English icon English
Jeremy Miles tystysgrif certificate

Lansio cynllun Llysgenhadon Diwylliannol i hyrwyddo’r Gymraeg a threftadaeth Cymru

Cultural Ambassadors scheme launched to promote the Welsh language and heritage

Heddiw, ar Ddydd Gŵyl Dewi, mae Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, wedi lansio cynllun Llysgenhadon Diwylliannol er mwyn hyrwyddo’r Gymraeg a diwylliant a threftadaeth Cymru.

Rôl y rhwydwaith o Lysgenhadon Diwylliannol yw cefnogi pobl sy’n ymgartrefu yn ein cymunedau ledled Cymru i ddysgu mwy am Gymru, yr iaith a’i phwysigrwydd i’r gymuned, rhoi cefnogaeth ac arweiniad i fusnesau ddefnyddio a hyrwyddo’r Gymraeg, a gweithio’n lleol i gynnal a chryfhau rhwydweithiau cymdeithasol.

Gall unrhyw berson neu fusnes wirfoddoli i ddod yn llysgennad a hynny drwy gwblhau modiwlau rhyngweithiol byr am hanes y Gymraeg a’i sefyllfa heddiw. Ar ôl cwblhau’r modiwlau ar wefan Llysgennad Cymru, mae’r gwirfoddolwyr yn derbyn tystysgrif, bathodyn, sticer ffenest, a phecyn gwybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael fel gwasanaeth cyfieithu am ddim i gymunedau, unigolion a sefydliadau trydydd sector.

Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, yw’r unigolyn cyntaf i ddod yn y llysgennad diwylliannol. Wrth lansio’r cynllun heddiw, dywedodd:

“Rwy’n falch iawn o ddod yn Llysgennad Diwylliannol a lansio’r cynllun ar Ddydd Gŵyl Dewi. ‘Gwnewch y pethau bychain’ oedd neges Dewi Sant, ac mae dod yn llysgennad yn ffordd syml ac ymarferol o gefnogi a hyrwyddo’r Gymraeg a’n diwylliant, helpu pobl i integreiddio i’w cymunedau newydd, croesawu ymwelwyr, a chodi ymwybyddiaeth o’n treftadaeth a’n diwylliant.

“Os ydych chi eisiau cefnogi’r Gymraeg yn eich ardal chi, neu’n gwybod am rhywun delfrydol yn eich cymuned all ddod yn llysgennad, yna ewch amdani a lledaenwch y neges.”

Modiwlau lefel Efydd sy'n cael ei lansio heddiw. Bydd lefelau Arian ac Aur yn cael eu hychwanegu ar blatfform Llysgennad Cymru yn nes ymlaen yn y flwyddyn. I ddysgu mwy am y cynllun a sut i ddod yn llysgennad, ewch i Cwrs Llysgenhadon Diwylliannol – Llysgenhadon Cymru (ambassador.wales)

Mae’r modiwlau Efydd yn cymryd tua 20 munud i’w cwblhau, a gall y llysgenhadon benderfynu beth fyddant yn ei wneud i gefnogi’r Gymraeg yn eu cymuned. 

Nodiadau i olygyddion

Yn y llun: Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, gyda bathodyn a thystysgrif Llysgennad Diwylliannol.