Mae Llywodraeth Cymru am gael eich barn ar galendr yr ysgol
Welsh Government wants your views on the school calendar
Bydd ymgynghoriad yn dechrau ar 21 Tachwedd ar newid calendr yr ysgol, fel bod gwyliau'n cael eu rhannu'n fwy cyson, gan gynnwys pythefnos o wyliau hanner tymor yn yr hydref.
Mae calendr presennol yr ysgol yn golygu bod tymor yr hydref yn hirach na'r lleill. Mae gwaith ymchwil yn awgrymu bod y tymor hwn yn flinedig ac yn heriol i ddysgwyr a staff, gan fod mwy o addysgu yn cael ei wasgu i'r tymor hwn nag i unrhyw un arall.
Ni fydd nifer y dyddiau o wyliau ysgol na nifer y dyddiau addysgu yn newid.
Mae rhai disgyblion, yn enwedig y rhai o gefndiroedd sydd dan anfantais yn ariannol a'r rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY), yn ei chael yn anodd mynd yn ôl i ddysgu ar ôl gwyliau haf hir.
Gan fod gwyliau'r haf yn hir, rhaid neilltuo amser yn nhymor yr hydref i fynd dros bethau, yn hytrach na symud ymlaen gyda'r dysgu. Mae athrawon hefyd yn nodi mwy o faterion yn ymwneud ag ymddygiad a lles ar ôl gwyliau'r haf.
O dan y cynnig newydd, byddai wythnos yn cael ei chymryd o ddechrau gwyliau'r haf a'i hychwanegu at wyliau mis Hydref, fel bod staff a dysgwyr yn cael mwy o amser i orffwys yn ystod tymor hir yr hydref.
Bydd athrawon a disgyblion yn dal i gael 13 o wythnosau o wyliau, ond bydd ambell wythnos yn cael ei symud fel bod y gwyliau'n digwydd pan fydd yn darparu'r budd mwyaf.
Byddai'r newidiadau hyn yn cael eu gwneud o fis Medi 2025 ymlaen, sy'n golygu y byddai ysgolion yn cael pythefnos o wyliau ym mis Hydref 2025 a gwyliau haf pum wythnos yn 2026.
Bydd yr ymgynghoriad hefyd yn archwilio newidiadau ychwanegol y gellid eu datblygu yn y dyfodol, ond nid yn 2025. Mae'r newidiadau hyn yn cynnwys yr opsiwn o symud ail wythnos o wyliau'r haf a'i hychwanegu at wyliau'r Sulgwyn. Byddai hyn yn helpu i wneud y tymhorau'n debyg o ran hyd ac i wneud tymor yr haf yn fwy cyson, gan ei gwneud yn haws i ddisgyblion ddysgu ac i athrawon gynllunio. Yn yr achos hwn, gallai diwrnodau canlyniadau TGAU a Safon Uwch ddigwydd yn yr un wythnos. Byddwn yn edrych ar hyn dros y blynyddoedd nesaf, gan ddilyn yr un amserlen â'r broses o gyflwyno ein cymwysterau wedi'u 'Gwneud i Gymru’.
Byddai'r cynnig hefyd yn gwneud tymor y gwanwyn yn fwy cyson, gan ei gwneud yn haws cynllunio ar ei gyfer. Mae'r pythefnos o wyliau yn y gwanwyn bob amser yn cyd-fynd â'r Pasg, sy'n symud o gwmpas. Byddai cadw gwyliau'r gwanwyn yn gyson yng nghanol y tymor a'i wahanu oddi wrth y Pasg yn gwneud y tymor yn fwy cyson. Byddai gwyliau cyhoeddus Dydd Llun y Pasg a Dydd Gwener y Groglith yn dal i fod yn gymwys, a byddai’r amser addysgu am y dyddiau hyn yn cael ei gyflenwi ar adeg arall yn y flwyddyn.
Mae edrych ar wahanol ddyddiadau ar gyfer y tymhorau ysgol yn rhan o'r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: "Gall y gwyliau haf hir fod yn straen go iawn. Mae teuluoedd yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i ofal plant dros y chwe wythnos, ac mae eraill yn cael trafferth gyda'r costau ychwanegol a ddaw yn sgil yr hafau hir. Rydyn ni hefyd yn gwybod mai ein dysgwyr mwyaf difreintiedig sy'n mynd ar ei hôl hi fwyaf gyda'r dysgu yn sgil haf hir.
"Mae digon o enghreifftiau o awdurdodau lleol ledled y DU yn newid eu calendr ysgol i weddu anghenion lleol.
"Rydyn ni am wneud yn siŵr bod addysg yn gweithio orau i ddisgyblion, athrawon a theuluoedd. Rydyn ni'n edrych am farn pobl ar y newidiadau hyn a beth fyddai'n ei olygu iddyn nhw."
Dywedodd yr Aelod Dynodedig Siân Gwenllian: "Cafodd calendr presennol yr ysgol ei ddylunio amser maith yn ôl, dan amgylchiadau gwahanol iawn. Rydyn ni'n awgrymu newidiadau a allai weithio'n well i bawb, ond yn bwysicaf oll i ddisgyblion o bob oed.
"Mae llawer o blant a phobl ifanc, yn enwedig y rhai ag anghenion dysgu ychwanegol a'r rhai o deuluoedd ar incwm is yn gweld y gwyliau'n hir iawn, gan effeithio'n negyddol ar eu lles a'u haddysg. Mae'r cynigion hyn yn mynd i'r afael â hynny wrth barhau i ganiatáu'r un faint o wyliau drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys gwyliau haf sylweddol, gan ddarparu gwyliau hirach yn ystod hanner tymor yr hydref."
Dywedodd Jason Elsom, Prif Weithredwr Parentkind,
"Dangosodd ein pôl diweddar o 6,800 o rieni yng Nghymru fod mwyafrif o rieni yn cefnogi symud tuag at ledaenu gwyliau ysgol yn fwy cyfartal ar draws y flwyddyn, gyda 72% o deuluoedd incwm is o blaid.
“Mae'n deg dweud bod y ffordd mae gwyliau ysgol wedi eu crynhoi i fisoedd yr haf ar hyn o bryd yn arwain at gostau gofal plant a chostau gwyliau teulu chwyddedig, gan waethygu'r heriau a wynebir yn ystod yr argyfwng costau byw.
“Yn bwysicaf oll, mae hyn yn effeithio ar brofiadau bywyd a chyfleoedd y plant mwyaf agored i niwed. Rydym yn falch o weld yr ymgynghoriad hwn gan Lywodraeth Cymru."