Mesurau ychwanegol i gadw Pont Menai ar agor yn ystod Eisteddfod yr Urdd
Extra measures brought in to keep Menai Bridge open during Urdd Eisteddfod week
Dywedodd Llywodraeth Cymru:
“Rydym yn deall rhwystredigaeth pobl ynghylch cau Pont Menai yn ystod y cyfnod prysur hwn, ac rydym yn gwneud popeth y gallwn i leihau’r aflonyddwch.
“Dim ond cerbydau o dan 7.5 tunnell sy’n gallu defnyddio Pont Menai. Ar ôl torri’r rheolau yn ddiweddar, bydd goleuadau traffig ar y bont o heno ymlaen (27 Mai) tan ddiwedd Eisteddfod yr Urdd. Bydd gweithredwyr yn troi i ffwrdd cerbydau sydd dros y terfyn pwysau. Bydd unrhyw un sydd ddim yn cydymffurfio yn cael eu cyfeirio at yr heddlu. Byddwn hefyd yn cynyddu presenoldeb yr heddlu a Swyddogion Traffig Llywodraeth Cymru i gefnogi hyn.
“Rydym yn gofyn i bobl barchu’r rhai sy’n gweithio ar y bont ac i ddilyn eu cyfarwyddiadau.
“Mae gwella gwytnwch ar draws Culfor Menai yn flaenoriaeth bwysig i Lywodraeth Cymru fel rhan o’n cynlluniau ehangach ar gyfer trafnidiaeth a’r economi.”