Lansio'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth yn swyddogol
National Office for Care and Support formally launched
Mae'r Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden, wedi croesawu lansiad y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth newydd, sy'n nodi cam pwysig arall tuag at sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru.
Gyda ffocws ar arloesi, gwella a thrawsnewid gwasanaethau oedolion a phlant, mae'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth yn rhan fawr o nod hirdymor Llywodraeth Cymru i gryfhau trefniadau gofal cymdeithasol ar lefel genedlaethol.
Lansio'r swyddfa genedlaethol yw rhan gyntaf y cynllun fesul cam i weithredu'r Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, sy'n flaenoriaeth gyffredin yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Bydd y Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth yn canolbwyntio'n bennaf ar gefnogi Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru yn ei rôl, darparu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol i Gymru, a gweithredu'r Fframwaith Comisiynu Cenedlaethol ar gyfer Gofal a Chymorth yng Nghymru.
Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol newydd, Dawn Bowden:
"Rhagwelir y bydd nifer y bobl 85 oed a hŷn yng Nghymru yn cynyddu mwy na 65% dros yr 20 mlynedd nesaf - mae'n rhywbeth i'w ddathlu ein bod ni'n byw'n hirach ond mae hefyd yn golygu bod angen i ni ailfeddwl sut rydym yn gofalu am ein poblogaeth hŷn.
"Mae lansio'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth yn garreg filltir bwysig arall yn ein taith uchelgeisiol i greu Gwasanaeth Gofal a Chymorth Cenedlaethol. Bydd yn hanfodol i helpu i arwain y sector wrth iddo ysgogi gwelliannau o ran mynediad at ofal a phrofiad defnyddwyr gwasanaeth.
"Bydd hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol, gan weithio'n agos gyda Gweithrediaeth y GIG i sicrhau bod system iechyd a gofal cymdeithasol Cymru yn addas ar gyfer y dyfodol."
Dywedodd Albert Heaney, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru:
"Bydd y swyddfa genedlaethol yn dwyn ynghyd y 22 awdurdod lleol, yn cynnwys pobl sy'n defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol, eu gofalwyr, y gweithlu, cyrff proffesiynol, a phartneriaid allweddol gan gydweithio i gyflawni blaenoriaethau cenedlaethol, a safonau ansawdd, yn enwedig mewn perthynas â chomisiynu gwasanaethau gofal a chymorth.
"Bydd yn fy helpu i, fel y prif swyddog gofal cymdeithasol i sicrhau bod adnoddau yn cael eu cyfeirio i le bynnag y mae’r angen mwyaf amdanynt a'u bod nhw o fudd i'r rhai mwyaf agored i niwed, gan ysgogi gwelliant yn y ddarpariaeth genedlaethol o ofal cymdeithasol yng Nghymru i sicrhau canlyniadau, mynediad a phrofiad gwell a thecach i ddefnyddwyr gwasanaethau."
Dywedodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Cefin Campbell:
"Wrth i'n cymdeithas heneiddio mae angen i ni edrych yn ofalus ar sut rydym yn gofalu am ein dinasyddion hynaf ac yn darparu system sy'n gweithio i bawb ac sy'n rhad ac am ddim pryd bynnag a lle bynnag y mae ei angen. Mae sefydlu'r Swyddfa Genedlaethol Gofal a Chymorth yn gam bach ond pwysig o ran cyflawni'r weledigaeth hon."