English icon English

Llywodraeth Cymru yn helpu i sicrhau 102 o swyddi a dyfodol disglair i ffatri sy’n cynhyrchu rhannau modurol ym Mhowys

Welsh Government helps secure 102 jobs and bright future for automotive parts manufacturing factory in Powys

Heddiw mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi wedi cyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi dod i’r adwy drwy brynu eiddo masnachol yn Llanfyllin ym Mhowys. A hynny, er mwyn paratoi'r ffordd i'r gwneuthurwr rhannau modurol Marrill Group Ltd gymryd yr awenau. Mae’r fenter yn sicrhau 102 o swyddi a chyfleoedd i ehangu'r safle yn y dyfodol.

Mae'r cwmni hefyd wedi sicrhau cyfleuster benthyca saith ffigur gan Fanc Datblygu Cymru a chynnig o £700,000 o gyllid nad yw’n ad-daladwy gan Lywodraeth Cymru tuag at fuddsoddiad cyfalaf arfaethedig mewn peiriannau a pheiriannau newydd. A bydd hynny’n cefnogi creu rhagor o swyddi newydd yn y cyfleuster.

Mae'r trefniant rhwng Llywodraeth Cymru a Marrill hefyd yn cynnig opsiwn i brynu'r adeilad a'r iard ymhen 5 mlynedd.

Cafodd y safle ei werthu gan Stadco Limited, sydd wedi penderfynu sefydlogi eu gweithrediadau mewn rhannau eraill o'r DU.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:

“Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o helpu i greu swyddi o ansawdd uchel ledled Cymru, ac felly rwy'n falch ein bod ni wedi gallu camu i mewn a helpu i sicrhau 102 o swyddi o ansawdd uchel yn Llanfyllin.

“Byddai colli'r cyfleuster hwn wedi cael effaith andwyol nid yn unig ar y dref ei hun ond hefyd ar gadwyni cyflenwi lleol a chymunedau gwledig cyfagos. Cyn gynted ag y daethon ni i wybod am fwriad Stadco i gau'r safle, buon ni'n chwilio am ateb a fyddai'n helpu i gadw'r swyddi hyn yn y dref.

“Mae Marrill yn gwneud buddsoddiad cyfalaf sylweddol i gaffael y busnes ac i fuddsoddi yn y fenter yn Llanfyllin. Rwy'n falch iawn o ddweud y bydd Llywodraeth Cymru a'r Banc Datblygu yn chwarae rhan hanfodol yn y gwaith o ehangu gweithrediadau, er mwyn helpu i greu mwy o swyddi newydd.

"Rwy hefyd yn cymeradwyo hanes y cwmni o ran rhoi ystyriaeth i'r amgylchedd. Mae offer gwasgu newydd 2,500t yn cael eu gosod ar safle Llanfyllin. A bydd hynny’n caniatáu i’r cwmni'n wneud gwaith o'r cyfandir ar y glannau.”

Dywedodd Jason Phillips, Rheolwr Gyfarwyddwr Marrill Group Ltd:

“Mae wedi cymryd 18 mis o waith caled a thrafodaethau i gwblhau'r broses o gaffael y ffatri. O ganlyniad i gydymdrechion a chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Banc Datblygu Cymru, rydyn ni wrth ein bodd gyda'r canlyniad terfynol. Byddwn ni'n buddsoddi yn y ffatri ac yn disgwyl i'r fenter busnes hon gynyddu ein gwerthiannau i tua £35m. Mae'n gyflawniad aruthrol, yn enwedig o ystyried sut mae'r pandemig wedi rhoi straen ar yr economi weithgynhyrchu dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

“Mae'r gweithlu'n frwdfrydig, mae'r rhagolygon o ran gwerthiannau'n argoeli'n dda iawn, ac rydyn ni'n teimlo'n gyffrous o ran y buddsoddiadau sydd yn yr arfaeth a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau.”

Dywedodd Rhodri Evans, Dirprwy Reolwr Cronfeydd,Banc Datblygu Cymru:

“Mae Marrill Group Ltd yn fusnes sefydledig, ac mae gan y cwmni dîm rheoli profiadol iawn sydd wedi ymrwymo i dyfu'r busnes o'r safle newydd ym Mhowys.

“Rydyn ni wedi gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru i sicrhau'r buddsoddiad pwysig hwn ar gyfer canolbarth Cymru; gan ddarparu'r cyllid i helpu i brynu'r busnes, buddsoddi mewn offer newydd, diogelu swyddi a chreu cyfle ar gyfer twf yn y dyfodol.”