English icon English
Skyline1-2

Menter twristiaeth newydd yn Abertawe yn anelu’n uchel

The sky’s the limit in Swansea for new tourism venture

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi buddsoddiad gwerth £4 miliwn i ddenu atyniad twristiaeth newydd ac o'r radd flaenaf gan Skyline i Abertawe.

Skyline Enterprises Ltd sy’n arwain y fenter gwerth £34 miliwn, a dyma un o'r buddsoddiadau unigol mwyaf o fewn sector twristiaeth a lletygarwch Cymru ers blynyddoedd.

Mae Cyngor Abertawe hefyd wrthi’n trafod cynnig ariannol gyda Skyline, sy’n rhywbeth y mae'r cwmni yn ei ystyried ar hyn o bryd.

Mae cynigion Skyline ar gyfer Abertawe yn cynnwys ceir cebl a system cadeiriau codi, profiad cartio am i lawr gan Skyline, a elwir yn 'luge', siglen awyr, llwybrau cerdded presennol a newydd, zipline, mynediad ychwanegol i feiciau mynydd a siopau bwyd a diod.  Mae disgwyl i'r prosiect greu hyd at 100 o swyddi cyfwerth ag amser llawn uniongyrchol.

Byddai'r system ceir cebl arfaethedig yn mynd i ben Bryn Cilfái o ardal Gwaith Copr Hafod Morfa.

Mae'r arian sy'n cael ei gyhoeddi ar gyfer y prosiect yn ddibynnol ar dderbyn caniatâd cynllunio a bod y gwaith yn dechrau ar y safle. Byddai'r cyllid yn cael ei ddyrannu fesul cam drwy gydol y camau adeiladu a chyflawni.

Dywedodd Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden, sy'n gyfrifol am dwristiaeth yn Llywodraeth Cymru: "Mae'r prosiect hwn yn arwyddocaol wrth i ddinas Abertawe ddatblygu ymhellach fel cyrchfan ddinesig fywiog. Mae'n cyd-fynd â phrosiectau adfywio eraill yn yr ardal yn ogystal â chefnogi twf economaidd a swyddi gydol y flwyddyn.

"Pan oeddwn yn Seland Newydd y llynedd, gwelais drosof fy hun sut roedd Skyline Enterprises yn Queenstown wedi defnyddio'r dirwedd naturiol fel cefndir hyfryd i fenter lwyddiannus. Dyma gyfle mewnfuddsoddi unigryw i ni, ac rwy'n dymuno'n dda i'r tîm gyda'u menter ddiweddaraf yng Nghymru."

Yn ddiweddar, ymwelodd cynrychiolwyr Skyline Enterprises, y cwmni o Seland Newydd sy’n gyfrifol am y cynigion, ag Abertawe i gynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgynghori yn y gymuned leol fel rhan o'r broses gynllunio.

Bydd rhagor o gyfleoedd i gyflwyno sylwadau fel rhan o broses ymgeisio am ganiatâd cynllunio yn ddiweddarach yn 2023.

Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe: "Rydym yn croesawu'r ymrwymiad hwn gan Lywodraeth Cymru ac rydym hefyd mewn trafodaethau parhaus gyda Skyline o ran cyllid fel rhan o bartneriaeth a fydd, yn amodol ar ganiatâd cynllunio, yn creu cyrchfan hamdden awyr agored o'r radd flaenaf yn Abertawe.

"Byddai'r cynigion hyn yn arwain at greu hyd at 100 o swyddi newydd o ganlyniad uniongyrchol i'r prosiect yn ogystal â channoedd yn rhagor yn ystod y gwaith adeiladu. Byddai hefyd yn dod ag un o'r atyniadau cyntaf o'i fath yn y DU i'r ddinas, yn rhoi hwb sylweddol i'n heconomi ymwelwyr ac yn helpu i annog mwy o fuddsoddiad yn y dyfodol.

"Mae Skyline wedi ymrwymo'n llwyr i gadw mynediad i'r bryn fel y mae ar hyn o bryd ac mae’n gweithio'n agos ochr yn ochr â grwpiau lleol i hybu bioamrywiaeth a chreu cyfleuster y gallwn oll ymfalchïo ynddo."

Dywedodd Prif Weithredwr Skyline Enterprises, Geoff McDonald: "Rydyn ni'n hynod ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth a'i hymrwymiad hael iawn i Skyline Abertawe. Ers i ni ddod i Gymru gyntaf yn 2017 i drafod y cynlluniau am Fryn Cilfái , rydym ni wedi mwynhau perthynas hynod gadarnhaol â nhw, ac maent wedi dangos brwdfrydedd mawr dros ein gweledigaeth sydd hefyd yn plethu’n dda gyda’r strategaeth dwristiaeth.

"Os caiff ein cais ei gymeradwyo, edrychwn ymlaen at weithio'n agos gyda nhw, a Chyngor Abertawe, i ddarparu cyrchfan hamdden o'r radd flaenaf fydd y cyntaf o'i fath yn y DU ac un sydd, yn ein barn ni, yn wir, yn cyflwyno buddiannau parhaol i drigolion Abertawe ac ymwelwyr fel ei gilydd."

Mae cwmni Skyline o Seland Newydd yn rhedeg ac yn berchen ar ddau barc antur awyr agored o'r radd flaenaf sy'n cynnwys reidiau ceir cebl ac atyniadau a bwytai eraill yn Seland Newydd, yn ogystal â pharciau luge yng Nghanada, De Korea, a Singapore. Os caiff y prosiect sêl bendith byddai Skyline Abertawe yn rhan o'u hehangiad rhyngwladol,.