Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi’r cynigion i foderneiddio gwasanaethau tacsi yng Nghymru
Welsh Government sets out proposals to modernise taxi services in Wales
Mae’r cynlluniau i foderneiddio gwasanaethau tacsi yng Nghymru wedi’u nodi mewn papur gwyn ar y Bil Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat (Cymru) a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru heddiw (dydd Iau, 9 Mawrth).
Bydd y cynigion yn gwireddu’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i foderneiddio’r sector tacsis a cherbydau hurio preifat. Y bwriad yw gwneud gwasanaethau’n fwy diogel, yn fwy gwyrdd ac yn decach.
Mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn chwarae rhan bwysig i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis mwy ymarferol i deithwyr trwy gynnig dull teithio ar gyfer milltir gyntaf a milltir olaf eu taith, a dewis arall pan na fydd gwasanaethau cludiant eraill ar gael neu’n gweithio.
Ond wrth drafod yn helaeth â’r diwydiant ac â rhanddeiliaid am y problemau sy’n wynebu’r sector, gwasanaethau anghyson oedd y pwnc a gododd dro ar ôl tro. Mae’r cynigion yn creu cae chwarae gwastad trwy gyflwyno safonau cenedlaethol gofynnol a fydd yn arwain at wasanaethau gwell a mwy diogel a chyson ledled Cymru.
Mae’r safonau sy’n cael eu cynnig yn cynnwys hyfforddiant gorfodol i yrwyr i sicrhau bod ganddynt y wybodaeth a’r sgiliau i ddelio’n broffesiynol ag amrywiaeth o deithwyr ac â’r gwahanol sefyllfaoedd all godi.
Byddai safonau cenedlaethol gofynnol yn helpu hefyd i daclo’r broblem ar draws ffiniau. Mae tacsis a cherbydau hurio preifat sydd wedi’u trwyddedu gan un awdurdod lleol yn cael cymryd archeb am daith sy’n dechrau neu’n gorffen mewn awdurdod lleol arall. Ond os ydyn nhw’n gweithio fel arfer yn ardal awdurdod lleol arall, gall hynny arwain at gystadleuaeth annheg, yn enwedig i’r rheini sy’n gorfod cadw at safonau uwch. Bydd y cynigion yn rhoi arfau i awdurdodau lleol allu delio â cherbydau a gyrwyr sy’n gweithredu y tu allan i’w hardal.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy’n gyfrifol am Drafnidiaeth, Lee Waters:
“Rydyn ni’n gwybod fod Tacsis a Cherbydau Hurio Preifat yn chwarae rhan bwysig iawn i wneud trafnidiaeth gyhoeddus yn ddewis mwy ymarferol.
“Mae’r sector wedi newid yn gyflym yn y blynyddoedd diwethaf, ac o’i roi’n syml, nid yw’r ddeddfwriaeth wedi cadw i fyny â’r newidiadau hynny.
“A finnau wedi gweithio’n glos â’r diwydiant, bydd y cynigion rydyn ni’n eu rhoi gerbron yn helpu i ddatrys y problemau sy’n gwasgu fwyaf ar y sector, ac yn helpu i sicrhau gwasanaethau gwell a mwy diogel a chyson yng Nghymru.
“Rwy’n disgwyl ymlaen at glywed barn gyrwyr, ein partneriaid cymdeithasol, y diwydiant ehangach a phawb sydd am weld sector tacsis a cherbydau hurio preifat llewyrchus, diogel a dibynadwy yng Nghymru”.