Llys Rhosyr – Llys Brenhinol Tywysogion Gwynedd yn dod yn heneb rhif 131 Cadw
'Llys Rhosyr - a Royal Court of the Princes of Gwynedd - becomes Cadw's 131st monument
Heddiw, mae Dawn Bowden Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon wedi cyhoeddi bod Llys Rhosyr ar Ynys Môn, sef llys pwysig i Dywysogion Gwynedd yn yr oesoedd canol wedi dod i feddiant Cadw ar gyfer y wlad. Bydd hanes y safle arwyddocaol hwn felly yn cael ei gadw a’i warchod ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau’r dyfodol.
Wedi’i leoli ger Niwbwrch, Llys Rhosyr yw unig Lys Tywysogion Cymru yng Nghymru sydd ag olion i’w gweld ac y gall y cyhoedd ymweld ag ef. Caiff arwyddocâd diwylliannol y safle hwn ei adlewyrchu yn y ffaith bod Cadw wedi’i ddynodi yn heneb gofrestredig. Bellach, Llys Rhosyr yw heneb rhif 131 a fydd yn cael ei warchod yn uniongyrchol gan Cadw.
Mae llysoedd neu balasau brenhinol Tywysogion Gwynedd ymhlith y cyfadeiladau aneddiadau hynafol pwysicaf yn nhirwedd Cymru’r oesoedd canol. Er bod safleoedd llysoedd eraill yn hysbys o ddogfennau neu wedi eu hawgrymu yn rhai yn sgil proses o gloddio rhannol, Llys Rhosyr yw unig Lys Tywysogion Cymru nas amddiffynnwyd sydd wedi’i gadarnhau drwy gloddio archaeolegol.
Gwnaeth Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon y cyhoeddiad yn ystod ymweliad â Llys Llewelyn yn Sain Ffagan, Amgueddfa Cymru.
Mae dau o adeiladau’r llys o Lys Rhosyr wedi eu hail-greu yn Sain Ffagan fel Llys Llewelyn. Mae’r rhain yn enghreifftiau diddorol o archaeoleg arbrofol ar waith ac maen nhw o gymorth i gyflwyno pobl i fyd Cymru yn yr oesoedd canol.
Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:
“Rwy’n hynod o falch ein bod wedi gallu prynu’r safle arwyddocaol hwn yn hanes Cymru. Bydd Cadw nawr yn bwrw ati â’r gwaith er mwyn sicrhau bod y safle yn cael ei warchod yn iawn a bod modd i bawb ymweld ag ef a’i werthfawrogi.
“Mae ymweld â Llys Llywelyn yn Sain Ffagan wedi rhoi cipolwg hynod o ddiddorol o ran naws a golwg y safle gwreiddiol ym Mׅôn– a pha mor bwysig oedd y safle i hanes Cymru.
“Ac wrth gwrs, mae gan wir safle Llys Rhosyr bosibiliadau archeolegol mawr yn ogystal â naws bwysig am le gyda golygfeydd tuag allan ar hyd y Fenai a thuag at fynyddoedd Eryri. Manteisiodd Tywysogion Gwynedd ar y rhain yn ystod ymosodiadau.”
Dywedodd Nia Williams, Cyfarwyddwr Dysgu a Rhaglenni Cyhoeddus, "Adeiladwyd Llys Llywelyn fel rhan o ailddatblygiad Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru. Mae'n dod â phrofiad llys Brenhinol Tywysogion Gwynedd yn fyw i'n hymwelwyr. Mae'n adeilad poblogaidd ac fe'i defnyddir ar gyfer llawer o ddigwyddiadau megis gigs cerddoriaeth, gwleddoedd canoloesol ac aros dros nos. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio gyda Cadw a pharhau gyda'r berthynas rhwng cymuned leol Llys Rhosyr ar Ynys Môn ac ailgread y Llys yma yn Sain Ffagan."