Miloedd o gleifion cataract yn cael eu trin mewn theatrau symudol
Thousands of cataract patients being treated in mobile theatres
Mae miloedd o gleifion yn ardal Caerdydd a’r Fro yn cael llawdriniaethau cataract mewn theatrau symudol er mwyn helpu i gynyddu capasiti a lleihau amseroedd aros.
Mae’r ganolfan offthalmig gwerth £1.4m yn cynnwys dwy theatr yn Ysbyty Athrofaol Cymru ac mae’n rhan o gynllun uchelgeisiol Llywodraeth Cymru i drawsnewid gofal wedi’i gynllunio yng Nghymru a lleihau amseroedd aros dros y pedair blynedd nesaf.
Wrth i’r GIG a’r system ofal wynebu pwysau fel na welwyd o’r blaen, mae’r ganolfan yn caniatáu cleifion i gael eu gweld yn gyfan gwbl yn yr uned heb orfod mynd i’r prif ysbyty.
Mae’r theatrau symudol yn golygu bod mwy o lawdriniaethau cataract yn gallu cael eu cynnal, gan gynyddu o 138 o gleifion y mis i 400 y mis ar gyfartaledd.
Bydd y ganolfan ar y safle tan fis Ionawr 2023, a bydd yn galluogi llawdriniaethau i gael eu cynnal bum niwrnod yr wythnos.
Mae’r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan eisoes wedi cyhoeddi £60m yn ychwanegol ar gyfer trawsnewid gofal wedi’i gynllunio – £15m y flwyddyn dros y pedair blynedd nesaf. Mae hyn yn ychwanegol at y £680m a gyhoeddwyd yn flaenorol i helpu’r GIG i adfer ar ôl y pandemig.
Mae’r cynllun i fynd i’r afael â’r ôl–groniad wedi gosod cyfres o dargedau ar gyfer byrddau iechyd, gan gynnwys:
- Ni fydd neb yn aros mwy na blwyddyn am ei apwyntiad claf allanol cyntaf erbyn diwedd 2022
- Dileu’r cyfnod aros o ddwy flynedd yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn mis Mawrth 2023
- Ni fydd heb yn aros mwy na blwyddyn yn y rhan fwyaf o arbenigeddau erbyn Gwanwyn 2025
- 80% o bobl i gael eu diagnosis o ganser a dechrau eu triniaeth o fewn 62 o ddiwrnodau erbyn 2026.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan:
“Theatrau symudol yw un o’r ffyrdd y gallwn gynyddu capasiti mewn ysbytai i sicrhau bod pobl sy’n aros am apwyntiadau a thriniaethau’n cael eu gweld mor fuan â phosibl.
“Gyda’r pwysau ar y Gwasanaeth Iechyd yn parhau, lleihau amseroedd aros yw un o’n prif flaenoriaethau, ac rydw i wedi nodi sut y byddwn yn mynd i’r afael â’r ôl–groniad mewn gofal wedi’i gynllunio gydag atebion newydd, mwy o offer, cyfleusterau newydd a mwy o staff.
“Rydyn ni wedi ymrwymo i weithio gyda ein Gwasanaeth Iechyd gwych i sicrhau nad oes neb yn gorfod aros yn hir am y driniaeth sydd ei hangen arnyn nhw.”
Dywedodd Siene Ng, Offthalmolegydd Ymgynghorol ac Arweinydd Clinigol y prosiect Theatrau Symudol:
“Mae’r datblygiad cyffrous hwn wedi bod yn gam pwysig ar ein taith i wella gwasanaethau clinigol i gleifion, a helpu i adfer rhywfaint o normalrwydd, nid yn unig i’n staff ond hefyd i’n cleifion sydd wedi bod yn aros am driniaeth.”