Mae ffotograffau newydd yn dangos llwyddiant ysgubol y Cynllun Bioamrywiaeth ar rwydwaith strategol ffyrdd Cymru
New photographs show blooming success of Biodiversity Plan on Wales’ strategic road network
Ar gannoedd o ochrau ffyrdd ar draws rhwydwaith ffyrdd strategol Cymru, mae gwaith yn mynd rhagddo i reoli a chynyddu bioamrywiaeth ymylon glaswellt yn well fel rhan o Lwybr Newydd i Natur Llywodraeth Cymru – y Cynllun Gweithredu Adfer Natur.
Mae'r A483 ym Mhlasnewydd ger Rhydaman yn Sir Gaerfyrddin yn un o nifer o ardaloedd lle byddwch yn darganfod amrywiaeth o flodau gwyllt brodorol a ddewiswyd yn benodol i wella diddordeb botanegol y llain a darparu neithdar ar gyfer peillwyr, fel glöynnod byw. Mae'r ymylon glaswellt lliwgar hefyd yn cynnig pwynt siarad ar gyfer defnyddwyr ffyrdd sy’n mynd heibio ac yn rhoi cefnogaeth i fusnesau lleol trwy gyrchu'r planhigion gan gyflenwyr lleol.
Mewn ychydig llai na blwyddyn mae'r prosiect ym Mhlasnewydd wedi gweld twf gwych ac mae eisoes yn chwarae ei ran wrth gefnogi natur.