Y Prif Weinidog yn cynnal cynhadledd i drafod llygredd mewn afonydd
First Minister hosts summit on solutions to river pollution
Bydd y Prif Weinidog yn cynnal cynhadledd heddiw yn Sioe Frenhinol Cymru i drafod sut i leihau’r llygredd yn afonydd Cymru.
Bydd cynrychiolwyr llywodraeth leol, undebau’r ffermwyr, y diwydiant adeiladu, cwmnïau dŵr, rheoleiddwyr, asiantaethau amgylcheddol a chynhyrchwyr bwyd yn dod ynghyd ar gyfer y cyfarfod ar faes Sioe Frenhinol Cymru yn Llanelwedd.
Mae lefelau uchel o ffosfforws mewn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig yn niweidio ecosystemau bregus a dalgylchoedd ehangach gan arwain at broblemau posibl o ran cynhyrchu bwyd ac effeithiau tymor hir ar adeiladu tai.
Mae Llywodraeth Cymru’n buddsoddi £40m dros y tair blynedd nesaf i fynd i’r afael â llygredd mewn afonydd ac i amddiffyn ein hamgylchedd.
Mae diogelu a gwella’r amgylchedd dŵr yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac mae’n rhan ganolog o’r ymateb i’r argyfyngau natur a hinsawdd.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford cyn y gynhadledd:
“Er mwyn mynd i’r afael â ffosfforws yn ein hafonydd, rhaid gweithio gyda’n gilydd.
“Mae’n bwnc cymhleth ac nid ar chwarae bach y mae cael hyd i’r atebion – mae gennym oll ran i’w chwarae i ostwng lefelau ffosfforws a thaclo gwir achosion llygredd.
“Rhaid gweithio gyda’r sector ffermio, cynhyrchwyr bwyd a’r diwydiant bwyd i ddatrys y problemau hyn. A dyna pam dwi wedi galw’r gynhadledd hon yn y Sioe Fawr.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd Julie James, a fydd yn y gynhadledd:
“Rhaid gwneud rhywbeth nawr i ostwng lefelau ffosfforws yn ein hafonydd sy’n gwneud cymaint o niwed i’r amgylchedd.
“Rhaid dal ati i weithio gyda’n holl bartneriaid i drechu’r heriau hyn.
"Rhaid peidio â pheryglu gwytnwch ecosystemau’r môr a dŵr croyw a’r manteision y maen nhw’n eu rhoi i ni i genedlaethau’r dyfodol.”