English icon English

Lansio cynllun ar gyfer y tair blynedd nesaf i drawsnewid fferylliaeth yng Nghymru

Next three year plan launched to transform pharmacy in Wales

Mae nodau wedi’u diweddaru ar gyfer gweithwyr proffesiynol ym maes fferylliaeth wedi eu cyhoeddi heddiw, wrth i’r gwaith o drawsnewid gofal fferyllol yng Nghymru barhau.

Cyhoeddwyd gweledigaeth Pwyllgor Fferyllol Cymru ar gyfer fferylliaeth, sef Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach, am y tro cyntaf yn 2019. Mae’r cynllun deng mlynedd, a ddatblygwyd gan y proffesiwn fferylliaeth, yn anelu at ddarparu cyfeiriad clir i weithwyr proffesiynol ym maes fferylliaeth ym mhob rhan o’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, gan ganolbwyntio ar fodloni anghenion cleifion ac anghenion y GIG nawr ac yn y dyfodol.

Mae’r nodau newydd diweddaru disgwyliadau mewn perthynas â’r hyn y gall gweithwyr proffesiynol ym maes fferylliaeth ei gyflawni yn y tair blynedd hyd at fis Rhagfyr 2025, gan gynnwys:

  • cynnal adolygiad cynhwysfawr o sut y gellid defnyddio sgiliau ac arbenigedd fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol yn fwy effeithiol i gefnogi cleifion mewn ysbytai;
  • adolygu sut y gall gwasanaethau awtomataidd, presgripsiynu electronig a ffarmacogenomeg helpu i drawsnewid y ffordd y mae gweithwyr proffesiynol ym maes fferylliaeth yn cyflwyno gofal;
  • edrych ar sut y gall cefnogi ymchwil a datblygu mewn fferylliaeth roi llwyfan i waith arloesi pellach o ran cyflwyno gofal fferyllol.

Wrth groesawu’r nodau newydd, dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:

“Yn gynharach eleni, cyflwynwyd y newidiadau mwyaf sylweddol yn y ffordd y mae fferyllfeydd cymunedol yn darparu gwasanaethau ers creu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol dros 70 mlynedd yn ôl.

“Mae cryn dipyn o waith wedi ei wneud eisoes er mwyn cyfrannu at ein gweledigaeth, ac mae timau mewn fferyllfeydd cymunedol bellach yn defnyddio’u harbenigedd yn gyson i gefnogi iechyd cleifion a’n gwasanaethau iechyd a gofal.

“Wrth i’r proffesiwn fferylliaeth gychwyn ar y cymal nesaf o’r daith, rwy’n edrych ymlaen at weld sut y gellid trawsnewid rôl gweithwyr proffesiynol ym maes fferylliaeth o fewn sectorau eraill er mwyn cyflawni mwy yn y blynyddoedd i ddod.”

Dywedodd Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol  Cymru:

“Roedd Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach yn rhoi cyfeiriad clir ar gyfer y gwaith o ddatblygu gofal fferyllol yng Nghymru. Mae trawsnewid rôl fferyllfeydd cymunedol yn ein helpu i oresgyn yr heriau nas gwelwyd eu tebyg o’r blaen sy’n codi o ganlyniad i ddigwyddiadau’r ddwy flynedd diwethaf.

“Mae gwaith da wedi ei wneud mewn perthynas â chyflawni ein dyheadau o ran arfer fferyllol ym mhob sector. Mae’r nodau diwygiedig hyn yn darparu sail ar gyfer cefnogi a datblygu rôl gweithwyr proffesiynol mewn fferylliaeth sy’n gweithio yn ein ysbytai ac ym maes gofal yn y gymuned, er mwyn sicrhau y gallant barhau i fodloni anghenion cleifion, sy’n newid o hyd, a’u bod wedi’u grymuso i ymateb i’r heriau sy’n wynebu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

“Mae ein nodau newydd uchelgeisiol yn adeiladu ar y gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud i weithredu e-Bresgrepsiynu mewn gofal eilaidd a gofal sylfaenol, gan gynyddu'r defnydd o dechnoleg ddigidol a ffarmacogenomeg. Rydym hefyd am sicrhau bod y proffesiwn yn cyflawni ei rwymedigaethau i fod yn fwy cymdeithasol gyfrifol, gan fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ym maes iechyd, cefnogi cynaliadwyedd amgylcheddol a hyrwyddo defnydd o'r Gymraeg."

Dywedodd Elen Jones, Cyfarwyddwr Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru:

“Mae nodau 2025 yn parhau i sbarduno ein dyheadau ar gyfer fferylliaeth yng Nghymru, gan chwalu ffiniau rhwng lleoliadau gofal a datblygu'r gweithlu i sicrhau bod cleifion yn elwa o arbenigedd y tîm fferylliaeth lle bynnag a phryd bynnag y bydd ei angen arnynt..

“Mae’r Gymdeithas Fferyllol Frenhinol wedi bod yn falch o fod yn rhan o’r datblygiadau hyn. Rhoi cynlluniau ar waith ar waith ledled Cymru yw'r cam pwysig nesaf ac edrychwn ymlaen at weithio gyda chydweithwyr i gefnogi'r agenda bwysig hon dros y tair blynedd nesaf a thu hwnt."

Dywedodd Jonathan Simms, Cadeirydd Pwyllgor Fferyllol Cymru:

“Mae heddiw yn garreg filltir bwysig ar y daith tuag at wireddu ein gweledigaeth ar gyfer fferylliaeth yng Nghymru erbyn 2030. Mae'r nodau'n pennu uchelgais ar sut y bydd fferyllwyr, technegwyr fferyllfeydd a’n staff cymorth, ar draws pob lleoliad gofal, yn gwella gofal cleifion ac optimeiddio meddyginiaethau ar gyfer dinasyddion Cymru.

“Rydym wedi cyflawni llawer ers cyhoeddi Fferylliaeth: Cyflawni Cymru Iachach yn  2019, yn arbennig drwy'r pandemig lle'r oedd angen i dimau addasu er mwyn cynnal gwasanaethau hanfodol i gleifion. Mae'r nodau newydd yn cydnabod yr heriau sy'n wynebu'r gweithlu ar hyn o bryd wrth i ni adfer o'r pandemig. Gyda hyn daw cyfleoedd i gyflawni rolau newydd, ymgorffori sgiliau newydd a sbarduno'r defnydd o dechnoleg i wneud Cymru'n lle bywiog i weithio wrth ddarparu gofal fferyllol rhagorol.”

Nodiadau i olygyddion