Mae sioe fodurau cerbydau trydan wedi dod i Gaerdydd fel rhan o Wythnos Hinsawdd Cymru.
An electric vehicle motor show has come to Cardiff as part of Wales Climate Week.
Roedd y digwyddiad, a gynhaliwyd yn Techniquest ym Mae Caerdydd, yn caniatáu i ymwelwyr weld a gyrru'r cerbydau trydan diweddaraf sydd ar gael i'w prynu.
Cafwyd gweithdai a sgyrsiau hefyd gan y teithwyr cerbydau trydan Chris a Julie Ramsey, yr anturiaethwyr sy'n eiriolwyr cerbydau trydan, yn bar priod, ac a fu ar daith lwyddiannus o Begwn y Gogledd i Begwn y De, llwybr 17,000 milltir sy'n gwthio galluoedd cerbydau trydan i'r eithaf.
Roedd cyfle hefyd i gwrdd â deiliad record byd Guinness, Kevin Booker, a gafodd deitl Recrod Byd Guinness 2023 am yrru y pellter hiraf erioed mewn fan drydan ar un gwefriad - 311.18 milltir.
Cymerodd hyd yn oed y Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies ran, gan yrru beic modur trydan am y tro cyntaf erioed.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies: "Rhan o fy rôl i yw sicrhau bod Cymru'n chwarae ei rhan wrth fynd i'r afael â newid hinsawdd.
"Mae hyn yn cynnwys lleihau allyriadau o drafnidiaeth sef y trydydd sector allyrru carbon mwyaf yng Nghymru, ac mae hyn yn golygu newid y ffordd yr ydym i gyd yn teithio.
"Mae cerbydau trydan yn rhan (ond nid y cyfan) o'r ateb, ochr yn ochr â llai o geir ar ein ffyrdd, a mwy ohonom yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cerdded a beicio lle gallwn.
"Ond i lawer, rwy'n cydnabod nad yw hyn bob amser yn ymarferol, yn enwedig gan fod rhan fawr o'n gwlad yn wledig. Dyna pam mae angen i ni weld symudiad cyflym tuag at dechnolegau dim allyriadau mewn cerbydau ochr yn ochr â buddsoddiad parhaus yn ein trafnidiaeth gyhoeddus a'n seilwaith teithio llesol."
Mae Strategaeth Trafnidiaeth Cymru yn esbonio sut y bydd hyn yn digwydd - yn gyntaf mewn ceir, faniau, trenau a bysiau - ond yn ddiweddarach mewn cerbydau nwyddau trwm, ac yn olaf mewn awyrennau a llongau. Yn ogystal â chefnogi'r newid i gerbydau trydan preifat, mae'r Strategaeth yn disgrifio pwysigrwydd datgarboneiddio bysiau.