Llywodraeth Cymru i helpu pobl sydd ag ôl-ddyledion i dalu eu rhent
Welsh Government to help people in arrears pay their rent
Mae Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd, yn annog unrhyw un sydd wedi syrthio i ddyled gyda’u taliadau rhent oherwydd y pandemig i gysylltu â'u hawdurdod lleol i gael gwybod a allant gael cymorth ariannol i osgoi cael eu troi allan.
Mae'r alwad yn ymgais i gadw pobl yn eu cartrefi ac yn agos at eu rhwydweithiau cymdeithasol er mwyn osgoi'r effaith ddinistriol y gall digartrefedd ei chael ar les corfforol, meddyliol a chymdeithasol.
Cyhoeddwyd y Grant Caledi i Denantiaid ym mis Gorffennaf y llynedd, ac mae’r newidiadau newydd a gyhoeddwyd heddiw i'r cynllun grant gwerth £10m hwn yn golygu y gall unrhyw un sy'n wynebu ôl-ddyledion oherwydd rhesymau sy'n gysylltiedig â Covid o ddechrau'r pandemig ym mis Mawrth 2020 hyd at fis Rhagfyr 2021, wneud cais.
Mae hyn yn golygu y gallai tenantiaid sydd ag ôl-ddyledion rhent am eu bod wedi colli eu swyddi ar ôl i’r cynllun Ffyrlo ddod i ben ym mis Medi, neu a welodd ostyngiad sylweddol yn eu hincwm pan gafodd y cynnydd i’r Credyd Cynhwysol ei ddileu gan Lywodraeth y DU, fod yn gymwys o dan y meini prawf newydd.
Mae enghreifftiau eraill o ôl-ddyledion rhent o ganlyniad uniongyrchol i'r pandemig yn cynnwys colli incwm oherwydd cyfyngiadau symud neu oherwydd mynd yn sâl gyda Covid-19.
Yn ogystal, mae tenantiaid mewn tai cymdeithasol nad ydynt yn derbyn budd-daliadau sy'n gysylltiedig â thai bellach yn gallu gwneud cais, ac anogir tenantiaid mewn cartref wedi’i rentu’n breifat i barhau i wneud cais hefyd.
Mae Adrian, sy’n 50 oed, yn dod o Rhondda Cynon Taf. Mae’n gweithio yn ei fwyty lleol ac roedd yn ennill rhwng £1,100 a £1,300 y mis cyn y pandemig. Gan mai dim ond am naw mis yr oedd wedi bod gyda'i gwmni, gostyngodd ei daliadau i tua £700 y mis o dan y cynllun ffyrlo.
Dywedodd Adrian:
"Roeddwn yn gwybod mai fy rhent oedd y bil mwyaf, felly cysylltais â’r landlord pan ddechreuais gael trafferth ymdopi â thaliadau. Wrth i'r pandemig fynd yn ei flaen, roedd hyn yn fy rhoi o dan straen difrifol ac roeddwn yn poeni fy mod yn mynd i golli fy nhŷ. Erbyn i'r wlad ddechrau ailagor, a bod modd mynd yn ôl i’r gwaith, roedd gen i bron i £5,000 o ddyledion rhent. Roedd yn teimlo fel swm llethol o arian i'w dalu yn ystod cyfnod pan oedd fy holl filiau yn codi. Rwy’ bob amser wedi talu fy rhent yn brydlon felly roedd y sefyllfa hon yn fy rhoi dan dipyn o straen.
"Clywais am y grant ar y radio felly cysylltais â'r cyngor i weld a oedd modd i mi wneud cais amdano. Pan gefais wybod fy mod yn gymwys, roeddwn yn teimlo bod pwysau enfawr wedi'i godi oddi ar fy ysgwyddau, roeddwn wrth fy modd. Yn sydyn, gallwn siarad â'm landlord eto gan wybod nad oeddwn mewn dyled mwyach, ac nad oeddwn yn mynd i golli fy nghartref. Roedd yn rhyddhad enfawr. Rwy'n teimlo y gallaf fwrw ymlaen â’m bywyd nawr, yn gadarnhaol. Rwy'n teimlo bod pobl wedi gwrando arna i ac wedi fy helpu mewn cyfnod o argyfwng."
"Bydd ymestyn y grant yn gwneud y gwahaniaeth mawr iawn ac yn cyflawni yn union beth mae'n ei fwriadu, sef helpu pobl fel fi i aros ar eu traed."
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:
"Rwy'n annog unrhyw un sy'n wynebu cael eu troi allan neu sydd wedi syrthio i ddyled gyda’u taliadau rhent oherwydd y pandemig i gysylltu â'u hawdurdod lleol heddiw i gael gwybod pa gymorth sydd ar gael iddynt.
"Bydd ein Grant Caledi i Denantiaid sy’n werth £10m yn helpu i atal troi allan ac yn cefnogi tenantiaid i aros yn eu cartrefi. Mae colli cartref yn cael effaith enfawr ar unigolion a theuluoedd – gan gynnwys colli rhwydweithiau cymorth, plant yn gorfod symud ysgol, ac iechyd meddwl a lles teuluoedd yn dioddef. Rydym am wneud popeth o fewn ein gallu i helpu i osgoi'r sefyllfa honno.
"Dylai'r grant ddarparu arbedion cost sylweddol i bob awdurdod lleol wrth atal digartrefedd a chefnogi pobl i aros yn eu cartrefi a chynnal eu tenantiaethau."
Dywedodd Ruth Power, Prif Swyddog Gweithredol Shelter Cymru:
"Rydym yn croesawu'r newidiadau i'r Grant Caledi i Denantiaid a gyhoeddwyd heddiw. Bydd ehangu'r meini prawf cymhwystra yn golygu y bydd mwy o bobl sy'n cael trafferth talu eu rhent yn ystod y pandemig yn gallu cael gafael ar gymorth i gadw eu cartrefi. Mae ein cynghorwyr yn gweithio gyda phobl ledled Cymru y mae'r pandemig wedi effeithio'n ddifrifol ar eu hincwm ac sy'n poeni'n fawr am y dyfodol. Bydd cael arian yn gyflym i bobl mewn angen yn atal teuluoedd rhag dod yn ddigartref."
Mae’r cynllun grant bellach ar agor ar gyfer ceisiadau, a'r dyddiad olaf ar gyfer cymorth rhent yw 31 Rhagfyr 2021.