English icon English
Wales Window

Llywodraeth Cymru yn nodi 60 mlynedd ers Bomio Eglwys y Bedyddwyr 16th Street ac yn ailddatgan y cyfeillgarwch hanesyddol rhwng Cymru a Birmingham, Alabama

Welsh Government marks 60th anniversary of 16th Street Baptist Church Bombing and reaffirms historic friendship between Wales and Birmingham, Alabama

Mae Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi yng Nghymru, yn ymweld â Birmingham, Alabama i nodi 60 mlynedd ers bomio hiliol Eglwys y Bedyddwyr 16th Street a laddodd bedair merch fach, ac i ailddatgan y berthynas hanesyddol rhwng Cymru a Birmingham trwy Gytundeb Cyfeillgarwch Rhyngwladol newydd.

Yn dilyn y bomio, a oedd yn foment allweddol yn Mudiad Hawliau Sifil yr Unol Daleithiau, ariannodd pobl Cymru ffenestr gwydr lliw newydd yn darlunio Crist du ar y groes fel arwydd symbolaidd o undod. Wedi'i ddylunio gan yr artist Cymreig John Petts a'i gefnogi gan ymgyrch gan y Western Mail, rhoddwyd 'Ffenestr Cymru' i Eglwys y Bedyddwyr 16th Street.

Bydd y Gweinidog Vaughan Gething, y gweinidog du cyntaf yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a'r Alban, yn cynnig sylwadau yn Niwrnod Coffa Eglwys y Bedyddwyr 16th Street ar y 15fed o Fedi, ochr yn ochr â'r fenyw ddu gyntaf yng Ngoruchaf Lys yr UDA, yr Ustus Ketanji Brown Jackson. 

I nodi'r achlysur ac er anrhydedd i'r berthynas hanesyddol rhwng Cymru a Birmingham, bydd Gweinidog yr Economi a Maer Birmingham Randall Woodfin yn llofnodi Cytundeb Cyfeillgarwch Rhyngwladol, gan gadarnhau ymrwymiad i gydweithio ar yr economi, addysg, y celfyddydau a diwylliant.  Yn dilyn yr arwyddo, bydd dadorchuddio plac coffa a chyflwyno pedair coeden ym Mharc Kelly Ingram er cof am y bedair ferch.

Yn ogystal â nodi'r datblygiadau hanesyddol a wnaed ers y 1960au, bydd y Gweinidog yn pwysleisio’r  angen i weithredu yng ngwyneb 'grymoedd pwerus heddiw sy'n ffynnu ar raniadau'.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: "Fe wnaeth hiliaeth ddwyn dyfodol pedair merch a ddylai fod wedi bod yn rhydd i fyw bywydau hir, cyflawn. Mae'n destun balchder mawr i'n cenedl, 60 mlynedd yn ddiweddarach, bod Ffenestr Cymru yn parhau i fod yn ffynhonnell nerth i gymuned sydd wedi gwneud cymaint i droi dioddefaint yn obaith i bobl ledled y byd.

"Bydd yna bobl yng Nghymru fydd yn cofio rhoi yr ychydig oedd ganddyn nhw i helpu i greu'r mynegiant unigryw yma o undod Cymreig. Dewison nhw weithredu ar y reddf deilwng honno a gwneud rhywbeth i helpu pobl dros 4,000 o filltiroedd i ffwrdd. Mae'r penderfyniad i weithredu ar y reddf honno yn bwerus ac yn rheswm i bob un ohonom deimlo'n obeithiol am ein gallu i herio hiliaeth lle bynnag y mae'n bygwth cynnydd. 

"Er gwaethaf y datblygiadau rydym yn eu dathlu, gwyddom nad yw cyfiawnder a chynnydd yn anochel. Mae grymoedd pwerus heddiw sy'n ffynnu ar raniad a chasineb. Wrth i ni anrhydeddu'r gorffennol, mae gennym  ddyled i'r rhai a ddaeth a newid i rym ac i gydnabod y camau sydd eu hangen heddiw i greu gwell yfory.   

"Rwy’n falch iawn o arwyddo Cytundeb Cyfeillgarwch Rhyngwladol Birmingham – Cymru gyda Maer Randall Woodfin.   Mae'r cytundeb yn arwydd o'n bwriad i adeiladu ar y cysylltiadau presennol a meithrin cydweithrediad a chydweithio diwylliannol ac economaidd parhaus."

 Wrth groesawu Mr Gething i Birmingham, dywedodd y Maer Randall Woodfin: 

"Bydd yr enwau Denise McNair, Cynthia Morris Wesley, Carole Robertson, ac Addie Mae Collins yn rhan annatod o hanes hawliau sifil.  Er y bydd achlysur coffáu y merched ifanc hyn yn gyfnod o alaru a myfyrio difrifol, mae hefyd yn gyfnod o undod. Dyna pam mae'n anrhydedd i Ddinas Birmingham groesawu'r Gweinidog Vaughan Gething i rannu yn yr achlysur cysegredig hwn wrth inni adeiladu cysylltiadau cyfeillgarwch a chydweithio."

Bydd yr ymweliad hefyd yn cynnwys trafodaeth banel ar hawliau sifil a sesiwn coginio diwylliannol gyda rhanddeiliaid a gynhelir gan Birmingham Sister Cities, ac amryw fyrddau busnes a chyfarfodydd gan gynnwys ymweliad â phencadlys Moneypenny yn yr Unol Daleithiau yn Atlanta.