Llywodraeth Cymru yn cadarnhau newidiadau i deithio rhyngwladol ac yn galw i gadw profion PCR
Welsh Government confirms international travel changes and calls for PCR test retention
Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd yn uno’r rhestrau teithio gwyrdd ac oren ac yn dileu’r gofyniad am brawf cyn ymadael i’r rhai sydd wedi’u brechu’n llawn.
Mae’n bwriadu gwneud y newidiadau erbyn 4 Hydref yn unol â system newydd Llywodraeth y DU.
Nid oes penderfyniad wedi’i wneud eto ynglŷn â pheidio â defnyddio profion PCR ar gyfer teithwyr ond mae Llywodraeth Cymru wedi’i gwneud yn glir ei bod yn gwrthwynebu’r newid. Mae’n galw ar Lywodraeth y DU i wrthdroi ei phenderfyniad.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
“Rydyn ni wedi galw’n gyson am ddull gofalus o ymdrin â theithio rhyngwladol er mwyn atal ailgyflwyno coronafeirws i’r DU, yn enwedig amrywiolion newydd ac amrywiolion sy’n dod i’r amlwg, na fydd efallai’n ymateb i’r brechlynnau.
“Mae’r penderfyniad i beidio â’i gwneud yn ofynnol i deithwyr sy’n dychwelyd wneud profion PCR ar ddiwrnod dau yn peri pryder. Mae’r prawf hwn, a dadansoddi dilyniant genom yr holl ganlyniadau positif, yn rhan allweddol o’n gwyliadwriaeth ar gyfer coronafeirws, gan hefyd ddiogelu ein ffiniau rhag y feirws.
“Rydyn ni’n cydnabod yr heriau cyfathrebu a gorfodi a geir yn sgil gofynion profi gwahanol, ac rydyn ni’n parhau i archwilio’r dystiolaeth am drefn brofi i Gymru yn unig, ond y ffordd orau o ddiogelu iechyd y cyhoedd yw i Lywodraeth y DU ailgyflwyno profion ar gyfer y DU gyfan.”
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ystyried i ba wledydd y bydd yn estyn y system adnabod tystysgrifau brechu yn ystod yr wythnosau nesaf.