Llywodraeth Cymru i fuddsoddi £40 miliwn i adnewyddu Morglawdd a sicrhau dyfodol Porthladd Caergybi
Welsh Government to invest £40m to refurbish Breakwater and secure future of Holyhead Port
- Bydd y buddsoddiad o £40 miliwn yn helpu i adnewyddu Morglawdd Caergybi, sy'n 150 o flynyddoedd oed ac yn cael ei erydu'n raddol gan Fôr Iwerddon.
- Mae'r uwchstrwythur hwn – yr hiraf yn y DU – yn hanfodol er mwyn amddiffyn Porthladd Caergybi, ac mae'n ddiogelu'r seilwaith ac yn caniatáu i longau ddocio'n ddiogel.
Heddiw, mae'r Prif Weinidog, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi pecyn cyllido gwerth £40 miliwn oddi wrth Lywodraeth Cymru i adnewyddu Morglawdd Caergybi ac i helpu i ddiogelu dyfodol hirdymor Porthladd Caergybi.
Mae'r morglawdd Fictoraidd 2.4km o hyd yn hanfodol er mwyn amddiffyn Porthladd Caergybi. Hebddo, byddai'r tonnau'n rhy wyllt i'r llongau fferi fedru hwylio, a gallai hynny arwain at golli'r gwasanaeth ac, yn y pen draw, at gau'r Porthladd. Mae'r morglawdd hefyd yn amddiffyn nifer o fusnesau ac adeiladau rhag llifogydd.
Tomen rwbel a osodwyd ar wely'r môr yw sylfaen y morglawdd cerrig, a adeiladwyd rhyw 150 o flynyddoedd yn ôl. Ers iddo gael ei adeiladu, mae wedi cael ei erydu'n raddol gan Fôr Iwerddon. Mae sefydlogrwydd y morglawdd dan fygythiad erbyn hyn, ac mae'n fwy a mwy tebygol y bydd y môr yn torri drwy'r strwythur pan fo'r tywydd yn stormus.
Caergybi yw porthladd prysuraf y DU ar gyfer cerbydau sy'n gyrru i mewn ac allan o longau er mwyn cludo nwyddau i borthladdoedd Môr Iwerddon. Mae'n gyswllt hanfodol rhwng y DU, Gweriniaeth Iwerddon a'r UE, ac yn gyflogwr hollbwysig ar Ynys Môn, gan gefnogi rhyw 700 o swyddi lleol.
Bydd y pecyn gwerth £40 miliwn, sy'n cynnwys benthyciad o £20 miliwn a grant o £20 miliwn, yn helpu gyda'r gost o ryw £110 miliwn i adnewyddu'r Morglawdd.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford:
"Mae Porthladd Caergybi yn gaffaeliad i Ogledd Cymru. Bydd y buddsoddiad hwn o £40 miliwn yn y morglawdd yn helpu i sicrhau dyfodol y porthladd ac yn diogelu swyddi.
"Mae'r porthladd o bwys strategol mawr. Mae'n chwarae rhan hanfodol wrth greu ffyniant economaidd i'r rhanbarth ac mae hefyd yn rhan allweddol o'n seilwaith trafnidiaeth.
"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn ddatblygiad cadarnhaol i Ynys Môn ac yn dangos ymrwymiad cadarn Llywodraeth Cymru i'r ynys."
Dywedodd Ian Davies, Pennaeth Awdurdodau Porthladdoedd y Deyrnas Unedig i Stena Line Ports Ltd, sy’n rhedeg Porthladd Caergybi:
“Rydym yn croesawu’r buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru, sy’n ychwanegol at y swm a addawyd gan Lywodraeth y DU yn gynharach eleni. Mae’r cymorth yn cyfrannu’n sylweddol at y buddsoddiad arfaethedig o £100m+ yn y morglawdd, a fydd yn sicrhau adnewyddiad hirdymor a chadarn o’r darn hanfodol hwn o seilwaith.
“Fel ail borthladd prysuraf y DU lle gall pobl yrru i mewn ac allan, mae Porthladd Caergybi yn gyswllt trafnidiaeth allweddol rhwng y DU, Iwerddon a gweddill Ewrop gan symud miliynau o dunelli o nwyddau a chludo miloedd o deithwyr bob blwyddyn.
“Wrth edrych i ddyfodol y porthladd ac Ynys Môn yn ehangach, rydym yn ceisio adeiladu gyda’n partneriaid yng Nghyngor Sir Ynys Môn ar statws Porthladd Rhydd Ynys Môn i hybu diwydiant a buddsoddiad yn y rhanbarth, a fydd yn cefnogi’r economi leol ac economi Gogledd Cymru. Mae adnewyddu’r morglawdd a diogelu’r porthladd a’r cyffiniau yn hollbwysig i’r cynllun hirdymor hwnnw ac rydym yn ddiolchgar bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cydnabod ei bwysigrwydd.”
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Dw i'n mawr obeithio y byddwn ni, drwy ddatrys y problemau gyda'r morglawdd, yn rhoi hyder i'r sector preifat fuddsoddi yn y porthladd a'r ardal gyfagos, gan greu cyfleoedd newydd cyffrous.
"Gwelodd Llywodraeth Cymru a'r DU yr uchelgais a'r addewid yng nghais Ynys Môn am Borthladd Rhydd a chytunodd y ddwy y dylai’r cais hwnnw gael mynd yn ei flaen i'r cam nesaf. Dw i'n edrych 'mlaen at weld y porthladd yn amlinellu yn ei achos busnes sut bydd y Porthladd Rhydd yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i ddatblygu diwydiannau gwyrdd newydd y dyfodol.
"Dw i'n disgwyl i'r Porthladd Rhydd nid yn unig helpu i greu miloedd o swyddi newydd ar Ynys Môn ac yn y Gogledd, ond i helpu hefyd gyda'r agenda Sero Net uchelgeisiol sydd gan Lywodraeth Cymru."