English icon English

Llywodraeth Cymru a'r NSPCC yn paratoi cynllun i atal aflonyddu rhywiol mewn ysgolion

Welsh Government and NSPCC in plan to stop sexual harassment in schools

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag NSPCC Cymru a phobl ifanc i ddeall sut i atal ymddygiad niweidiol.

Heddiw cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun newydd ar atal aflonyddu rhywiol gan gymheiriaid. Mae'r cynllun yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid i atal a rhoi diwedd ar aflonyddu rhywiol gan gymheiriaid a mynd i'r afael ag ymddygiad niweidiol pan fydd yn digwydd.

Mae amgylchedd dysgu diogel yn hanfodol er mwyn rhoi'r cyfleoedd gorau i bobl ifanc mewn addysg. Cyhoeddwyd y cynllun newydd gan Lywodraeth Cymru fel bod ysgolion a cholegau yn deall eu rolau a'u cyfrifoldebau, ac yn darparu hyfforddiant o safon fel y gall staff fynd i'r afael yn hyderus ag aflonyddu rhywiol ac addysgu am y mater mewn ffordd sy'n briodol yn ddatblygiadol. Lluniwyd y cynllun ar y cyd gyda nifer o bartneriaid ar draws y sector addysg, awdurdodau lleol, yr heddlu ac elusennau.

Mae adolygiadau diweddar gan Estyn, ymchwiliad Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y Senedd, ac adroddiadau uniongyrchol gan ddysgwyr drwy'r platfform Everyone's Invited wedi datgelu i ba raddau y mae pobl ifanc yn profi aflonyddu rhywiol ac ymddygiad niweidiol gan eu cyfoedion yn yr ysgol.

Dangosodd y dystiolaeth hon fod angen i ddysgwyr allu lleisio eu pryderon am eu profiadau a theimlo bod rhywun yn gwrando arnynt ac yn eu deall, er mwyn i ysgolion, llywodraethau a phartneriaid gael darlun cywir a gallu cymryd camau i fynd i'r afael â'r mater.

Mae Llywodraeth Cymru bellach yn gweithio gydag NSPCC Cymru a phobl ifanc i gynnal trafodaethau penodol i ddeall y materion y mae plant a phobl ifanc yn eu hwynebu, er mwyn gwrando ar eu lleisiau a'u profiadau. Bydd y gwaith hwn yn edrych ar wybodaeth pobl ifanc am aflonyddu rhywiol gan gymheiriaid, p'un a ydyn nhw'n teimlo bod rhywun yn gwrando arnyn nhw a'u cefnogi pan fyddan nhw'n trafod neu gwyno am aflonyddu rhywiol gan gymheiriaid, a sut y gellid ei atal.

Mae'r Cwricwlwm i Gymru yn sicrhau bod gan bob dysgwr fynediad at wersi sy'n briodol yn ddatblygiadol am berthynas iach â ffrindiau a theulu, gan ddod i ddeall beth yw ymddygiad priodol. Caiff y gwersi eu teilwra ar gyfer cam datblygu'r dysgwr. Drwy'r dysgu hwn, a'r gwell ymwybyddiaeth o aflonyddu mewn ysgolion yn sgil y cynllun newydd, y nod yw amddiffyn dysgwyr trwy eu grymuso i adnabod achosion o aflonyddu, codi llais a chael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt.

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles:

"Mae ysgolion ledled Cymru yn gwneud gwaith rhagorol wrth greu amgylchedd dysgu diogel i'w dysgwyr. Ond, yn union fel yn y gymdeithas ehangach, rydyn ni'n gwybod y gall aflonyddu fod yn broblem. Rhaid i bawb wybod bod unrhyw fath o aflonyddu rhywiol yn gwbl annerbyniol ac na ddylid ei oddef.

"Rwy'n falch ein bod yn gweithio gyda'r NSPCC a phobl ifanc eu hunain i roi sylw i'r mater hwn. Mae'n hanfodol amddiffyn dysgwyr, gwrando ar eu pryderon ac ymateb iddyn nhw er mwyn dod ag aflonyddu i ben, cefnogi eu lles a hybu eu presenoldeb."

Dywedodd Cecile Gwilym, Rheolwr Polisi a Materion Cyhoeddus NSPCC Cymru:

"Mae'n rhaid rhoi blaenoriaeth i farn pobl ifanc yng ngwaith parhaus Llywodraeth Cymru ar aflonyddu rhywiol ymysg cymheiriaid. Rydyn ni'n gwybod bod aflonyddu rhywiol gan gymheiriaid yn rhan o'u bywydau bob dydd, ar-lein ac all-lein, yn anffodus.

"Roeddem yn falch iawn o gael gweithio gyda phobl ifanc i gasglu eu barn am ffyrdd o fynd i'r afael â'r mater hwn. Cynhaliwyd gweithdai ymgynghori gydag ysgolion a grŵp ieuenctid y llynedd, gan ddefnyddio ystod o ddulliau creadigol i nodi argymhellion ar gyfer mynd i'r afael ag aflonyddu rhywiol gan gymheiriaid a datblygu cwestiynau arolwg ar gyfer pobl ifanc."