Llywodraeth Cymru yn cadarnhau buddsoddiad ychwanegol o £15m mewn prydau ysgol am ddim i ddysgwyr cymwys mewn ysgolion uwchradd
Welsh Government confirms additional £15m investment in free school meals for eligible secondary pupils
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi £15m i ehangu darpariaeth prydau ysgol am ddim i fwy o ddysgwyr ysgolion uwchradd.
Mae Llywodraeth newydd Cymru wedi ymrwymo i ehangu prydau ysgol am ddim i ddysgwyr ysgolion uwchradd mewn aelwydydd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol drwy ddileu’r trothwy incwm. Ar hyn o bryd, dim ond os yw eu teulu’n derbyn Credyd Cynhwysol ac os yw incwm y cartref yn is na £7,400 y gall dysgwyr ysgolion uwchradd gael prydau ysgol am ddim, heb gynnwys budd-daliadau.
Mae'r cyllid ychwanegol yn rhan o gyllideb atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, 2026-27, gyda chynlluniau i ddechrau gweithredu’r polisi o fis Medi ymlaen.
Bydd y cymorth ariannol yn cael ei rannu'n £10m o gyllid cyfalaf i fuddsoddi mewn ceginau ac ardaloedd bwyta ysgolion, a £5m o gyllid refeniw i weithredu'r cynllun, gan ehangu’r cyllid presennol ar gyfer darpariaeth prydau ysgol am ddim.
Bwriedir i rieni plant Blynyddoedd 7 ac 8 allu gwneud cais am y cynllun newydd o fis Medi, a fydd yn cefnogi myfyrwyr ysgolion uwchradd mewn aelwydydd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol, beth bynnag yw incwm eu cartref.
Fel rhan o'r cytundeb cydweithio gyda Phlaid Cymru rhwng 2021 a 2024, ehangodd Llywodraeth Cymru brydau ysgol am ddim i bob plentyn mewn ysgol gynradd yng Nghymru.
Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Anna Brychan: "Mae'r cyllid hwn yn nodi'r cam cyntaf yn ein hymrwymiad i estyn prydau ysgol am ddim i fwy o ddysgwyr ysgolion uwchradd, gan sicrhau bod cymorth yn cyrraedd y teuluoedd sydd ei angen fwyaf. Drwy ddechrau buddsoddi, rydyn ni'n gosod y sylfeini ar gyfer ehangu teg a chynaliadwy a fydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau bob dydd disgyblion.
Mae’r gwaith hwn yn ymwneud â dileu rhwystrau i ddysgu a gwella lles. Gwyddom fod bwyd maethlon yn gwella canolbwyntio, cyrhaeddiad ac iechyd cyffredinol. Gan adeiladu ar lwyddiant prydau ysgol am ddim i holl blant ysgolion cynradd, byddwn ni’n sicrhau bod y rhai sydd ei angen fwyaf yn parhau i gael y cymorth sydd ei angen arnynt i ffynnu.
"Rydyn ni'n gweithio gyda phartneriaid ar gynlluniau i gyflawni hyn yn effeithiol ac yn gyflym, gan sicrhau’r budd mwyaf posibl o bob punt i bobl Cymru. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi cyn bo hir."
Dywedodd y Prif Weinidog, Rhun ap Iorwerth:
"Mae ehangu’r hawl i gael prydau ysgol am ddim i fwy o deuluoedd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yn gam pwysig yn ein hymdrechion ehangach i fynd i’r afael â thlodi plant a lleihau anghydraddoldebau ledled Cymru.
"Mae dechrau’r gwaith hwn yn rhan allweddol o’n Cynllun Can Diwrnod a thu hwnt – gan gymryd camau ymarferol i roi arian yn ôl ym mhocedi teuluoedd a sicrhau bod pob person ifanc yn cael cyfle i lwyddo, waeth beth fo’u cefndir."
Nodiadau i olygyddion
Mae'r cyhoeddiad yn rhan o Gyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27, i'w chyhoeddi ar 23 Mehefin. Mae'r gyllideb yn nodi blaenoriaethau gwario cynnar y Llywodraeth hon, gan dargedu'r buddsoddi lle bydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl Cymru.