Llinell wrando 24 awr bellach yn cynnig cefnogaeth i deuluoedd sy’n byw gyda chyflyrau niwrowahanol
Twenty-four hour listening line now offering support to families living with neurodivergent conditions
Mae Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi cyhoeddi bod cymorth a chyngor 24 awr ar gael bellach i deuluoedd sy’n byw gydag awtistiaeth a chyflyrau niwrowahanol.
Mae’r gwasanaeth hwn yn cael ei ddarparu drwy ehangu’r Llinell Wrando a Chymorth Cymunedol (Llinell Gymorth C.A.L.L.), ac mae ei staff medrus a phrofiadol yn cael hyfforddiant ychwanegol ar niwrowahaniaeth gan y Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol.
Mae’r cynllun Niwrowahanol – a all hefyd gyfeirio unigolion niwrowahanol, eu teuluoedd a’u ffrindiau at lenyddiaeth ddefnyddiol neu wybodaeth am wasanaethau – wedi bod ar waith ers mis Ebrill 2023. Caiff ei effaith ei gwerthuso er mwyn sicrhau ei fod yn diwallu anghenion pobl sy’n byw gyda’r cyflyrau hyn.
Mae’r fenter yn rhan o ymdrechion Llywodraeth Cymru i gyflawni un o’i hymrwymiadau yn y Rhaglen Lywodraethu, sef gwella gwasanaethau a chefnogaeth ar gyfer pobl niwrowahanol.
Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Mae gen i ddiddordeb brwd iawn mewn sicrhau ein bod ni’n darparu’r gefnogaeth y mae pobl niwrowahanol yn dweud wrthyf sydd ei hangen arnyn nhw. Rwyf wedi cwrdd â llawer o deuluoedd a chlywed am yr anawsterau maen nhw’n eu profi o ran cael mynediad at gymorth a chefnogaeth ar gyfer awtistiaeth, ADHD a syndrom Tourette.
“Mae llawer o deuluoedd wedi dweud wrthyf i bod angen iddynt allu rhannu eu gofidion, a byddai gwybod bod rhywun ar gael sy’n gallu gwrando arnyn nhw, heb eu beirniadu, yn gwneud gwahaniaeth i’w bywydau a’u llesiant. Rwy’n falch o ddweud ein bod ni’n gwrando ac yn gweithredu ar hynny.
“Rwy’n gobeithio y bydd y llinell wrando newydd hon yn helpu i wella bywydau pobl niwrowahanol a’u teuluoedd mewn ffordd ystyrlon, ac yn dod yn ffynhonnell werthfawr o gefnogaeth.”
Dywedodd Luke Ogden, rheolwr Llinell Gymorth C.A.L.L.:
“Rydyn ni’n falch o allu cynnig cefnogaeth i fwy o bobl yng Nghymru, gan gynnwys y rhai sy’n byw gyda chyflyrau niwrowahanol, eu teuluoedd a’u ffrindiau. Drwy gael yr hyfforddiant mae’r Tîm Awtistiaeth Cenedlaethol yn ei ddarparu, byddwn ni’n cynnig gwasanaeth mwy cynhwysol.
“Mae’r llinell gymorth yn gallu cynnig cefnogaeth emosiynol i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru, darparu gwybodaeth am wasanaethau ledled y wlad, a darparu llenyddiaeth ar ystod o bynciau i’r rhai sy’n gofyn amdani.”