English icon English

Lleisiau Cymreig ifanc ar gyfer plant a phobl ifanc sy’n dibynnu ar dechnoleg i gyfathrebu

Young Welsh voices created for children and young people who rely on technology to communicate

O hyn ymlaen, bydd plant a phobl ifanc sy’n dibynnu ar dechnoleg i gyfathrebu yn gallu  defnyddio lleisiau pobl ifanc ag acenion Cymreig a fersiynau Cymraeg o’r dechnoleg, cyhoeddodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan.

Hyd yma, dim ond Cymhorthion Cyfathrebu Uwch-dechnoleg gydag acenion Seisnig ac Albanaidd y mae plant a phobl ifanc yng Nghymru wedi gallu eu dewis, yn ogystal â lleisiau Cymraeg ar gyfer oedolion.

Ond bydd cyllid Llywodraeth Cymru yn rhoi llais i blant a phobl ifanc sy’n cynrychioli eu hunaniaeth Gymreig ac sy’n swnio’n debycach i blant eraill yr un oedran.  

Mae cyfanswm o 16 o leisiau Cyfathrebu Estynedig ac Amgen (AAC) wedi cael eu datblygu. 

Mae’r rhain yn cynnwys lleisiau gydag acen y gogledd ac acen y de, yn y Gymraeg a’r Saesneg, ar gyfer bechgyn a merched, a fersiynau cyfatebol ar gyfer pobl ifanc yn eu harddegau.

Wrth lansio’r prosiect Lleisiau Synthetig Cymreig yn y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Technoleg Gynorthwyol Electronig yn Ysbyty Rookwood, Llandaf, dywedodd Julie Morgan:

“Dylai plant a phobl ifanc sy’n defnyddio cyfarpar AAC uwch-dechnoleg yng Nghymru gael y gallu i swnio fel eu ffrindiau a’u cyfoedion.

“Er bod plant Cymru sy’n defnyddio cyfarpar AAC yn gallu gwneud hynny yn Gymraeg yn barod, dydyn nhw ddim yn gallu gwneud hyn drwy gyfrwng llais priodol ar gyfer eu hoedran. 

“Rydw i wrth fy modd y bydd y lleisiau Cymraeg a’r acenion Cymreig newydd hyn yn helpu i roi mwy o opsiynau iddyn nhw, ac i roi ymdeimlad cryfach o hunaniaeth Gymreig iddyn nhw. Bydd hyn hefyd yn helpu i gefnogi eu lles meddyliol.”

Ychwanegodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

“Nod y prosiect yw cefnogi plant ag anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu, gan gynnwys y rhai sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, drwy wella hyder dysgwyr wrth iddyn nhw fynegi eu hunain.

“Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd ac mae’n hanfodol bwysig bod ein holl blant a phobl ifanc yn gallu cyfathrebu yn yr iaith y maen nhw’n ei dewis.”

Dywedodd Dr Jeffrey Morris, Pennaeth y Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Technoleg Gynorthwyol Electronig:

“Mae’r datblygiad hwn yn dileu rhwystr arall i gyfathrebu i blant yng Nghymru sy’n dibynnu ar uwch-dechnoleg i roi llais iddynt. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru – hebddi, fyddai hi ddim wedi bod yn bosibl inni gyrraedd y garreg filltir bwysig hon.”

Dywedodd Rebecca Meyrick, mam Lina, un o gleifion y ganolfan:

“Mae gwir angen y lleisiau hyn ar gyfer pobl ifanc a’u teuluoedd. Bydd cael llais sy’n cyd-fynd â’u hunaniaeth Gymreig yn gwneud gwahaniaeth mawr. Hwn yw’r darn coll o’r jig-so.”