English icon English

Miloedd yn fwy o swyddi, diolch i dwf mewn buddsoddiad o dramor yng Nghymru

Thousands more jobs thanks to foreign investment growth into Wales

Cynyddodd buddsoddiad uniongyrchol o dramor yng Nghymru yn sylweddol y llynedd, gan arwain at gynnydd mawr yn nifer y prosiectau a sicrhawyd a’r swyddi a grëwyd, yn ôl ffigurau newydd.

Sicrhaodd Cymru 65 o brosiectau yn 2024-25, sef cynnydd o 23% ers y flwyddyn ariannol flaenorol. Dyma'r ail gynnydd uchaf ymhlith holl wledydd a rhanbarthau’r DU.

Arweiniodd hyn at greu 2,470 o swyddi newydd yng Nghymru, sef cynnydd o 30% ers 2023-24. Unwaith eto, dyma'r ail gynnydd uchaf ymhlith holl wledydd a rhanbarthau’r DU.

Mae'r canlyniadau wedi'u cyhoeddi gan yr Adran Busnes a Masnach yn ei hadroddiad blynyddol ar Fuddsoddiadau Uniongyrchol o Dramor yn y DU.

Cafodd cyfanswm o 1,652 o swyddi eu diogelu yng Nghymru hefyd gan fuddsoddiad uniongyrchol o dramor y llynedd – sef y nifer uchaf ymhlith yr holl wledydd a’r rhanbarthau.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio i ddenu buddsoddiad o dramor yng Nghymru mewn nifer o ffyrdd. Mae’r rhain yn cynnwys hyrwyddo ein cryfderau craidd mewn digwyddiadau sector i gynnig cyngor i gwmnïau ar feysydd fel lleoliadau posibl, doniau, rhwydweithiau busnes a chysylltiadau â'r byd academaidd.

Ymhlith y buddsoddiadau eleni mae Shotton Mill Ltd, sy'n eiddo i gwmni corfforaethol o Dwrci, Eren Holdings.

Y cwmni o’r Gogledd fydd ffatri bapur fwyaf y DU diolch i fuddsoddiad gwerth £1 biliwn i’w ailddatblygu. Gyda chymorth £13 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru, bydd 147 o swyddi yn cael eu diogelu a 220 o swyddi eraill yn cael eu creu pan fydd y datblygiad ar ei anterth.

Yn ogystal, mae Halton Flamgard, sy'n rhan o Grŵp Finish Halton, wedi symud i uned RYB1 yng Nglynebwy a gwblhawyd yn ddiweddar, yn dilyn buddsoddiad o £8.9 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn y cyfleuster carbon isel. Yn rhan o'r gwaith ehangu a gynlluniwyd, bydd nifer y gweithwyr yn codi yn Halton Flamgard o 70 i 168 erbyn 2028.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio, Rebecca Evans:

"Er gwaethaf ffactorau gwleidyddol ac economaidd sy'n effeithio ar dwf yn fyd-eang, mae Cymru wedi gweld cynnydd sylweddol mewn buddsoddiad o dramor unwaith eto.

"Ry’n ni wedi gweld cynnydd mawr mewn swyddi sydd wedi’u creu drwy fuddsoddiad uniongyrchol o dramor yn 2024-25 ac mae buddsoddiad 'newydd' yng Nghymru wedi parhau i dyfu, gan gyrraedd ei lefel uchaf ers naw mlynedd.

"Mae hyn yn brawf o lwyddiant ein dull rhagweithiol o hyrwyddo Cymru yn fyd-eang fel lle gwych i wneud busnes. O Delhi i San Diego, ry’n ni wedi codi proffil Cymru ymhellach fel cyrchfan fuddsoddi ragorol gyda sectorau allweddol sy'n ymfalchïo mewn galluoedd o'r radd flaenaf."

Dywedodd y Prif Weinidog Eluned Morgan:

"Mae creu swyddi o ansawdd uchel mewn sectorau allweddol yn flaenoriaeth i'r llywodraeth hon, ac mae denu buddsoddiad o dramor yn rhan allweddol o'n strategaeth economaidd.

"Ry’n ni’n canolbwyntio fel llywodraeth ar dwf economaidd, ac mae'r ffigurau hyn yn tynnu sylw at yr hyder y mae buddsoddwyr yn ei ddangos yn economi Cymru. Bydd ein Huwchgynhadledd ar Fuddsoddi Rhyngwladol yn ddiweddarach eleni yn gyfle pellach i arddangos Cymru i'r byd a denu hyd yn oed mwy o fuddsoddiad."