English icon English
image00026-2

Lansio'r gwasanaeth presgripsiynau electronig cyntaf yng Nghymru

First electronic prescription service launches in Wales

Cleifion yn y Rhyl yw'r rhai cyntaf i elwa ar wasanaeth presgripsiynau electronig newydd, sy'n caniatáu i feddygon teulu anfon presgripsiynau'n ddiogel ar-lein i fferyllfa gymunedol o ddewis y claf, heb yr angen am ffurflen bapur.

Mae'r gwasanaeth newydd, a lansiwyd heddiw [Dydd Gwener 17 Tachwedd], yn gwneud y broses o bresgripsiynu a dosbarthu meddyginiaethau i gleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn haws, yn fwy diogel ac yn fwy effeithlon.

Am y tro cyntaf, nid oes rhaid i feddygon teulu argraffu, llofnodi na chyflwyno presgripsiwn papur gwyrdd i'r claf nac aros iddo gael ei ddanfon i'r fferyllfa. Yn hytrach, anfonir y presgripsiwn yn electronig o'r feddygfa drwy'r system TG i fferyllfa o ddewis y claf - heb iddo orfod mynd i'r feddygfa i gael ffurflen presgripsiwn rheolaidd.

Yn ogystal â chreu manteision i gleifion, bydd symud i bresgripsiynau electronig yn arbed hyd at 40 miliwn o ffurflenni papur rhag cael eu hargraffu a'u didoli bob blwyddyn.

Bydd y gwasanaeth newydd yn cael ei gyflwyno'n raddol ledled Cymru o fis Ionawr 2024 ymlaen, ac mae'n rhan o ymrwymiad ehangach i gyflwyno meddyginiaethau digidol ac e-bresgripsiynu ym mhob ysbyty a lleoliad gofal sylfaenol yng Nghymru.

Ar ymweliad â'r feddygfa a'r fferyllfa gymunedol gyntaf i ddefnyddio presgripsiynau electronig, Canolfan Feddygol Lakeside a Fferyllfa Ffordd Wellington y Rhyl, dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan AS:

"Rydyn ni ar ddechrau taith ddigidol gyffrous a fydd yn gweddnewid y ffordd mae presgripsiynau yn cael eu rheoli ym maes gofal sylfaenol, gan symleiddio proses nad yw wedi newid fawr ddim ers degawdau.

"Bydd presgripsiynau electronig yn gwneud gwahaniaeth enfawr i'r Gwasanaeth Iechyd a chleifion ac mae'n garreg filltir bwysig yn ein taith tuag at ddigideiddio pob presgripsiwn ym mhob lleoliad gofal iechyd yng Nghymru."

"Hoffwn ddiolch i'r staff yn y feddygfa a'r fferyllfa am eu cefnogaeth fel y rhai cyntaf i fabwysiadu'r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig ac rwy'n gobeithio gallwn ni edrych ar sut all lleoliadau gofal sylfaenol eraill ddefnyddio presgripsiynu digidol."

Dywedodd Andrew Evans, Prif Swyddog Fferyllol Cymru:

"Mae arloesi digidol yn allweddol i wella'r gwasanaeth presgripsiynau i gleifion a'n fferyllwyr a'n meddygon teulu sy'n gweithio'n galed. Mae hyn yn newid trawsnewidiol a fydd yn cael effaith sylweddol ar y ffordd rydyn ni'n gweithio ac yn gweddnewid prosesau cyfredol. Mae'n hanfodol bod y newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno'n ddiogel, a dyna pam mae'r cyfnod profi byw hwn mor bwysig. Rwy'n ddiolchgar i'r timau sy'n gweithio'n galed yn y feddygfa a'r fferyllfa, sef y rhai cyntaf i fabwysiadu presgripsiynau digidol ym maes gofal sylfaenol ac i bawb sy'n rhan o gyflawni'r gwaith pwysig hwn i bobl ac ymarferwyr yn y maes ledled Cymru."

Dywedodd yr Athro Hamish Laing, y Prif Berchennog Cyfrifol ar gyfer y Portffolio Trawsnewid Meddyginiaethau Digidol:

"Mae heddiw yn llwyddiant mawr ac yn garreg filltir allweddol ar ein taith i ddigideiddio'r gwaith o reoli presgripsiynau a meddyginiaethau yng Nghymru. Rydyn ni wedi gweld awydd ac ymrwymiad gwirioneddol gan feddygon teulu a fferyllwyr cymunedol i fabwysiadu hyn a gan y cwmnïau meddalwedd dan sylw i wneud y newidiadau angenrheidiol i'w systemau cyn gynted â phosibl.

"Mae cydweithwyr yn y Gwasanaeth Iechyd yn Lloegr a Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru hefyd wedi gwneud cyfraniad mawr, gan gynnwys sefydlu proses ar gyfer ad-dalu fferyllfeydd yn ddigidol a rhoi mesurau diogelwch ar waith.

"Mae ein dull cydweithredol o roi pobl wrth galon y gwaith a gweithio'n agos gyda chlinigwyr, cleifion a chyflenwyr yn y diwydiant yn sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth sy'n diwallu anghenion pawb sy'n ei ddefnyddio."

DIWEDD

 

Nodiadau i olygyddion

Notes

Filming op in Rhyl Thursday 16th November. Contact vicky.ferris@gov.wales for details.

Updated release with photos will be issued Thursday 16th afternoon. 

The launch of electronic prescriptions in Wales is the result of 20 months of work by the Digital Medicines Transformation Portfolio (DMTP).

The Digital Medicines Transformation Portfolio (DMTP) aims to ‘make the prescribing, dispensing and administration of medicines, easier, safer, more efficient and effective for patients and professionals through digital.’

It brings together the programmes and projects that will deliver the benefits of a fully digital prescribing approach in all care settings in Wales. The Portfolio coordinates four areas of work, all of which have connections with each other: Primary Care Electronic Prescription Service (EPS), Secondary Care electronic Prescribing and Medicines Administration (ePMA), Patient Access (through the NHS Wales app) and a Shared Medicines Record. The DMTP is hosted by Digital Health and Care Wales.

Find out more on the Digital Medicines Transformation Portfolio website.