Llywodraeth Cymru yn rhoi injan dân i Faes Awyr Kharkiv yn Wcráin yn dilyn apêl
Welsh Government donates fire truck to Ukraine’s Kharkiv Airport following appeal
Mae Cymru yn rhoi injan dân arbenigol ar gyfer maes awyr i Faes Awyr Kharkiv yn Wcráin mewn ymateb i apêl yn dilyn ymosodiad gyda thaflegrau a ddinistriodd injan dân wreiddiol y maes awyr mewn ffordd nad oes modd ei thrwsio.
Yn dilyn rhyfel anghyfreithlon a direswm Rwsia yn erbyn Wcráin, gorfodwyd Maes Awyr Kharkiv i stopio ei weithrediadau ym mis Chwefror 2022. Ym mis Ebrill 2022, ymosodwyd ar y maes awyr gyda thaflegrau a ddinistriodd un o’i injans tân.
Wrth i’r ddinas a’r ardal ailadeiladu ac adfer yn sgil y difrod a achoswyd gan y gwrthdaro, ym mis Chwefror 2023, gofynnodd y maes awyr i’w cynghreiriaid rhyngwladol am gymorth i ddod o hyd i injan dân i gymryd lle’r un a ddinistriwyd.
Yn dilyn rhaglen adnewyddu asedau cyfalaf, mae gan faes awyr Sain Tathan sawl injan dân dros ben ac yn dilyn trafodaethau gyda chyflenwr y cerbydau arbenigol hyn, darganfuwyd bod un o’r cerbydau hyn yn Sain Tathan yn ateb anghenion Maes Awyr Kharkiv.
Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething wedi awdurdodi'r rhodd ar ran Llywodraeth Cymru.
Wrth gyhoeddi'r rhodd ym Maes Awyr Sain Tathan, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Rwy'n falch bod Cymru'n gallu chwarae ei rhan a sefyll mewn undod gyda phobl Wcráin ac rwy’n falch o'r croeso y mae cymaint wedi ei gynnig i'r rhai sy'n ffoi rhag rhyfel.
"Mae ein ffrindiau ym Maes Awyr Kharkiv wedi gofyn am help ac rwy'n falch ein bod yn gallu helpu gyda'r rhodd hon.
"Bydd yr injan dân newydd hon yn galluogi'r maes awyr i barhau i wasanaethu'r gymuned ac yn helpu i ailadeiladu ac adfer dinas Kharkiv."
Bydd yr injan dân yn cael ei chludo i Faes Awyr Kharkiv gyda chymorth Gweinyddiaeth Amddiffyn y DU.
DIWEDD