mhorwood Welsh Government 130526 12329

Mae’r ffigurau diweddaraf ar HS2 yn dangos bod Cymru’n cael cam

Latest HS2 Figures show Wales is being short-changed

Mae Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth Llywodraeth Cymru, Mark Hooper, wedi dweud bod y ffigurau diweddaraf ar gost HS2 yn dangos yn glir fod Cymru’n cael cam gan Lywodraeth y DU.

Dywedodd Dirprwy Weinidog Trafnidiaeth, Mark Hooper:

 “Mae’r ffigurau diweddaraf, sy’n dangos y gallai HS2 gostio hyd at £102.7 biliwn, yn ei gwneud yn gliriach nag erioed fod Cymru’n cael cam o ganlyniad i ddull gweithredu Llywodraeth y DU.

“Mae HS2 wedi’i ddosbarthu’n brosiect ‘Lloegr a Chymru’, er nad oes yr un centimetr o drac yn cael ei osod yng Nghymru.

“Nid yw hynny’n dderbyniol. Mae pob punt sy’n cael ei gwrthod i Gymru yn bunt na ellir ei buddsoddi yn y rhwydwaith trafnidiaeth integredig, modern y mae ein cymunedau’n ei haeddu.

“Mae sicrhau cyfran deg i Gymru o’r cyllid yn flaenoriaeth ganolog yn y berthynas rhwng y Llywodraeth hon a San Steffan. Rydym yn benderfynol o barhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i unioni’r cam hwn a sicrhau bod Cymru’n cael yr arian sy’n ddyledus iddi.”