeth a'u profiad personol o effaith wahaniaethol hiliaeth ar addysg, recriwtio, cyflogaeth, marchnata ac arweinyddiaeth i gynyddu amrywiaeth yn y proffesiwn addysgu.
Dywedodd un o'r mentoriaid, Khudeza Siddika, sy'n gweithio ym Mhrifysgol Abertawe,
"Mae'r cymhelliant newydd yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i greu gweithlu mwy amrywiol. Bydd yr unigolion hynny sy'n dechrau yn y proffesiwn addysgu yn gweld bod ysgolion yn cymryd camau breision tuag at fod yn sefydliadau gwrth-hiliol, er enghraifft drwy’r cam i sefydlu hanes pobl Ddu yn y cwricwlwm.
"Rwy'n gobeithio y bydd y cymhelliant hwn yn annog unigolion talentog a brwdfrydig o gefndiroedd sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i ymuno â'r proffesiwn, ac i fod yn rhan o'r newidiadau ehangach sy'n digwydd yn y byd addysg ar hyn o bryd."