English icon English

Llywodraeth Cymru yn diogelu iechyd, trafnidiaeth a gwasanaethau cyhoeddus

Welsh Government protects health, transport and public services

Heddiw, bydd y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, yn annerch y Senedd i gyhoeddi pecyn o fesurau ariannol sy'n diogelu gwasanaethau cyhoeddus, y Gwasanaeth Iechyd a thrafnidiaeth yng Nghymru.

Yn dilyn misoedd o waith dwys ar draws y Llywodraeth, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cynllun ariannol darbodus i ddiogelu pobl rhag effeithiau gwaethaf yr argyfwng ariannol.

Mae cyllideb Cymru o dan bwysau digynsail oherwydd effaith chwyddiant, mwy na degawd o fesurau cyni ar wasanaethau cyhoeddus, a chamreolaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig o'r economi.