Llacio mesurau diogelu coronafeirws wrth i achosion leihau
Coronavirus protections relaxed as cases fall
Heddiw, cyhoeddodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y bydd Cymru yn dechrau llacio’n raddol rai o’i mesurau diogelu coronafeirws sydd dal mewn grym wrth i achosion barhau i leihau.
O 18 Chwefror ymlaen, bydd y gofyniad cyfreithiol i ddangos Pás COVID i fynd i mewn i leoliadau a digwyddiadau penodol yn cael ei ddileu ac o Chwefror 28 ni fydd angen gwisgo gorchudd wyneb ym mhob man dan do cyhoeddus bellach.
Bydd y newidiadau yn cael eu cadarnhau ddydd Gwener, yn dilyn yr adolygiad tair wythnos o fesurau lefel rhybudd sero Cymru.
Awgryma’r canlyniadau diweddaraf o Arolwg Heintio’r ONS fod y lefelau haint wedi lleihau’n ddiweddar, ond fod cyfraddau trosglwyddo yn y gymuned yn parhau’n gymharol uchel ym mhob rhan o Gymru.
Dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford:
“Gyda niferoedd cynyddol o bobl wedi cael y brechlyn a’r brechlyn atgyfnerthu, a gyda diolch i waith caled ac ymdrechion pawb ledled Cymru, rydym yn hyderus bod cyfraddau’r coronafeirws yn lleihau ac y gallwn edrych ymlaen at amseroedd gwell i ddod.
“Gallwn ddechrau dileu’n raddol ac yn ofalus rai o’r mesurau diogelu sydd gennym mewn grym o hyd ar lefel rhybudd sero. Ond nid ydym yn dileu’r holl fesurau ar yr un pryd gan nad yw’r pandemig wedi dod i ben eto.
“I ddiogelu Cymru, mae angen inni fod yn wyliadwrus o hyd a gwneud popeth o fewn ein gallu i dawelu meddyliau pobl sy’n teimlo eu bod yn wynebu’r risg fwyaf. Byddwn yn cadw rhai o’r mesurau diogelu pwysig sydd mewn grym, gan gynnwys gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac ym mhob siop. Byddwn hefyd yn cadw’r rheolau hunanynysu sydd mewn grym.
“Fis nesaf, byddwn yn cyhoeddi cynllun yn nodi sut y byddwn yn symud y tu hwnt i lefel rhybudd sero a’r dull gweithredu mewn argyfwng rydym wedi bod yn ei ddilyn ers bron i ddwy flynedd.
“Bydd hyn yn helpu pob un ohonom i wneud cynlluniau ar gyfer y dyfodol.”
O ddydd Gwener 18 Chwefror ymlaen, ni fydd y Pás COVID domestig yn ofynnol bellach ar gyfer mynediad i ddigwyddiadau a lleoliadau dan do neu awyr agored, gan gynnwys clybiau nos, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd. Ond bydd digwyddiadau a lleoliadau yn gallu parhau i’w ddefnyddio os ydynt yn dewis gwneud hynny.
Bydd y Pás COVID rhyngwladol yn parhau i fod yn rhan annatod o drefniadau ar gyfer teithio rhyngwladol mwy diogel. Bydd angen i deithwyr edrych ar reolau’r wlad berthnasol ynghylch mynediad, gan gynnwys unrhyw ofynion gwahanol i blant.
O ddydd Llun 28 Chwefror ymlaen, bydd y gofyniad i wisgo gorchudd wyneb yn cael ei ddileu yn y rhan fwyaf o lefydd dan do, ac eithrio mewn siopau, ar drafnidiaeth gyhoeddus ac mewn lleoliadau iechyd a gofal.
Os yw’r amodau iechyd y cyhoedd yn parhau i wella, gallai’r gofyniad i wisgo gorchudd wyneb gael ei ddileu yn yr holl leoliadau sy’n weddill erbyn diwedd mis Mawrth.
Bydd ysgolion yn dychwelyd at ddefnyddio eu fframwaith penderfynu lleol o 28 Chwefror ymlaen. Yn ogystal, o 11 Chwefror ymlaen, bydd y canllawiau yn cael eu diweddaru er mwyn ei gwneud yn glir y gall oedolion dynnu eu gorchudd wyneb pan fyddant yn rhyngweithio â babanod a phlant bach mewn grwpiau i’r oedrannau hynny.
Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o reoliadau’r coronafeirws yn cael ei gynnal erbyn 3 Mawrth, pan fydd yr holl fesurau lefel rhybudd sero fydd yn parhau mewn grym yn cael eu hadolygu.