Llywodraeth Cymru yn denu tîm technoleg glyfar byd-eang i Gymru
Welsh Government attracts Global smart tech energy team to Wales
Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi y bydd y darparwr technoleg ynni clyfar arloesol, Thermify, yn sefydlu cyfleuster yn ne Cymru.
Mae’r cwmni rhyngwladol, y mae’r entrepreneur o Silicon Valley Travis Theune yn bennaeth arno, yn bwriadu symud i safle Sony ym Mhencoed fis hwn.
Mae Thermify Cloud wedi dylunio system wresogi carbon isel chwyldroadol a fydd yn darparu gwres a dŵr twym fforddiadwy i gartrefi drwy ddefnyddio’r gwres sy’n wastraff o fanc o gyfrifiaduron sy’n rhan o’r system wresogi.
Mae Thermify Cloud yn ganolfan ddata gwasgaredig mewn cartrefi sy’n cyflawni tasgau cyfrifiadurol ar gyfer cwmnïau masnachol (er enghraifft cwmnïau gwasanaethau ariannol, manwerthwyr a chwmnïau’r cyfryngau); mae’r tasgau hyn yn cynhyrchu gwres sy’n cael ei drosi gan Thermify HeatHub yn wres a dŵr twym, gan gymryd lle boeleri nwy confensiynol sy’n allyrru carbon.
Bydd y cwmni yn cydweithio gyda Chanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe sydd ar flaen y gad yn y diwydiant o ran ymchwilio i dechnoleg ynni ac mae ganddi’r gallu i arddangos ar raddfa lawn.
Mae cynnyrch HeatHub Thermify yn defnyddio 450 o broseswyr Raspberry Pi sydd hefyd yn cael eu cynhyrchu ar safle Pencoed Sony. Nod Thermify yw cynhyrchu 40,000 o unedau HeatHub y flwyddyn o fewn y 3-5 mlynedd nesaf.
Wrth groesawu Thermify i Gymru, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda'r cwmni ers peth amser i sicrhau ei fod yn symud i Gymru. Dyma enghraifft arall eto bod Cymru yn bendant ar agor ar gyfer busnes a byddwn yn parhau i fod yn agored ac yn gystadleuol i fewnfuddsoddwyr o bob cwr o'r byd.
"Rydym yn benderfynol o helpu i greu swyddi gwyrdd newydd yn niwydiannau’r dyfodol. Rydym wedi'n cyffroi'n fawr gan systemau ynni clyfar sy'n datblygu a sut maent yn integreiddio ac yn cysylltu â systemau trafnidiaeth a gwres. Mae technoleg glyfar yn caniatáu i gartrefi a busnesau gynhyrchu, storio a defnyddio ynni mewn ffyrdd nad oedd ar gael o’r blaen – buddugoliaeth i fusnesau, defnyddwyr ac yn bwysicach oll i'r amgylchedd.
"Rydym yn cydnabod y rôl ryngwladol y mae ein prifysgolion yn ei chwarae a phwysigrwydd economaidd y cysylltiadau buddiol y maent yn eu darparu i'r byd ehangach drwy fyfyrwyr, ymchwil a chysylltiadau busnes. Bydd y prosiect yn gallu elwa ar ymchwil technoleg ynni SPECIFIC sy'n arwain y diwydiant ym Mhrifysgol Abertawe a’i galluoedd arddangos ar raddfa lawn."
Dywedodd Travis Theune, Prif Weithredwr Thermify Cloud:
"Gyda'r angen i’r DU symud i ffwrdd o wresogi nwy i gyrraedd ei tharged Sero-net a newid i wresogi carbon isel, mae gan Thermify ateb gwych i’w gynnig i’r farchnad. Y peth pwysig yw ei fod yn gallu rhoi system wresogi fforddiadwy i gwsmeriaid. Bydd yn sicrhau arbedion misol i aelwydydd ar eu biliau ynni, yn lleihau eu hôl troed carbon ac yn cefnogi amgylchedd glanach.
"Mae'r cyfuniad o garbon isel, fforddiadwyedd a thechnoleg yn golygu bod gennym gyfle gwych i adeiladu busnes cadarn a hirdymor yn ne Cymru.
"Mae cefnogaeth ac anogaeth Llywodraeth Cymru wedi bod yn aruthrol, yn ogystal â'r ymatebion gan Sony, Raspberry Pi a Phrifysgol Abertawe. Roeddent yn gweld potensial ein system HeatHub ar unwaith, nid yn unig yn y DU ond mewn marchnadoedd tramor hefyd, ac roeddent i gyd am i bawb wybod bod HeatHub yn rhywbeth sy’n cael ei wneud yng Nghymru."