English icon English

Llinell Dros Nos - Ardoll Ymwelwyr

Overnight Line - Visitor Levy

Heddiw, bydd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford yn cyflwyno Bil newydd a fydd, os caiff ei basio, yn rhoi'r dewis i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll fach ar gyfer ymwelwyr yn eu hardaloedd. Byddai'r refeniw a gâi ei godi yn cael ei ailfuddsoddi i gefnogi twristiaeth yn lleol.

Mae cyflwyno'r ddeddfwriaeth yn cyflawni un o ymrwymiadau allweddol y Rhaglen Lywodraethu a bydd yn helpu i fuddsoddi yn nyfodol Cymru gan y byddai pob ymwelydd sy'n aros dros nos yn cyfrannu at ddiogelu harddwch a threftadaeth y wlad.