English icon English

Llywodraeth Cymru yn helpu i greu 25,000 o swyddi drwy ei gwasanaeth Busnes Cymru

Welsh Government’s Business Wales service helps create 25,000 jobs

Mae gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru, sy'n darparu cymorth a chyngor diduedd ac annibynnol i bobl sy'n dechrau, gweithredu a datblygu busnesau, wedi helpu i greu 25,000 o swyddi ledled Cymru ers 2016, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, heddiw.

Dywedodd y Gweinidog fod creu'r 25,000 o swyddi mewn busnesau bach a chanolig ledled Cymru drwy gymorth uniongyrchol gan Fusnes Cymru yn arwydd clir o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i annog entrepreneuriaeth a datblygu busnesau yng Nghymru, cyn dathlu Wythnos Entrepreneuriaeth Fyd-eang flynyddol eleni ar 8–12 Tachwedd 2021.

Mae gwasanaeth Busnes Cymru, a lansiwyd yn 2015, yn darparu amrediad eang o gymorth busnes, gan gynnwys gwasanaethau cymorth cychwynnol, cymorth ar-lein, mannau gweithio a rennir, a gwasanaethau cyngor arbenigol, i helpu busnesau Cymru i dyfu a ffynnu. Ariennir y gwasanaeth yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Crëwyd 10,000 o'r swyddi hynny gan fusnesau a gafodd eu cefnogi drwy Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, rhaglen bwrpasol sy'n darparu cymorth wedi'i dargedu ar gyfer cwmnïau uchelgeisiol sydd am dyfu.

Thermal Compaction Group (TCG) yng Nghaerdydd a greodd y 10,000fed swydd, gyda chymorth y Rhaglen Cyflymu Twf.

Mae TCG, a sefydlwyd yn 2014, yn fusnes gwyrdd sy'n canolbwyntio ar atebion gwastraff cynaliadwy, gan gynnwys yr unig dechnoleg ar gyfer ailgylchu PPE (cyfarpar diogelu personol) yn y byd. Mae’n gwneud cynhyrchion unigryw â phatent sy'n darparu atebion cost-effeithiol i broblemau rheoli gwastraff ledled y byd. Mae ei gynhyrchion yn cael eu defnyddio gan Lynges y DU a system gofal iechyd yr Iseldiroedd, ymhlith cwsmeriaid rhyngwladol eraill.

Cyrhaeddodd y garreg filltir drawiadol wrth i Alex Spyropoulos, Rheolwr Gweithrediadau, ddechrau gweithio ar safle'r cwmni yng Nghaerdydd.  

Mae gwasanaeth Busnes Cymru yn ategu Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru, sy'n nodi'r camau y bydd Gweinidogion yn eu cymryd i gefnogi busnesau Cymru i greu swyddi newydd, dod o hyd i farchnadoedd allforio newydd a buddsoddi yn niwydiant gwyrdd cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Mae'n cynnwys cynlluniau i ddyblu nifer y busnesau y mae’r gweithwyr yn berchen arnynt.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau beiddgar i adeiladu economi gryfach, decach a gwyrddach yng Nghymru. Hoffen ni weld rhagor o bobl yn teimlo'n hyderus ynghylch cynllunio eu dyfodol yng Nghymru. Mae ein dull gweithredu wedi'i anelu at fuddsoddi yn ein pobl a chefnogi pobl i ddechrau eu busnesau eu hunain, er mwyn sicrhau bod gennyn ni gwmnïau â’u gwreiddiau yng Nghymru sy'n gallu darparu cyfleoedd ar gyfer y dyfodol. Bydd hyn yn helpu gyda’r gwaith o greu swyddi ac yn helpu i greu economïau lleol deinamig.

"Mae gwasanaethau fel Busnes Cymru yn chwarae rhan hynod bwysig wrth helpu pobl i ddechrau eu busnesau eu hunain, a'u cefnogi i ddatblygu a ffynnu. Felly rwy'n falch iawn bod gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru bellach wedi helpu i greu 25,000 o swyddi ledled Cymru dros y pum mlynedd diwethaf.

"Rwy'n arbennig o falch bod ein Rhaglen Cyflymu Twf flaenllaw wedi gweithio gyda’n busnesau bach a chanolig mwyaf uchelgeisiol, gan eu helpu i greu 10,000 o'r swyddi newydd hyn. Mae mwy i’r Rhaglen na'r twf mae'n ei ysgogi mewn cwmnïau; mae hefyd yn cael effaith ar unigolion ledled Cymru – gan gynnwys Alex, sydd wedi cael swydd mewn cwmni sy'n harneisio arloesedd technolegol i greu dyfodol gwyrddach a mwy cynaliadwy.

"Mae cynhyrchion arloesol TCG yn cael eu hallforio ledled y byd ac maent yn denu sylw byd-eang, a gallwn ni yng Nghymru ymfalchïo yn eu llwyddiant.”

Ers ymuno â'r Rhaglen Cyflymu Twf yn 2019, mae TGC wedi derbyn mentora a chyngor arbenigol ar ddadansoddi'r farchnad, cyfleoedd ariannu a sefydlu cysylltiadau â chleientiaid allweddol.

Mae'r cymorth hon wedi bod yn ‘amhrisiadwy’ yn ôl y Rheolwr Gyfarwyddwr, Thomas Davison-Sebry:

"A ninnau’n gwmni bach, mae wedi bod yn amhrisiadwy cael cymorth rheolwr perthynas a nifer o hyfforddwyr busnes profiadol, wrth inni lywio ein ffordd o'r cyfnod ymchwil a datblygu i gyfnod o dwf uchel.

 "Rydyn ni’n yn ddiolchgar iawn am y gwasanaeth rydyn ni wedi’i dderbyn  gan Raglen Cyflymu Twf Busnes Cymru, a bydden ni’n ei hargymell i unrhyw fusnes sydd am gynyddu a thyfu."

Cwmni arall y mae Busnes Cymru wedi'i gefnogi yw cwmni newydd o Gwmbrân o’r enw Cake and Roll. Drwy gymorth rhagweithiol ac arbenigedd tîm Busnes Cymru, creodd y cwmni'r 25,000fed swydd pan gyflogodd y busnes Bethany Baber, sy’n 19 oed, yn ddiweddar, fel Cynrychiolydd Cwsmeriaid.

Dywedodd y Cyd-sylfaenydd Marcin Panek:

"Ers inni gychwyn ym mis Mai 2021, mae’r cymorth rydyn ni wedi’i dderbyn drwy Fusnes Cymru wedi bod yn wych. Maen nhw wedi’n helpu ni gyda marchnata a hyrwyddo, cynllunio busnes a gwella sgiliau ein tîm. Rydyn ni eisoes yn gweld manteision rhoi popeth rydyn ni wedi'i ddysgu ar waith, ac o ganlyniad rydyn ni wedi llwyddo i ehangu ein tîm.

"Mae Bethany wedi ymgartrefu yn y tîm yn dda hyd yn hyn, ac rydyn ni eisoes yn trafod cynllun llwybr carlam ar ei chyfer. Rydyn ni’n hyderus y bydd ein tîm yn parhau i dyfu dros y misoedd nesaf.

“Mae bod yn fos ar fy hun wastad wedi bod yn uchelgais gen. Rhoddodd Busnes Cymru y cyfle i fi wneud hynny ac maen nhw wedi fy helpu i bob cam o'r ffordd. Felly rwy'n falch iawn mai ni sy’n gyfrifol am greu'r 25,000fed swydd – mae hynny’n fraint enfawr i'n tîm. 

"Byddwn i’n annog busnesau eraill sy'n chwilio am gymorth yn gryf i gysylltu â Busnes Cymru. Ers ymuno, mae Cake and Roll wedi mynd o nerth i nerth, ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn am yr holl gymorth rydyn ni wedi’i gael ganddyn nhw."

Mae rhagor o wybodaeth am Fusnes Cymru yn https://businesswales.gov.wales/cy