English icon English
Barmouth-3

Mae mesurau 'digyffelyb' ac 'arloesol' yn mynd i'r afael ag ail gartrefi a fforddiadwyedd yng Nghymru

‘Unparalleled’ and ‘groundbreaking’ measures are tackling second homes and affordability in Wales

Heddiw (dydd Mawrth, 12 Mawrth) mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James, wedi cyflwyno datganiad ar ddull Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â materion a achosir gan berchnogaeth ail gartrefi a ddisgrifiodd fel rhai 'digyffelyb yng nghyd-destun y DU'.

Mae mynd i'r afael â'r nifer fawr o ail gartrefi a llety gosod tymor byr mewn llawer o gymunedau yn un o'r ymrwymiadau a amlinellir yn Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru a'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru.

Er mwyn cyflawni hyn, gweithredwyd cyfres gynhwysfawr o fesurau i helpu i reoli niferoedd ail gartrefi a llety gosod tymor byr yn y dyfodol.

Ym mis Ebrill 2023, cafodd awdurdodau lleol y pwerau i gyflwyno premiymau treth gyngor dewisol uwch ar ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor - hyd at 300%.

O fis Ebrill eleni ymlaen, bydd 18 yn gosod premiymau ar un neu'r ddau o'r mathau hyn o eiddo.

Mae nifer o awdurdodau lleol hefyd wedi nodi eu bod yn bwriadu cynyddu'r ganran a godir flwyddyn ar ôl blwyddyn dros gyfnod o dair blynedd, hyd at yr uchafswm newydd, yn enwedig ar gyfer eiddo gwag tymor hir.

Mae cefnogaeth hefyd wedi'i rhoi ar waith ar gyfer perchnogion tai sy'n ei chael hi'n anodd.

Wrth annerch y Senedd, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: "Rydym yn ymwybodol iawn o'r her o ran dod o hyd i eiddo fforddiadwy, ond hefyd o allu fforddio aros yn yr eiddo hwnnw.

"Fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio, fe wnaethom ystyried bylchau yn y farchnad forgeisi a'n cefnogaeth bresennol ar gyfer perchenogaeth cartrefi.

"Bydd y gwaith hwn yn helpu pob rhan o Gymru i ddeall yn well y goblygiadau a'r prosesau sy'n gysylltiedig â datblygu'r gwaith arloesol hwn."

Blaenoriaeth uniongyrchol oedd ystyried bwlch yn y farchnad i'r rhai sy'n ei chael hi'n anodd fforddio taliadau morgais ac sydd mewn perygl difrifol o golli eu cartref oherwydd yr argyfwng costau byw.

Yn y cyd-destun hwnnw, datblygwyd a lansiwyd y cynllun Cymorth i Aros Cymru ym mis Tachwedd 2023, gyda hyd at £40m ar gael dros ddwy flynedd i helpu i gadw pobl a theuluoedd yn eu cartrefi.

Y llynedd, cyflwynwyd y cynllun Grant Cartrefi Gwag gwerth £50m hefyd, gan helpu i ailddefnyddio hyd at 2,000 o gartrefi gwag hirdymor.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru hefyd ddiogelu'r gyllideb o £25m ar gyfer 2024/25 ac fe ohiriodd £19m o gyllideb 2023-24 hyd at 2025-26 i wneud y mwyaf o effaith y cynllun.

Rhoddodd y Gweinidog hefyd y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnig Prynu Cartref wedi'i deilwra, gan weithio gyda Chyngor Gwynedd a Grŵp Cynefin fel rhan o gynllun peilot ail gartrefi a fforddiadwyedd Dwyfor.

Mae'r cynllun Prynu Cartref yn y peilot eisoes yn llwyddiannus, gyda pherchentyaeth eisoes wedi dod yn realiti i 13 teulu.

Mae hyn yn gynnydd sylweddol ar yr un tŷ a gwblhawyd arno yn ystod y pum mlynedd cyn cyflwyno'r peilot.

Mae'r peilot hefyd yn cefnogi capasiti tai dan arweiniad y gymuned ac yn gweithio gyda grwpiau presennol, yn ogystal ag annog grwpiau newydd i ffurfio.

Meddai’r Aelod Dynodedig, Siân Gwenllian: “Drwy’r Cytundeb Cydweithio rydym yn gweithredu er mwyn helpu pobl i fyw yn eu cymunedau lleol, yn mynd i’r afael â’r nifer fawr o ail gartrefi ac eiddo gosod tymor byr. Rhaid mynd i’r afael â thai na ellir eu fforddio os yw pawb am allu byw a gweithio yn y cymunedau lle gwnaethon nhw dyfu i fyny.

“Rydym wedi cyflwyno amrywiaeth o fesurau a fydd yn gwneud gwir wahaniaeth, o bwerau newydd ar faint o dreth gyngor y gellir ei chodi ar ail gartrefi, i newidiadau i’r system gynllunio. Byddwn yn parhau i gydweithio er mwyn mynd i’r amlwg â phroblem sy’n amlwg ledled Cymru.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno newidiadau arloesol i'r fframwaith cynllunio. Yr haf diwethaf, ymgynghorodd Cyngor Gwynedd yn fras ar gyfarwyddyd arfaethedig a fyddai'n golygu y byddai angen caniatâd cynllunio ar y rhai sy'n dymuno newid eiddo preswyl i naill ai ail gartref neu lety gosod tymor byr yn y dyfodol. 

Cafwyd dros 4,000 o ymatebion a byddant nawr yn cael eu dadansoddi i ddatblygu Adroddiad Ymgynghori.

Mae Cyngor Gwynedd wedi ymrwymo i rannu dysgu parhaus drwy gydol y broses hon.

Bydd Parc Cenedlaethol Eryri hefyd yn ymgynghori ar y cyfarwyddyd hwn o fis Mai ymlaen.

DIWEDD