English icon English

"MAE’R METRO AR DDECHRAU" gyda Rhwydwaith Gogledd Cymru

“METRO IS GO” with Network North Wales

 

Dadorchuddio cynllun trafnidiaeth uchelgeisiol i sbarduno twf yr economi

Mae gweledigaeth uchelgeisiol i ddarparu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, rheolaidd iawn ar gyfer Gogledd Cymru, gyda gwasanaethau metro niferus yn ganolog iddo, wedi'i ddadorchuddio heddiw.

Mae Rhwydwaith Gogledd Cymru yn rhaglen waith gref sy'n canolbwyntio ar deithwyr i gysylltu cymunedau'n well, gyda mwy o wasanaethau trenau a bysiau a mwy o integreiddio. Ei nod yw gwneud y mwyaf o gyfleoedd a datgloi potensial economaidd Gogledd Cymru a'r rhanbarth trawsffiniol. 

Wedi'i ddadorchuddio gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates, bydd Rhwydwaith y Gogledd yn gweld gwasanaethau trên ar ffurf metro ar brif linell Gogledd Cymru, llinell y Gororau (Caer i Wrecsam) a chysylltiad rheilffordd uniongyrchol newydd rhwng Wrecsam a Lerpwl.

Mae newidiadau wrthi'n cael eu gwneud, gyda llu o welliannau wedi'u cynllunio ar gyfer y deuddeg mis nesaf, y tair blynedd nesaf a hyd at 2035. Mae amcanion tymor hwy yn cynnwys diffinio targedau yn y dyfodol ar gyfer gwasanaethau amlach, ailagor gorsafoedd sydd wedi cau, creu gorsafoedd newydd ac edrych ar rôl dulliau trafnidiaeth newydd fel trenau tram.

Wrth siarad yn Uwchgynhadledd Trafnidiaeth Gyhoeddus gyntaf erioed Cymru yn Wrecsam, dywedodd Mr Skates "Mae'r Metro ar ddechrau".

Mae'r cynlluniau yn cynnwys:

  • Dechrau gwaith ar y lein rhwng Wrecsam a Lerpwl fel y cam cyntaf i ddarparu gwasanaethau metro uniongyrchol rhwng y ddwy ddinas.
  • Dyblu gwasanaethau trên rhwng Wrecsam a Chaer fis Mai nesaf.
  • Cyflwyno'r rhaglen i gynyddu gwasanaethau 50% ar draws prif lein Gogledd Cymru fis Mai nesaf yn lle mis Rhagfyr 2026 – gan arwain at wasanaeth newydd o Landudno i Lerpwl ac ymestyn gwasanaeth Maes Awyr Manceinion i Gaergybi yn lle Llandudno.
  • Ar ôl cwblhau'r gwaith ar y rheilffordd yn Padeswood, cynyddu gwasanaethau trên rhwng Wrecsam a Bidston i 2 drên yr awr o fewn y tair blynedd nesaf, cyn cyflwyno 4 trên yr awr i redeg yn uniongyrchol rhwng Wrecsam a Lerpwl erbyn 2035.
  • Bydd Llinell bresennol y Ffin yn cael ei hailenwi'n llinell Wrecsam – Lerpwl.
  • Bydd gorsafoedd allweddol ar linell Wrecsam – Lerpwl yn cael eu gwella yn ystod y 12 mis nesaf.
  • Bydd y trenau sy'n gweithredu ar linell Wrecsam – Lerpwl yn cael eu haddurno i adlewyrchu'r cymunedau a'r clybiau pêl-droed maen nhw'n eu gwasanaethu.
  • Cyflwyno technoleg tapio Talu wrth Fynd, i gynnwys y cysylltiadau rhwng Gobowen a'r Rhyl, ac ar hyd llinell Wrecsam-Lerpwl yn gyfan.
  • Gweithio gyda Network Rail i benderfynu ar ymarferoldeb darparu gorsaf brawf newydd ym Mharc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy, i fesur y galw am wasanaethau parhaol i'r parc.
  • Cronfa arloesi trydaneiddio newydd gwerth miliynau o bunnoedd i ddatblygu cynllun i ddatgarboneiddio'r rheilffordd yng Ngogledd Cymru a galluogi gwasanaethau metro amlach a gorsafoedd ychwanegol
  • Arian cyfatebol ar gyfer mynediad heb risiau yng ngorsafoedd Shotton a Rhiwabon.
  • Gweithio gydag awdurdodau lleol i ddatblygu cynlluniau ar gyfer cyfnewidfeydd amlfoddol yng Nghaergybi, Bangor, Caernarfon a Wrecsam.
  • Gwasanaeth bws T13 newydd - yn cysylltu'r Rhyl, Rhuthun, Dinbych a Wrecsam
  • Archwilio opsiynau i ailagor gorsafoedd a gaewyd ac adeiladu gorsafoedd newydd i wasanaethu ardaloedd lle mae twf mewn cyflogaeth.
  • Rhwydwaith bysiau newydd wedi'i gynllunio'n benodol i gysylltu cymunedau ag ystadau diwydiannol ym Mharth Buddsoddi Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo buddsoddiad o dros £13m i ddechrau cyflawni ar unwaith a bydd yn defnyddio ffrydiau cyllido eraill i wireddu'r weledigaeth.

Dywedodd Ken Skates:

"Mae gennym nawr y bartneriaeth orau bosibl ar waith i ddarparu Rhwydwaith Gogledd Cymru.

"Mae Llywodraeth y DU, llywodraeth leol, Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol Lloegr yn gweithio gyda ni i gyflwyno'r rhaglen waith feiddgar hon i gysylltu cymunedau'n well, gyda mwy o wasanaethau trenau a bysiau a mwy o integreiddio, gorsafoedd newydd, llwybrau trafnidiaeth newydd, trenau newydd, bysiau newydd, technoleg newydd.

"Rhwydwaith o wasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus a fydd yn cynnwys gwasanaethau bysiau a rheilffyrdd trawsffiniol 'galw a mynd', yn estyn y Northern Arc o Hull i Gaergybi.

"Gyda phartneriaeth ddigynsail ar draws llywodraethau, ar draws ffiniau ac ar draws y gogledd, mae gennym gyfle i droi breuddwydion yn realiti, i gyflawni gweledigaeth ar gyfer sut rwydwaith trafnidiaeth ddylem ei gael.

"Yn bwysicaf oll, mae gennym gyfle i gyflawni prif bwrpas trafnidiaeth gyhoeddus - i yrru twf economaidd a ffyniant i bawb.

"Rydym eisoes wedi cyflawni llawer dros Dde Cymru gyda Metro De Cymru. Gan adeiladu ar y buddsoddiad o £800m mewn trenau newydd, y mwyafrif ohonynt eisoes yn gwasanaethu rhanbarth y Gogledd, nawr yw'r amser iawn i’r Gogledd gael yr un lefel o uchelgais.

"Mwy o wasanaethau. Mwy o drenau newydd. Rheilffordd well i Ogledd Cymru.

"A chyflwyno ar gyflymder digynsail.

"Mae hon yn weledigaeth hirdymor, sy'n dechrau nawr gyda newidiadau go iawn.  Gan gynnwys cyflwyno Talu Wrth Fynd, – tapio wrth fynd ar drên a dod oddi arno - rhywbeth y mae'r rhan fwyaf ohonom ond yn ei brofi yn Llundain.  Mae gorsafoedd gwell, mwy o wasanaethau a gwasanaeth bws integredig ychwanegol i gyd yn rhan o newidiadau y 12 mis nesaf.

"Mae'n cynnwys blaenoriaethau ar gyfer seilwaith y cytunwyd arnynt gan Lywodraethau'r DU a Chymru, ac mae'n ail-gadarnhau ein hamcan hirsefydlog i drydaneiddio llinellau.

"Dylai'r weledigaeth hon barhau am gyfnod mwy nag unrhyw un Gweinidog, Llywodraeth neu amgylchiadau economaidd a gwleidyddol. Gan weithio gyda'n gilydd, byddwn yn cyflawni ein cynlluniau uchelgeisiol sy'n mynd â ni i 2035 a thu hwnt.

 

Dywedodd Gweinidog y Rheilffyrdd, yr Arglwydd Hendy: “Rydym yn benderfynol o adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth modern ac integredig ar draws y DU gyfan. Bydd hynny’n cyflawni’n Cynllun Newid ac yn sbarduno twf yr economi trwy greu cysylltiadau gwell rhwng pobl a chartrefi, swyddi, addysg a chyfleoedd busnes.

“Wrth i’r ddwy lywodraeth gydweithio’n glos â’i gilydd, rydyn ni’n dangos sut y gallwn ddarparu rhwydwaith trenau cryfach a mwy cysylltiedig sy’n wir ddiwallu anghenion teithwyr ac yn gweddnewid teithiau pob dydd ledled Cymru. 

“Bydd y cydweithredu hwnnw’n digwydd hefyd wrth i ni fynd i’r afael â’r cynigion cyffrous hyn, sy’n gyfle pwysig i weddnewid cysylltiadau ar draws y rhanbarth ac yn creu cyfleoedd newydd i gymunedau.”

 

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Jo Stevens: “Mae Rhwydwaith y Gogledd yn gynllun cyffrous i roi profiad gwell i deithwyr ar draws y rhanbarth. Twf economaidd yw blaenoriaeth rhif un Llywodraeth y DU ac mae gwella trafnidiaeth yn hanfodol i wireddu’r uchelgais hwnnw.

“Trwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru, byddwn yn cysylltu pobl â swyddi bras o bob math ledled y Gogledd. Caiff miloedd ohonyn nhw eu creu gan ein Parth Buddsoddi yn Wrecsam a Sir y Fflint a’n Porthladd Rhydd ar Ynys Môn.”