English icon English
P1012989.MOV.12 31 25 03.Still001 ed

Llywodraeth Cymru yn helpu plant i fwynhau Llond Ceg o lysiau.

Welsh Government helping to make children veg chomp-ions.

Mae Bwytewch y Llysiau i'w Llethu yn dychwelyd am ei chweched flwyddyn. Y nod yw gwneud llysiau'n hwyl, gwella deiet plant a chynyddu faint o lysiau y maen nhw’n eu bwyta.

Wedi'i lansio yn gynharach yr wythnos hon, mae thema’r ymgyrch eleni, sef 'Llond Ceg', yn galw ar blant i lethu llysiau fesul tamaid a hybu plant i fwyta mwy o lysiau drwy raglen mewn ysgolion ac ymgyrch hysbysebu. 

Mae’r ymgyrch gan Nerth Llysiau, ITV, Channel 4 a Sky Media, sydd wedi ennill gwobrau, yn cael ei chefnogi gan Lywodraeth Cymru sy'n ariannu rhaglen ddwyieithog i ysgolion ar gyfer pob ysgol gynradd ledled Cymru, gan gyrraedd dros 262,000 o blant.

Mae Ysgol Santes Tudful, ym Merthyr Tudful, wedi cymryd rhan yn y rhaglen ysgolion eleni ac mae'r disgyblion wedi bod yn mwynhau dosbarthiadau coginio, celf a chrefft a dangos eu sgiliau cnoi o flaen sgrin werdd.

Mae'r data cyfredol yn awgrymu bod traean o blant yn bwyta llai nag un gyfran o lysiau'r dydd a dywedodd 53% o blant eu bod eisiau bwyta mwy o lysiau. Cafodd Nerth Llysiau ei sefydlu yn 2018 i weddnewid faint o lysiau sy'n cael eu bwyta yn y DU ac i ysbrydoli arferion o fwyta llysiau y gall plant eu rhannu gyda'u rhieni a'u plant eu hunain yn y dyfodol.

Yn dilyn ymgyrchoedd blaenorol, dywedodd 64% o rieni’r plant a gymerodd ran yn y rhaglen y llynedd yng Nghymru fod eu plentyn yn bwyta mwy o lysiau a dywedodd 73% o rieni fod eu plentyn wedi rhoi cynnig ar fwyta llysiau newydd.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle:

"Mae'n hanfodol ein bod yn helpu ein plant i ddeall pwysigrwydd bwyta bwydydd iach ac un o'r ffyrdd gorau o wneud hyn yw ei wneud yn hwyl. Mae'r nifer o lysiau mae plant yn eu bwyta wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf a gallai hyn gyfrannu at ganlyniadau iechyd gwael wrth iddynt dyfu. Mae'r ymgyrch hon yn ffordd wych o hyrwyddo bwyta'n iach a helpu i newid ymddygiad mewn ffordd hwyliog a chadarnhaol.

Mae lleoliadau addysg yn rhan allweddol o'n strategaeth Pwysau Iach, Cymru Iach i leihau ac atal gordewdra. Dyna pam ei bod yn wych ein bod ni wedi gallu cefnogi'r rhaglen ysgolion eleni, i helpu i annog plant a'u teuluoedd i fwyta mwy o lysiau a gwneud dewisiadau iachach."

Dywedodd Dan Parker, Prif Weithredwr Nerth Llysiau:

"Mae ein gwerthusiad wedi dangos bod yr ymgyrch hon yn cael effaith gadarnhaol sydd wir ei hangen ar ddeiet plant ac rydym yn edrych ymlaen i weld mwy o blant a'u teuluoedd yn elwa o hyn. Gwyddom na fydd newid ymddygiad ac iechyd deietegol yn y DU yn digwydd dros nos, ond rydym wrth ein boddau gyda'r cynnydd y mae ein hymgyrch ac ymgyrchoedd eraill sy'n gweithio yn y maes hwn wedi'i gyflawni. Diolch yn fawr i bawb sydd wedi ein cefnogi unwaith eto eleni!"

DIWEDD

Nodiadau i olygyddion

Nodiadau

  • Ers ei lansio yn 2019, mae dros 1.5 miliwn o blant gwahanol o 4,884 o ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig wedi elwa o'r rhaglen ysgolion.