English icon English
Cargo ship-2

Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn lansio proses gynnig am borthladd rhydd cyntaf Cymru

Welsh and UK Governments launch bidding process for Wales’ first freeport

Heddiw, mae Llywodraethau Cymru a'r DU yn gwahodd ceisiadau am borthladd rhydd cyntaf Cymru, a ddylai fod ar agor erbyn haf 2023.

Ym mis Mai 2022, daeth Llywodraeth Cymru i gytundeb gyda Llywodraeth y DU i sefydlu Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru.

Cytunodd Gweinidogion Cymru i gefnogi polisïau porthladdoedd rhydd yng Nghymru yn dilyn cytundeb Llywodraeth y DU y byddai'n ateb galwadau Llywodraeth Cymru y byddai'r ddwy lywodraeth yn gweithredu fel 'partneriaeth gyfartal' i sefydlu porthladdoedd rhydd yng Nghymru.

Hefyd, cytunodd Gweinidogion y DU hefyd i ddarparu hyd at £26 miliwn o gyllid cychwynnol heb fod yn ad-daladwy ar gyfer unrhyw borthladd rhydd a sefydlwyd yng Nghymru, fel y cytundebau a gynigir i bob un o borthladdoedd rhydd Lloegr a’r Alban.

Bydd porth rhydd yng Nghymru yn barth arbennig gyda buddion gweithdrefnau tollau symlach, rhyddhad ar dollau tramor, manteision treth, a hyblygrwydd datblygu. 

Mae Llywodraethau Cymru a'r DU wedi cydweithio i ddylunio model porthladdoedd rhydd a fydd yn cyflawni tri phrif amcan y mae'n rhaid i ymgeiswyr eu bodloni:

  • Hyrwyddo adfywio a chreu swyddi o ansawdd uchel.
  • Sefydlu'r Porthladd Rhydd fel canolfan genedlaethol ar gyfer masnach a buddsoddi byd-eang ar draws yr economi.
  • Meithrin amgylchedd arloesol.

Mae gan Lywodraeth Cymru Genhadaeth Economaidd glir i drawsnewid economi Cymru i fod yn fwy ffyniannus, cyfartal a gwyrdd nag erioed o'r blaen.

Mae Gweinidogion Cymru wedi llwyddo i ddadlau y bydd angen i borthladd rhydd yng Nghymru weithredu mewn modd sy'n cyd-fynd â pholisïau Llywodraeth Cymru ar waith teg a phartneriaeth gymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys gweithwyr yn cael eu gwobrwyo'n deg, eu clywed a'u cynrychioli, a gall symud ymlaen mewn amgylchedd gwaith diogel, iach, a chynhwysol, lle mae eu hawliau'n cael eu parchu.

O ganlyniad, mae'r Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru yn cynnwys polisïau wedi'u gwneud yng Nghymru, fel:

  • cynnwys Contract Economaidd Llywodraeth Cymru.
  • Mewnbwn undebau llafur mewn strwythurau llywodraethu porthladdoedd rhydd.
  • Pwyslais ar y cyflog byw gwirioneddol a chodi'r isafswm cyflog.
  • Gosod disgwyliadau ynghylch triniaeth cyflogwyr o gyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwr.

Bydd angen i borthladd rhydd yng Nghymru weithredu o fewn fframwaith deddfwriaethol Cymru ar gynaliadwyedd a lles - Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 - ac ymrwymiadau sero net Llywodraeth Cymru.

Fel rhan o broses gystadleuol deg ac agored i benderfynu ble y dylid gweithredu'r polisi yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU heddiw yn cyhoeddi prosbectws sy'n nodi'r amcanion polisi y mae'r ddwy lywodraeth yn ceisio eu cyflawni drwy sefydlu'r Rhaglen Porthladdoedd Rhydd, a'r paramedrau ar gyfer sut y bydd ceisiadau'n cael eu hasesu.

Mae'r broses gynnig yn agor heddiw (Dydd Iau 1 Medi 2022). Bydd gan ymgeiswyr 12 wythnos i gwblhau a chyflwyno eu ceisiadau. Rhaid cyflwyno cynigion erbyn 6pm ddydd Iau 24 Tachwedd 21ain 2022.

Bydd y cais llwyddiannus yn cael ei gyhoeddi ddechrau gwanwyn 2023, gyda'r porth rhydd yn cael ei sefydlu erbyn haf 2023.

Bydd y ddwy lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i gyd-ddylunio'r broses ar gyfer dewis safleoedd a bydd ganddyn nhw lais cyfartal ym mhob penderfyniad gweithredu, gan gynnwys y penderfyniad terfynol ar ddewis safle.

Mae'r ddwy lywodraeth yn parhau'n agored i'r posibilrwydd o borthladd rhydd sawl safle yng Nghymru, ac i'r posibilrwydd o ganiatáu mwy nag un porth rhydd yng Nghymru, pe bai achos busnes digon grymus yn cael ei gyflwyno iddynt.

Dywedodd Gweinidog Economi Cymru, Vaughan Gething:

"Fel rhan gynhenid o'n hanes diwydiannol cyfoethog a chanolbwynt ein heconomi, mae gan borthladdoedd botensial enfawr i gyflymu diwydiannau'r dyfodol sy'n cefnogi sero net - o gynhyrchu ynni ar y môr i weithgynhyrchu uwch.

"Diolch i'r cytundeb yr ydym wedi ei wneud gyda Llywodraeth y DU, rydym yn lansio Rhaglen Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru sy'n cynnig cyfle i harneisio potensial economaidd helaeth Cymru yn ddomestig ac yn rhyngwladol drwy ail-ddychmygu rôl porthladdoedd, tra’n hyrwyddo gwaith teg a chynaliadwyedd.

“Mae Llywodraeth Cymru yn credu bod bargen well i weithwyr sy’n hanfodol i Gymru decach a mwy cyfartal. Felly, rwy'n chwilio am geisiadau sy'n well na uchelgeisiau’r diwydiant ar safonau sero net, gan amlygu'r safonau uchel o ran llafur sy'n hyrwyddo gwaith teg, ac yn mynegi gweledigaeth a rennir a ffurfiwyd gan bartneriaethau hir sy'n cynnwys yr holl bartneriaid cymdeithasol.

"Rwy'n edrych ymlaen at ystyried ceisiadau arloesol sy'n sicrhau buddion economaidd a chymdeithasol ystyrlon i Gymru."

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Ffyniant Bro, Greg Clark:

"Bydd Porthladd Rhydd newydd yn hwb enfawr i bobl Cymru, ac rwy'n falch iawn o ddechrau’r broses ymgeisio wrth i ni barhau â'n gwaith gyda Llywodraeth Cymru i ddod â swyddi a ffyniant i'r wlad.

"Mae rhaglen Porthladdoedd Rhydd Llywodraeth y DU eisoes yn rhoi manteision i fusnesau a chymunedau ledled Lloegr, gyda gweithrediadau yn Teesside a Lerpwl eisoes ar y gweill. 

"Rwy'n edrych ymlaen at weld manteision tebyg i Gymru wrth i ni ddarparu Porthladd Rhydd newydd arloesol a sicrhau tegwch ledled y Deyrnas Unedig gyfan."