English icon English
Period products-4

‘Mae nwyddau mislif yn eitemau hanfodol a dylen nhw fod ar gael i ragor o bobl nag erioed mewn argyfwng costau byw’ – dyna adduned y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

‘Period products are not a luxury and access to them is even more important during a cost-of-living crisis’ – vows Minister for Social Justice

‘Mae nwyddau mislif yn eitemau hanfodol a dylen nhw fod ar gael i ragor o bobl sy’n ei chael hi’n anodd yn ystod yr argyfwng costau byw’ – dyna adduned Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol.

Un o gonglfeini cynllun ‘Cymru sy’n falch o’r mislif’, sydd newydd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, yw ei gwneud hi’n haws cael gafael ar nwyddau mislif.

Mae’r cynllun yn amlinellu sut y dylai pawb allu cael gafael ar nwyddau mislif, pryd bynnag y bo’u hangen. Mae’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd fforddio nwyddau mislif yn cael eu hannog i ofyn am y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Daw hyn ar adeg pan fo nwyddau mislif am ddim ar gael mewn mwy o leoedd nag erioed o’r blaen.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: “Mae nwyddau mislif yn eitemau hanfodol a dylen nhw fod ar gael i bawb sydd eu hangen. Mae hyn yn bwysicach nag erioed wrth i lawer ei chael hi’n anodd yn ystod yr argyfwng costau byw.

“Ry’n ni eisiau sicrhau nad yw cael mislif yn arwain at golli addysg, absenoldeb o’r gwaith neu dynnu’n ôl o chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol oherwydd tlodi mislif.”

Mae dros £12m wedi’i fuddsoddi i wella mynediad at nwyddau mislif am ddim i blant, pobl ifanc a’r rhai sydd ar incwm isel yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf.

Mae nwyddau mislif am ddim ar gael ym mhob ysgol yng Nghymru ac ar draws ystod o leoliadau cymunedol gan gynnwys y canlynol, ymysg eraill: banciau bwyd, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, canolfannau i deuluoedd, hybiau cymunedol a gwasanaethau ieuenctid. Mae lleoliadau chwaraeon, lleoliadau diwylliannol a chyflogwyr hefyd yn cael eu hannog i ddarparu nwyddau am ddim i staff ac ymwelwyr.

Y gobaith yw y bydd hyn yn dod â thlodi mislif i ben ac yn sicrhau bod y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn gallu cael gafael ar nwyddau mislif.

Roedd Dee Dickens yn ei chael hi’n anodd fforddio nwyddau mislif pan oedd hi’n tyfu i fyny ac yn teimlo cywilydd ohoni ei hun pan oedd hi ar ei mislif, gan boeni drwy’r amser y byddai pobl yn sylwi.

“Byddwn yn defnyddio papur tŷ bach yn nhoiled yr ysgol,” meddai.

“Nes imi adael cartref, ro’n i’n treulio pob mislif yn poeni y gallai pobl fy arogli a dyna oedd yn gwneud imi deimlo cywilydd. Dyna un o’r rhesymau pam rwy’n siarad amdano fe nawr, gan nad ydw i eisiau i neb arall fynd drwy hyn.”

Ychwanegodd: “Pan wnes i adael cartref, ro’n i’n gyfrifol am fy arian fy hun, ond hyd yn oed wedyn byddwn yn rhedeg allan ac yn peidio â phrynu rhagor gan fod gen i’r euogrwydd yma, a byddwn yn dal i roi papur tŷ bach yn fy nicyrs. Mae wedi cymryd blynyddoedd o therapi imi sylweddoli fy mod i’n haeddu pethau neis ac na ddylwn i fod yn meddwl am nwyddau mislif fel pethau neis.”

Mae normaleiddio cael mislif a chael gwared ar unrhyw gywilydd neu stigma yn ei gylch yn un o brif flaenoriaethau’r cynllun.

Nod y cynllun hefyd yw gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r cylch mislif a’r menopos, fel bod gan bobl yr hyder i siarad yn agored amdanyn nhw, a hynny fel nad ydyn nhw’n cael effaith negyddol ar eu bywydau.

Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: “Mae ‘Cymru sy’n falch o’r mislif’ yn nodi ein huchelgeisiau i ddod â thlodi mislif i ben a sicrhau urddas mislif i fenywod, merched a phobl sy’n cael mislif.

“Er mwyn gwneud hyn, mae angen inni wella mynediad at nwyddau mislif, chwalu’r stigma neu’r tabŵ sy’n gysylltiedig â siarad am y mislif a gwella dealltwriaeth o’i effaith ar fywydau pobl.”

Ychwanegodd: “Ry’n ni’n gwybod y bydd ffactorau economaidd-gymdeithasol ac amgylcheddol ehangach yn effeithio ar ein gallu i gyflawni’r weledigaeth hon, ond ry’n ni’n ymdrechu i ddechrau’r sgwrs a dechrau newid y diwylliant a fydd o fudd i genedlaethau’r dyfodol.”

Nodiadau i olygyddion

A copy of the plan is available here:

https://www.gov.wales/period-proud-wales-action-plan

https://www.llyw.cymru/cynllun-gweithredu-cymru-syn-falch-or-mislif

By 2027 we will live in a Wales where:

  • periods are fully understood, accepted and a normalised topic of conversation. It is widely recognised that periods are not a choice and period products are not a luxury
  • women, girls and those who have periods have easy, respectful and open access to good quality and safe products of their choice, when and where necessary
  • equitable access to provision across Wales exists, whilst allowing for local arrangements
  • the stigma, taboos and myths which exist have been challenged through provision of information and educational resources. No-one is ashamed or embarrassed about periods and can speak openly and confidently about them, whether they have periods or do not
  • understanding of periods will extend beyond the bleeding part of the cycle to the whole menstrual cycle, recognising that people who menstruate experience cycle-related impacts (physical and psychological) and needs throughout their cycles
  • the potential impact of periods and how they may change during the peri-menopause, menopause and as a result of broader health issues is widely understood and
  • this impact is responded to safely and non-judgmentally within education, employment and health based settings
  • women, girls and people who menstruate feel able to access health-based services around their period and related matters and are confident that these services will be sensitive and informed by sex and gender
  • a broader range of period products are in use, limiting the negative environmental impact of many disposable products
  • women, girls and all those who have periods:
    • o fully understand their period and know what is normal for them
    • o are confident to seek help and medical advice, if necessary
    • o do not face health inequalities when seeking medical advice or help
    • o know how best to manage their period to ensure it does not negatively impact on their life
    • o have an understanding of the different types of products available, their correct use and disposal, and can choose the most appropriate product for them
    • o have access to appropriate facilities to enable them to manage their period in privacy, with dignity and in a healthy way.
  • the historic normalisation of what might be medically concerning symptoms in relation to periods is challenged