English icon English
L E M F R E C K 06 Kev Curtis-2

Llywodraeth Cymru yn cefnogi twf a datblygiad digwyddiadau cartref

Welsh Government supporting growth and development of home-grown events

Mae digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol ledled Cymru yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yn ôl yn y cnawd dros y misoedd nesaf wrth i drefnwyr newid yn ôl i berfformiadau cynulleidfaoedd byw.  

Mae llawer o'r digwyddiadau cartref hyn wedi cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru drwy Ddigwyddiadau Cymru.  

Yn ôl y ffigurau diweddaraf o 2019, gwnaeth digwyddiadau a gefnogwyd drwy Ddigwyddiadau Cymru ddenu 200,000 o ymwelwyr i Gymru. Cynhyrchodd hyn werth £33.35 miliwn o effaith economaidd uniongyrchol/gwariant ychwanegol net i Gymru a chefnogodd dros 770 o swyddi drwy’r economi dwristiaeth ehangach.

Mae'r tîm sy’n gyfrifol am FOCUS Cymru yn paratoi ar gyfer eu 11eg rhifyn o'r digwyddiad rhwng y 5 a 7 Mai. Mae'r digwyddiad wedi tyfu o nerth i nerth, ac eleni bydd dros 250 o berfformwyr yn llenwi amrywiaeth o leoedd a lleoliadau cerddoriaeth o amgylch Wrecsam, gan ddefnyddio 20 o lwyfannau, a chyflwyno amserlen lawn o sesiynau diwydiant rhyngweithiol, digwyddiadau celfyddydol, a dangosiadau ffilm, drwy gydol yr ŵyl.

Mae Cyd-sylfaenydd FOCUS Cymru, Neal Thompson, yn edrych ymlaen at y digwyddiad eleni, ac yn gweld sut y mae'n bosibl i ddigwyddiad sydd wedi'i wreiddio yn Wrecsam gael cydnabyddiaeth ryngwladol.

Dywedodd:

"Bydd Focus Cymru eleni yn fwy arbennig nag erioed, o ystyried yr hyn rydym i gyd wedi bod drwyddo. Mae hefyd yn helpu i ychwanegu at y cyffro ynghylch cais Wrecsam i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2025. Yn ogystal â goroesi, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, rydym wedi cynyddu a datblygu ac, ym mis Mai, byddwn yn cyflwyno ein rhestr orau o berfformwyr.”

Disgwylir i The Big Retreat, Sir Benfro fod yn un o ddigwyddiadau gorau’r flwyddyn a chaiff ei gynnal yn llonyddwch Ystâd Lawrenni rhwng 3-6 Mehefin ac mae wedi cael ei bleidleisio yn un o'r '5 Gŵyl Llesiant ac Antur Gorau’ gan The Guardian.

Dywedodd Amber Lort-Phillips, trefnydd Gŵyl The Big Retreat:

"Mae The Big Retreat ar fin cynnig y profiadau gorau i ymwelwyr mewn lleoliad hardd ym mis Mehefin eleni. Gyda chymorth drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn darparu tri diwrnod bythgofiadwy i ymlacio, myfyrio ac ail-ddechrau – y ffordd berffaith o fwynhau amgylchedd Cymreig gwych.”

Gyda'i chanmlwyddiant yn cyd-daro â'r flwyddyn y bydd torfeydd a chystadleuwyr yn dychwelyd am y tro cyntaf ers y pandemig, bydd yr Urdd yn edrych ymlaen at groesawu pawb i un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop, sef Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, a gynhelir yn Sir Ddinbych yn ystod hanner tymor mis Mai 2022. Bydd cyllid Digwyddiadau Cymru yn helpu i gefnogi cynlluniau Gŵyl Triban, 'gŵyl o fewn gŵyl', a drefnwyd ar gyfer penwythnos olaf yr Eisteddfod.

Ar ôl cael ei gynnal yn llwyddiannus yn 2021 fel rhan o'r gyfres o "ddigwyddiadau peilot", wrth i'r sector ddychwelyd i’r arfer, mae Tafwyl yn dychwelyd i Gastell Caerdydd eleni yn ei hanterth, gyda phenwythnos o wyliau am ddim i ddathlu'r iaith a diwylliant Cymru, gan gynnwys cerddoriaeth, trafodaethau, digwyddiadau, marchnad a bwyd. 

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

"Mae digwyddiadau cartref Cymru yn cyfoethogi'r cynnwys celfyddydol a diwylliannol sydd ar gael yn ein cymunedau, gan ddarparu llwyfan i dalent o Gymru sy'n dod i'r amlwg. Yn aml, mae’n cynnig y sylfaen i ddigwyddiad fynd ymlaen i ennill cydnabyddiaeth ryngwladol i Gymru. Mae ein cefnogaeth eang ar gyfer digwyddiadau diwylliannol, ochr yn ochr â'n cefnogaeth i ddigwyddiadau chwaraeon a busnes, yn ein helpu i gynnal portffolio cytbwys o ddigwyddiadau ledled Cymru.

“Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu ymwelwyr yn ôl i ddigwyddiadau dan do ac awyr agored ledled Cymru a'u gweld yn ymweld ag atyniadau a rhanbarthau eraill fel rhan o'u taith. Rydym yn cydnabod ei bod wedi bod yn gyfnod anodd iawn i'r sector digwyddiadau a bod heriau mawr i'w goresgyn o hyd. Fodd bynnag, gyda chymorth fel y Gronfa Adferiad Diwylliannol gan Lywodraeth Cymru sydd wedi darparu mwy na £108 miliwn  o gymorth ariannol i'r sectorau diwylliannol, creadigol, digwyddiadau a chwaraeon, gobeithio y gall y sector ddechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol yn fwy cadarnhaol.”