Miloedd o swyddi newydd yn cael eu creu yng Nghymru drwy fewnfuddsoddi
Thousands of new jobs created in Wales through inward investments
Cafodd dros 3,000 o swyddi eu creu yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf diolch i fewnfuddsoddiadau - y canlyniadau gorau a gofnodwyd mewn pum mlynedd, yn ôl ffigyrau newydd a gyhoeddwyd heddiw.
Mae adroddiad blynyddol Adran Busnes a Masnach y DU ar Fuddsoddiadau Uniongyrchol Tramor (FDI) yn y DU ar gyfer 2022-23 a gyhoeddwyd heddiw yn dangos bod nifer y swyddi a grëwyd wedi dychwelyd i lefelau cyn Covid gyda 3,062 o swyddi wedi'u creu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, i fyny o 1,793 yn 2021-22 - cynnydd o 66% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Mae'r adroddiad hefyd yn dangos bod 47 o brosiectau mewnfuddsoddi wedi'u creu yng Nghymru yn 2022-23, i fyny o 43 yn 2021-22 - cynnydd o 9%.
Roedd Llywodraeth Cymru yn ymwneud yn uniongyrchol â thua 91% o'r buddsoddiadau, gan gefnogi busnesau drwy ystod o ymyriadau o gynghori cwmnïau ar safleoedd ac adeiladau posibl, nodi sgiliau a thalent, cymorth gydag ymchwil i'r farchnad a chyflwyno i fanciau, rhwydweithiau busnes a'r byd academaidd.
Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
"Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod Cymru'n lle gwych i fyw, gweithio a gwneud busnes ynddi drwy greu'r amgylchedd lle gall busnesau a phobl ffynnu a llwyddo.
"Mae'r ffaith bod Cymru wedi gweld cynnydd mewn buddsoddiad yn ystod cyfnod o argyfyngau gwleidyddol ac economaidd mawr yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Cymru a bod hyn yn gweithio.
"Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i werthu Cymru'n rhyngwladol drwy hyrwyddo cryfderau a llwyddiannau Cymru ar y llwyfan byd-eang."
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae Gweinidog yr Economi wedi hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol, gydag ymweliadau â Sioe Awyr Paris yn Ffrainc, Qatar ac UDA, gyda'r Prif Weinidog a Gweinidogion eraill yn ymgymryd â gweithgarwch rhyngwladol sydd wedi helpu i godi proffil Cymru yn fyd-eang.
Mae'r buddsoddiadau nodedig a gyhoeddwyd yng Nghymru yn ystod y flwyddyn yn cynnwys:
- Mae KLA, gwneuthurwr offer lled-ddargludyddion sydd â'i bencadlys yn California, wedi dewis Casnewydd ar gyfer ei bencadlys a'i ganolfan Arloesi Ewropeaidd, gan fuddsoddi tua $100m mewn cyfleuster newydd a chefnogi 362 o swyddi pellach
- Mae Amazon, y cwmni cyflenwi ar-lein enfawr o’r Unol Daleithiau wedi agor canolfan datblygu meddalwedd trwy gaffael Veeqo yn Abertawe gan greu 50 o swyddi pellach i ddarparu morgludiant i werthwyr e-fasnach
- Mae Siemens Healthcare, is-adran gwyddor bywyd Grŵp Siemens o'r Almaen, wedi lansio canolfan ragoriaeth newydd mewn technoleg gofal iechyd yn Llanberis i ganolbwyntio ar ymchwil a datblygu a gweithgynhyrchu, gan ddiogelu'r gweithlu presennol o 400 a chreu 92 o swyddi eraill.
- Mae Airflo, prif wneuthurwr leiniau pysgota arbenigol heb PVC o'r Unol Daleithiau yn ehangu ei weithrediadau yn Aberhonddu, gan ddiogelu 44 o swyddi a chreu 21 arall i baratoi'r ffordd ar gyfer cynydddu allforion bedair gwaith i Ogledd America.
Mae Yasa Motors, gwneuthurwr modur trydan a rheolwyr modur uwch ar gyfer cerbydau hybrid a thrydan, sy'n eiddo i Mercedes, yn creu hyd at 40 o swyddi newydd fel rhan o gynlluniau i ehangu ei weithrediadau mewn canolfan Ymchwil a Datblygu newydd yn ei ganolfan yn y Trallwng.
Mae dros 1,395 o fusnesau tramor yng Nghymru, gan gyflogi dros 161,400 o bobl. Mae'r rhain yn cynnwys buddsoddwyr o’r safon uchaf fel Airbus, Toyota, General Dynamics, Deloitte, Siemens Healthcare ac Oracle.