English icon English

Llywodraeth Cymru yn diogelu iechyd, trafnidiaeth a gwasanaethau cyhoeddus

Welsh Government protects health, transport and public services

Heddiw [dydd Mawrth 17 Hydref], mae'r Gweinidog Cyllid Rebecca Evans wedi cyhoeddi pecyn o fesurau ariannol i helpu i ddiogelu gwasanaethau cyhoeddus, y GIG a thrafnidiaeth yng Nghymru.

Yn dilyn misoedd o waith dwys ar draws y llywodraeth, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cynllun darbodus i ymateb i'r pwysau ariannol eithriadol sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus.

Mae cyllideb Cymru o dan bwysau digynsail yn sgil y cyfuniad o chwyddiant parhaus na welwyd ei debyg o'r blaen, mwy na degawd o gyni, a chamreolaeth Llywodraeth y DU o'r economi.

Wrth siarad yn y Senedd, dywedodd y Gweinidog Cyllid mai blaenoriaeth y llywodraeth yw diogelu gwasanaethau craidd, swyddi, a phobl y mae'r argyfwng costau byw presennol yn effeithio fwyaf arnyn nhw, a chyhoeddodd becyn o newidiadau i gynlluniau gwario er mwyn ceisio cyflawni hynny. 

Bydd y newidiadau hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i gyfeirio £425m o gyllid ychwanegol tuag at gefnogi'r GIG yng Nghymru eleni.

Yn ogystal, bydd cynnydd o £125m yng nghyllideb Trafnidiaeth Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, i helpu i ddiogelu gwasanaethau i deithwyr a pharhau â'r rhaglen drawsnewid.

Mae'r Grant Cynnal Refeniw llywodraeth leol hefyd wedi'i ddiogelu. Mae hyn yn helpu i dalu am ysgolion, gofal cymdeithasol a llawer o'r gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw o ddydd i ddydd, fel eu casgliadau ailgylchu a gwastraff a'u llyfrgelloedd lleol.

Gofynnwyd i bob portffolio Gweinidogol wneud cyfraniad i ymateb i'r pwysau ariannol eithriadol. Mae Gweinidogion wedi ailflaenoriaethu gwariant a gweithgareddau cymaint â phosibl, yn hytrach na chael gwared ar raglenni yn gyfan gwbl.

Fel rhan o'r pecyn o newidiadau, bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod hyd at £100m ar gael o gronfeydd wrth gefn canol blwyddyn a Chronfa Wrth Gefn Cymru, a bydd yn gofyn i Drysorlys y DU newid rhywfaint o gyllid cyfalaf i gyllid refeniw yn y flwyddyn ariannol hon. Dyma ddull a ddefnyddir yn rheolaidd gan Lywodraeth y DU i helpu i reoli ei chyllidebau.

Mae'r pecyn hefyd yn cynnwys disgwyliad y bydd cyllid canlyniadol i ddod gan Lywodraeth y DU o ganlyniad i fwy o wario mewn meysydd datganoledig, yn enwedig ar gyflogau'r sector cyhoeddus.

Dywedodd Rebecca Evans, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol:

"Rydyn ni wedi gweithio'n galed ar draws y llywodraeth i lunio pecyn o newidiadau ariannol sy'n diogelu gwasanaethau cyhoeddus, y Gwasanaeth Iechyd a thrafnidiaeth yng Nghymru.

"Rydyn ni wedi gwneud penderfyniadau anodd ond doeth, sy'n diogelu pobl ac a fydd yn helpu i leihau, cyn belled ag y bo modd, effaith y pwysau ariannol eithriadol hyn ar y gwasanaethau allweddol rydyn ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw.

"Ond rwyf am fod yn glir, er ein bod wedi gallu ailgyfeirio cyllid ychwanegol tuag at wasanaethau iechyd a thrafnidiaeth, mae'r Gwasanaeth Iechyd, yn benodol, yn dal i wynebu rhai penderfyniadau anodd iawn o ganlyniad i'r sefyllfa ariannol heriol.

"Mae'r cyfuniad o chwyddiant uchel parhaus, mwy na degawd o gyni, a chamreolaeth Llywodraeth y DU o'r economi yn golygu bod yr holl wasanaethau cyhoeddus o dan bwysau mawr. Yn anffodus, mae'n gyfnod anodd iawn."