English icon English
Rhiw Cehn Glwad016 (copy)

Llywodraeth Cymru a gweithredwyr rhwydwaith i weithio gyda’i gilydd ar gynllun a fydd y cyntaf o’i fath i greu grid ynni integredig tuag at sero-net

Welsh Government and network operators to work together on plan as UK first for integrated energy grid for net zero.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i allyriadau sero-net erbyn 2050. Er mwyn cyflawni hynny, mae angen trawsnewid ein system ynni'n gyflym, er mwyn gallu datgarboneiddio dulliau gwresogi yn y cartref, trafnidiaeth a diwydiant.

Wrth wraidd y gwaith hwn mae'r rhwydweithiau sy'n gyfrifol am gysylltu cartrefi ac adeiladau â thrydan a nwy. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda gweithredwyr rhwydweithiau trydan a nwy presennol Cymru i sicrhau bod eu rhwydweithiau'n gallu cefnogi trawsnewid y systemau ynni y mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd yn dweud sy'n angenrheidiol erbyn 2030.

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn mai dull gweithredu wedi'i gynllunio sydd fwyaf addas ar gyfer datblygu rhwydweithiau sy'n diwallu anghenion lleoedd a phobl yn y dyfodol ac sy'n darparu'r gwerth hirdymor gorau i gymdeithasau.

Mae Llywodraeth Cymru a gweithredwyr rhwydweithiau ynni i gyd wedi cydnabod yr angen i ddatblygu dull strategol o gynllunio rhwydweithiau nwy a thrydan ac maent yn cydweithio ar sut y gall rhwydweithiau ynni'r dyfodol ddiwallu anghenion Cymru.

Nod Cymru yw bod y wlad gyntaf i gael dull ar y cyd o ddatblygu ei rhwydweithiau nwy a thrydan.

I wneud hyn, mae Llywodraeth Cymru yn arwain y gwaith o ddatblygu cynllun strategol ar gyfer y grid ynni yn y dyfodol hyd at 2050. Bydd y gwaith hwn yn casglu ac yn asesu tystiolaeth, yn ystyried senarios, ac yn cynghori ar gamau 'edifeirwch isel' tymor byr y gellir eu cymryd ar unwaith.

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:

“Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod yr holl weithredwyr rhwydweithiau ynni yng Nghymru, ac Ofgem, wedi cytuno i weithio gyda ni i ddatblygu'r hyn a gredwn yw’r cyntaf o'i fath yn y DU – cynllun integredig, hirdymor ar gyfer rhwydweithiau nwy a thrydan yng Nghymru.

 

“Mae datblygu a chyflawni cynlluniau seilwaith yn broses hirdymor. Fodd bynnag, mae'r argyfwng hinsawdd yn golygu bod yn rhaid inni symud cyn gynted â phosibl. Mae angen inni wneud hyn yn iawn, gan y bydd yn newid unwaith mewn canrif i'n seilwaith. Wrth gwrs, bydd angen inni gynnwys pob sector yn y gwaith hwn, ac rwyf wedi ymrwymo i wneud hyn wrth i'r gwaith ddatblygu.”

Dywedodd Sarah Williams, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Strategaeth Asedau Wales & West Utilities:

“Rydym yn falch o fod yn rhan o'r prosiect hwn sy'n arwain y diwydiant – sy'n hanfodol os ydym am gyrraedd sero-net a helpu cymunedau a diwydiant ledled Cymru i ddatgarboneiddio mewn ffordd sy'n ddibynadwy ac yn gynaliadwy. Drwy gydweithio, gallwn sicrhau bod yr effaith ar filiau cwsmeriaid yn parhau i fod cyn lleied â phosibl, gan ddatgloi potensial nwy gwyrdd fel hydrogen a biomethan ochr yn ochr â thrydan adnewyddadwy.”

Dywedodd Frank Mitchell, Prif Weithredwr SP Energy Networks:

“Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru a'n gweithredwyr rhwydwaith eraill i ddarparu rhwydwaith yn barod ar gyfer sero-net. Dyna pam yr ydym am fuddsoddi dros £650 miliwn yn y rhwydwaith dosbarthu trydan yng Nghymru rhwng 2023 a 2028. Bydd hefyd yn cefnogi cannoedd o swyddi gwyrdd ac yn galluogi datgarboneiddio gwres a thrafnidiaeth sy'n gwbl hanfodol i gyflawni targedau Cymru ar newid hinsawdd.”

Dywedodd Sean Sullivan, Rheolwr Gwasanaethau Rhwydwaith De Cymru Western Power Distribution:

“Rydym yn ymrwymedig i weithio gyda Llywodraeth Cymru a'n gweithredwyr rhwydwaith eraill i ddarparu rhwydwaith yn barod ar gyfer sero-net. Dyna pam yr ydym am fuddsoddi dros £650 miliwn yn y rhwydwaith dosbarthu trydan yng Nghymru rhwng 2023 a 2028. Bydd hefyd yn cefnogi cannoedd o swyddi gwyrdd ac yn galluogi datgarboneiddio gwres a thrafnidiaeth sy'n gwbl hanfodol i gyflawni targedau Cymru ar newid hinsawdd.”