English icon English

Lansio hyfforddiant gwrth-hiliaeth i gefnogi’r Cwricwlwm newydd

Anti-racist training launched to support new Curriculum for Wales

Mae deunyddiau dysgu proffesiynol amrywiaeth a gwrth-hiliaeth (DARPL) newydd, o safon uchel, nawr ar gael am ddim i bob gweithiwr addysg proffesiynol ledled Cymru, wrth i hanes a phrofiadau Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol ddod yn rhan orfodol o'r Cwricwlwm i Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030, sy’n galw am ddim goddefgarwch tuag at bob math o hiliaeth. Er mwyn cyflawni hyn, rhaid i’n system addysg ehangu dealltwriaeth a gwybodaeth ein disgyblion o’r diwylliannau amrywiol sy’n rhan o’n gorffennol a’n presennol. Bydd y dysgu proffesiynol newydd hwn yn help i gyflawni’r uchelgais hwn.

Fe pennaeth Du cyntaf Cymru, Betty Campbell MBE, arloesi gyda chwricwlwm a oedd yn cynnwys hanesion Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol. Mae un o'i chyn-ddisgyblion, Chantelle Haughton, Prif Ddarlithydd Addysg Plentyndod Cynnar ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, yn ysgogi dull gweithredu cenedlaethol i rymuso'r holl staff addysgol gyda'r wybodaeth, sgiliau, empathi a'r hyder i ddathlu a gwerthfawrogi amrywiaeth.

Mae adnoddau, hyfforddiant, ac arweiniad ar gyfer gweithwyr addysg proffesiynol ar gael mewn un lle trwy gampws rhithwir DARPL. Mae’r prosiect blaengar hwn yn cael ei arwain gan glymblaid o bartneriaid sydd â phrofiad proffesiynol ac ymarferol i gefnogi'r rhai sy'n gweithio ym myd addysg er mwyn iddynt ddeall a datblygu arferion gwrth-hiliol.

Cafodd manylion y prosiect eu cadarnhau yn gynharach eleni, gyda dysgu proffesiynol gwrth-hiliol ar gyfer ymarferwyr mewn ysgolion. O dymor yr hydref, bydd y ddarpariaeth yn cael ei chynnig i ymarferwyr y blynyddoedd cynnar ac ymarferwyr addysg bellach. Bydd modiwl dysgu proffesiynol gwrth-hiliol newydd ar gyfer uwch arweinwyr addysg yn cael ei lansio yn y Gwanwyn.

Mae DARPL yn un o’r meysydd dysgu proffesiynol carlam newydd a gefnogir Llywodraeth Cymru fel rhan o'n Hawl Genedlaethol ar gyfer Dysgu Proffesiynol a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae'r hyfforddiant yn allweddol er mwyn cyflwyno'r Cwricwlwm i Gymru a sicrhau safonau a dyheadau uchel i bawb.

Lansiwyd y prosiect yn Ysgol Uwchradd Llanwern gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles, ar y cyd â Chyfarwyddwr DARPL, Chantelle Haughton, a wyres Mrs Betty Campbell, Rachel Clarke, a oedd yn bartner yn y gwaith o lywio a chyflwyno DARPL.

Mae gan Ysgol Uwchradd Llanwern gysylltiadau â'r pennaeth arloesol. Maent yn gweithio mewn partneriaeth â Thîm DARPL. Nhw oedd enillwyr cyntaf gwobr Betty Campbell MBE am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau Cymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru. Mae disgyblion a staff yr ysgol wedi dangos arweinyddiaeth gadarn wrth ddathlu amrywiaeth gan ddatblygu eu cwricwlwm i greu amgylchedd gynhwysol, gyda disgyblion o Glwb Amrywiaeth yr ysgol yn sbardun i’r cyfan.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

"Mae wedi bod yn bleser lansio’r prosiect cyffrous hwn yn Ysgol Uwchradd Llanwern, ac yn bleser i weld y gwaith pwysig sydd eisoes yn cael ei wneud gan y disgyblion a’r athrawon er mwyn gwneud yr ysgol a’r addysgu'n wrth-hiliol yng ngwir ystyr y gair.

"Bydd y dull gweithredu cenedlaethol hwn ar gyfer dysgu proffesiynol, sydd o safon uchel, yn helpu'r gweithlu addysg i gyflwyno cwricwlwm sy’n adlewyrchu ac yn parchu pawb.

“Rwy’n annog pob addysgwr yng Nghymru i ymgymryd â DARPL wrth i ni weithio tuag at ein uchelgais o greu Cymru Wrth-hiliol erbyn 2030.”

Dywedodd Chantelle Haughton:

“Yn ystod y cyfnod allweddol hwn o newid gyda’r Cwricwlwm newydd i Gymru, mae gennym gyfle i gefnogi addysgwyr er mwyn sicrhau newid sylweddol.

“Mae dysgu proffesiynol ac ail-feddwl ymarfer proffesiynol yn allweddol. Mae DARPL yn rhoi cyfle i sicrhau tegwch a chynefin i bob plentyn yng Nghymru.

“Ymunwch â ni yn sgwrs genedlaethol  a chymuned gweithredu genedlaethol DARPL. Mae DARPL yn rhywbeth i bawb sy'n ymwneud ag addysg a gofal plant yng Nghymru.”

Nodiadau i olygyddion

Diversity and anti-racist professional learning (DARPL) is available to leaders and practitioners in schools and further education, as well as childcare and play practitioners across Wales. DARPL provision also extends to governors and wider school staff, together with middle tier leaders within education consortia.