English icon English
WNS 200423 St David Awards 03

Mae gennych amser o hyd i enwebu arwr ar gyfer Gwobrau Dewi Sant

Still time left to nominate a hero for the St David Awards

Heddiw, mae'r Prif Weinidog yn annog pobl i enwebu eu harwr bob dydd ar gyfer y Gwobrau Dewi Sant blynyddol.

Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru ac maent yn cydnabod y gwaith rhyfeddol a wneir gan unigolion a grwpiau eithriadol.

Bydd rhestr fer o enwebeion ar gyfer pob categori yn cael eu dewis gan banel arbenigol annibynnol, sy'n chwilio am bobl sydd wedi cyflawni gweithredoedd anhunanol i gefnogi'r gymuned. Bydd yr enillwyr, gan gynnwys derbynnydd gwobr y Prif Weinidog, yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig yn 2024.

Y categorïau yw:

  • Gweithiwr Hanfodol (Gweithiwr Allweddol)
  • Pencampwr yr Amgylchedd
  • Dewrder
  • Ysbryd y Gymuned
  • Diwylliant
  • Chwaraeon
  • Busnes
  • Arloesi, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
  • Person Ifanc
  • Gwobr Arbennig y Prif Weinidog

Meddai Prif Weinidog Cymru Mark Drakeford:

"Ers dros 10 mlynedd, mae Gwobrau Dewi Sant wedi cydnabod arwyr o bob rhan o Gymru sydd wedi mynd y tu hwnt i'r hyn sy'n ddisgwyliedig i helpu pobl eraill.

"Mae'r enwebiadau ar gyfer gwobrau eleni yn cau ar 19 Hydref - nawr yw'r amser i enwebu rhywun sy'n haeddu cydnabyddiaeth ac sydd wedi helpu i wneud Cymru neu'r byd yn lle gwell."

Roedd enillwyr y llynedd yn cynnwys dau ddisgybl ysgol a lwyddodd, drwy feddwl yn gyflym, i osgoi trasiedi posibl ar yr M4; tîm o academyddion a ddatblygodd brawf gwaed sy'n canfod canser y coluddyn yn gynnar a grŵp o wirfoddolwyr a helpodd i baru mwy na 1,000 o ffoaduriaid o'r Wcrain gyda theuluoedd yn Ne Cymru.

Gellir enwebu drwy wefan Gwobrau Dewi Sant: https://llyw.cymru/gwobrau-dewi-sant