English icon English
MSJ with children at a cookery lesson at Steps4Change-2

Llywodraeth Cymru yn rhoi £1m i apêl i helpu sefydliadau yn y sector gwirfoddol

Welsh Government donates £1m to appeal supporting voluntary sector organisations

Bydd apêl am roddion i helpu sefydliadau yn y sector gwirfoddol ymdopi drwy’r argyfwng costau byw yn elwa ar rodd o £1m gan Lywodraeth Cymru.

Mae 'Ein Cymunedau Gyda'n Gilydd – apêl argyfwng costau byw', a sefydlwyd gan Sefydliad Cymunedol Cymru mewn partneriaeth â Newsquest, yn cefnogi sefydliadau gwirfoddol ar lawr gwlad i dalu am gostau cynyddol, ac ar adeg pan fo’r galw am y gwasanaethau hynny'n cynyddu.

Bydd yr apêl yn darparu cymorth drwy grantiau o £2-5k fesul sefydliad, i'r sector gwirfoddol ar lawr gwlad, fel y gallant barhau i gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau.

Mae'r gwasanaethau hyn yn cynnwys darparu help a chyngor; mynediad at fwyd, dillad ac eitemau hanfodol eraill; helpu gyda gofal plant; cymorth i bobl hŷn a llawer mwy.

Maen nhw'n wynebu mwy o alw a straen ar eu hadnoddau ar hyn o bryd. Mae ffigurau a ddarparwyd gan Gefnogi Trydydd Sector Cymru yn dangos bod nifer y sefydliadau sydd angen cymorth wedi codi o 2,457 yn 2018-19 i 4,317 yn 2020-21.

Mae'r duedd honno wedi parhau yn ystod tri chwarter cyntaf 2022-23, ac mae 3,850 o sefydliadau yn cael cymorth erbyn hyn.

Mae sefydliadau'r sector gwirfoddol wedi bod yn llenwi rhai o fylchau sefydliadau'r sector cyhoeddus wrth ddiwallu anghenion. A hynny oherwydd eu bod nhw nid yn unig yn delio â mwy o alw ar ôl y pandemig, ond hefyd mae'r argyfwng costau byw yn rhoi llawer ohonynt dan straen i gadw dau ben llinyn ynghyd a pharhau i ddarparu gwasanaeth.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, a ymwelodd â Steps4Change i weld o lygad y ffynnon sut maent yn cefnogi pobl yn Butetown: "Fel cymdeithas rydyn ni’n fwyfwy dibynnol ar y sector gwirfoddol i ddarparu cymorth i’r bobl hynny yn ein cymunedau sydd fwyaf agored i niwed.

"Maen nhw’n chwarae rôl hanfodol trwy gynnig cymorth gofal plant, banciau bwyd sy'n helpu aelwydydd i fwydo eu teuluoedd, a gwasanaethau sy’n rhoi cyngor ar sut gall pobl wneud y gorau o'u hincwm.

"Rydyn ni'n falch y gallwn ni roi'r rhodd hon i 'Ein Cymunedau Gyda'n Gilydd - apêl argyfwng costau byw' a bydden ni’n annog sefydliadau eraill i wneud rhoddion eu hunain hefyd, gan y bydd y gronfa hon yn gwneud gwahaniaeth enfawr i gymunedau ledled Cymru."

Mae Ein Cymunedau Gyda’n Gilydd – apêl argyfwng costau byw yn ceisio cael rhoddion i gefnogi sefydliadau bach ar lawr gwlad yn y sector gwirfoddol sy'n helpu pobl drwy galedi.

Dywedodd Richard Williams, Prif Weithredwr Sefydliad Cymunedol Cymru, y byddai'r grantiau gan Ein Cymunedau Gyda'n Gilydd – apêl argyfwng costau byw yn blaenoriaethu cymorth i sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau i helpu pobl sy'n byw yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, a phobl o gefndiroedd sydd â nodweddion gwarchodedig yr effeithir arnynt fwyaf gan yr argyfwng costau byw.

Dywedodd: "Rydyn ni'n falch iawn o fod wedi derbyn y rhodd hael hon gan Lywodraeth Cymru ac rydyn ni'n gobeithio y bydd hyn yn annog mwy o bobl i gymryd rhan a gwneud gwahaniaeth mawr i'r llu o bobl sy'n ei chael hi’n anodd ymdopi drwy'r argyfwng costau byw.

"Os ydyn ni eisiau i'r grwpiau hyn barhau i fod yma ar ôl yr argyfwng hwn, mae angen i ni fel cymdeithas ddod at ein gilydd i'w cefnogi nhw. Dyna pam mae angen cymorth gan bobl a busnesau yng Nghymru nawr yn fwy nag erioed.

"Bydd y grantiau o'r apêl hon yn gwneud llawer i sicrhau bod y sefydliadau sy'n cefnogi'r rhai sydd â’r angen mwyaf yn gallu parhau i wneud hynny nawr, ac yn y misoedd anodd sydd i ddod."

Mae Steps4Change yn darparu cymorth cymunedol i deuluoedd sy’n agored i niwed, sy’n cynnwys dosbarthu bwyd, a dyma'r math o sefydliad sy'n debygol o elwa ar Ein Cymunedau Gyda'n Gilydd – apêl argyfwng costau byw.

Wrth siarad yn ystod dosbarth coginio i blant yn y lleoliad yn Butetown, dywedodd Tony Ogunsulire, Cyfarwyddwr Steps4Change: "Mae'n gwella eu hyder a'u sgiliau cyfathrebu, ac yn rhoi sgiliau byw iddyn nhw y byddan nhw’n elwa ohonyn nhw wrth fynd yn hŷn.

"Mae'n helpu i newid y ffordd y maen nhw’n meddwl am ffrwythau a llysiau, fel eu bod nhw’n fwy tebygol o goginio na chael tecawê."

Ychwanegodd: "Mae'n wych gweld bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i helpu diwallu anghenion y gymuned. Byddai'r cyllid hwn gan Sefydliad Cymunedol Cymru yn helpu i dalu ein costau fel ein bod ni’n gallu parhau i gynnig dosbarthiadau fel hyn."

Nodiadau i olygyddion

Captions

  • Minister for Social Justice Jane Hutt with young people during a cookery class at Steps4Change
  • Minister for Social Justice Jane Hutt with Tony Ogunsulire and young people at Steps4Change
  • Alan Evans (chair of the board of trustees at Community Foundation Wales), Minister for Social Justice Jane Hutt and Newsquest's regional editor for Wales Gavin Thompson

Steps4Change provides community support for vulnerable families, including through food distribution, and is the type of organisation that is likely to benefit from the Our Communities Together – a cost of living crisis appeal.

  • Based in Butetown, Cardiff, in one of the most deprived areas of Wales, Steps4Change provides a service to the most vulnerable members of this diverse community to help them to come together in a safe and welcoming space. The organisation encourages integration and cohesion via intergenerational support and activities. 
  • They enable cross generational learning with older people, sharing skills such a cookery on a budget with young people and younger people providing older people with support to be more digitally connected for example. 
  • The group also provides cultural food distribution, educational training and employment support, advocacy and mentoring to improve the life chances and expectations of those they support.