English icon English
pexels-mart-production-7088530-2

Llywodraeth Cymru'n datgelu cynlluniau mawr ar gyfer labordy meddygaeth niwclear cenedlaethol yn y Gogledd

Welsh Government unveils major plans for national nuclear medicine laboratory in north Wales

  • Byddai Prosiect ARTHUR, Llywodraeth Cymru, yn arwain at greu Labordy Cenedlaethol sector cyhoeddus ar gyfer cyflenwi radioisotopau meddygol – sydd eu hangen er mwyn gwneud diagnosis a thrin clefydau fel canser.
  • Byddai’r cyfleuster yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang ym maes meddygaeth niwclear, gan wneud Cymru'n lleoliad blaenllaw ar gyfer cynhyrchu radioisotopau meddygol yn y DU.
  • Bydd y datblygiad yn arwain at greu swyddi hynod fedrus dros sawl degawd.
  • Gweinidog yr Economi yn galw ar Lywodraeth y DU i helpu ariannu'r prosiect i osgoi “argyfwng iechyd ac economaidd yn y dyfodol”.

Mae cynlluniau newydd mawr i wneud Cymru yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang ac yn lleoliad blaenllaw ar gyfer cynhyrchu radioisotopau meddygol yn y DU, a fyddai'n helpu i fynd i'r afael ag argyfwng cyflenwi sy'n prysur agosáu ar gyfer meddygaeth niwclear ledled y byd, wedi cael eu datgelu heddiw gan Lywodraeth Cymru.

Yn y DU, ar draws Ewrop, a thu hwnt, mae'r cyfarpar mewn cyfleusterau sydd ar hyn o bryd yn cynhyrchu sylweddau ymbelydrol sy'n achub bywydau, a elwir yn radioisotopau meddygol, sy'n hanfodol i wneud diagnosis a thrin canser, yn dod i ddiwedd eu hoes gynhyrchiol ac yn cael eu cau. O ganlyniad, erbyn 2030, mae'r DU yn wynebu realiti o beidio â chael unrhyw radioisotopau meddygol, neu'r “hunllef foesegol” o orfod eu dogni.

Mae canlyniadau amharu ar gyflenwadau yn sylweddol. Fe wnaeth colli isotopau dros dro o'r seiclotron yng Nghanolfan Delweddu PET Prifysgol Caerdydd effeithio ar sganiau diagnostig ar gyfer sawl clefyd, yn enwedig canser. Byddai colli'r cyflenwad yn fwy cyffredinol yn cael effaith niweidiol sylweddol ar ganlyniadau a goroesiad cleifion.

Mewn ymateb, mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu cynlluniau i sicrhau’r cyflenwad o radioisotopau meddygol i Gymru a'r DU drwy ddatblygu prosiect ARTHUR (“Advanced Radioisotope Technology for Health Utility Reactor”).

Wedi'i leoli yng ngogledd-orllewin Cymru, bydd cyfleuster Prosiect ARTHUR yn ‘Labordy Cenedlaethol’ sector cyhoeddus gyda'i adweithydd niwclear ei hun. Byddai'n cynhyrchu radioisotopau meddygol ac yn eu cyflenwi i GIG Cymru a'r Gwasanaethau Iechyd Gwladol eraill yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Bydd Prosiect ARTHUR yn un o brif fentrau strategol Cymru a'r DU ac yn fenter ar draws sawl degawd – ymrwymiad o ryw 60 i 70 mlynedd. Pan fydd ar waith, bydd yn un o’r ychydig gyfleusterau yn y byd sy’n canolbwyntio'n bennaf ar gynhyrchu radioniwclid meddygol.

Yn ogystal â darparu gwasanaethau hanfodol i'r GIG ledled y DU, bydd hefyd yn helpu i ysgogi economi’r Gogledd drwy ddenu swyddi a diwydiant hynod fedrus, creu seilwaith amgylchynol, adeiladu cadwyni cyflenwi lleol, a chefnogi cymunedau lleol.

Bydd y swyddi a gaiff eu creu, yn uniongyrchol ac yn y gadwyn gyflenwi gysylltiedig, yn rhai hirdymor ac yn gynaliadwy i bobl sydd â sgiliau a chefndiroedd economaidd-gymdeithasol gwahanol. Byddant yn cynnwys rolau fel gwyddonwyr ymchwil a pheirianwyr, gyrwyr, staff gweithrediadau, cynhyrchu, technegol a swyddfa.

Byddai'r cyfleuster hefyd yn helpu i gynnal ac adeiladu cymunedau cryf, cydlynus, a hirhoedlog. Bydd hyn yn arbennig o bwysig yn y cymunedau gwledig a’r cymunedau  Cymraeg hynny ledled y Gogledd, sydd wedi bod yn ddibynnol iawn ar swyddi yn y diwydiant ynni niwclear.

Mae'r prosiect yn ddatblygiad cydweithredol mawr rhwng Adran Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Adran yr Economi Llywodraeth Cymru. Mae'r datblygiadau posibl sy'n deillio o'r ysgol feddygol newydd ym Mangor, sy’n cyd-fynd â Phrosiect ARTHUR a thechnolegau iechyd eraill, yn cyflwyno'r ateb rhanbarthol gorau ar gyfer gallu radiofeddyginiaethau a radioddiagnosteg cynaliadwy a diogel yn y Gogledd.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

“Heddiw, rwy'n falch o amlinellu uchelgais glir ar gyfer creu clwstwr technolegol mawr arall yma yng Nghymru, gan hefyd fynd i'r afael ag argyfwng sy'n prysur agosáu ar gyfer triniaeth feddygol ledled y byd.

“Ein gweledigaeth yw creu prosiect ARTHUR – cyfleuster meddygaeth niwclear sy'n arwain y byd, ac a fydd yn dwyn ynghyd màs critigol o waith ymchwil, datblygu, ac arloesi ym maes gwyddorau niwclear.

“Yn sgil y datblygiad hwn, nid yn unig y gall Cymru ddod yn lleoliad blaenllaw yn y DU ar gyfer cynhyrchu radioisotopau meddygol – drwy gynhyrchu radioisotopau meddygol sy'n achub bywydau sy'n hanfodol ar gyfer gwneud diagnosis a thrin canser – ond gallwn hefyd ddenu swyddi hynod fedrus, creu seilwaith amgylchynol, cefnogi cymunedau lleol, ac adeiladu cadwyni cyflenwi lleol.

“Bydd y prosiect hwn yn hanfodol o ran ein helpu i gyflawni ein hymrwymiadau i greu Cymru iachach a mwy ffyniannus, drwy greu'r cyfleoedd sydd eu hangen ar bobl i wneud eu dyfodol yma yng Nghymru.”

Mae gweledigaeth y prosiect yn cynnwys creu ‘campws technoleg’ yn y Gogledd, yn debyg i gampysau eraill yn y DU sydd ag elfen niwclear, megis y rhai yn Harwell (Labordy Rutherford Appleton) a Culham (Awdurdod Ynni Atomig y DU) yn Swydd Rhydychen, ac yn Daresbury (labordy ffiseg niwclear STFC) yn Swydd Gaer.

Fodd bynnag, er mwyn llwyddo, mae angen sicrhau cyllid o wahanol ffynonellau - gan gynnwys Llywodraeth y DU - i greu prosiect ARTHUR.

Ychwanegodd y Gweinidog:

“Mae maint y buddsoddiad sydd ei angen i wireddu Prosiect ARTHUR yn sylweddol. Rwy'n galw ar Lywodraeth y DU i gydweithredu i gefnogi ein hymdrechion, gan fod y datblygiad hwn yn cefnogi ac o fudd i ddiagnosteg a thrin canser yn y dyfodol ar draws y DU. Nawr yw’r amser ar gyfer camau gweithredu ac ymrwymiad pendant. Bydd goblygiadau peidio â gweithredu'n cael eu cyfrif mewn bywydau dynol ac mewn pwysau economaidd hirdymor ar wasanaethau iechyd, drwy driniaethau iechyd anghynaliadwy.

“Rydym bellach yn profi pwysau economaidd digynsail – ond nid yw hynny'n esgus dros fethu â chynllunio ar gyfer yr angen clir hwn yn y dyfodol. Rhaid i ni atal argyfwng iechyd ac economaidd yn y dyfodol. Felly, rwyf wedi cymeradwyo cyllid ar gyfer astudiaeth ddichonoldeb technegol ac ar gyfer datblygu Cynllun Busnes Amlinellol. Bydd y cynllun hwn yn adeiladu ar waith technegol sydd eisoes wedi'i wneud a'r Cynllun Busnes Amlinellol Strategol cynharach.”

“Rwy'n hyderus y gall ein cyfleuster Prosiect ARTHUR ddod yn ganolfan ragoriaeth fyd-eang ac yn destun balchder i Gymru a'r DU yn ehangach ar gyfer sawl degawd.”