English icon English

Mwy na 400,000 yn ymweld â fferyllfeydd er mwyn trin anhwylderau iechyd cyffredin

More than 400,000 visit pharmacies for common health issues

Wrth i ffigurau newydd ddangos bod mwy na 400,000 o bobl wedi defnyddio'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin yn ystod y 12 mis diwethaf, mae'r cyhoedd yng Nghymru yn cael eu hannog i ymweld â'u fferyllfeydd lleol i gael cyngor a thriniaeth am ddim ar gyfer ystod eang o anhwylderau.

Mae ymweld â'ch fferyllfa yn eich galluogi i gael gweld gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn hwylus, yn aml heb apwyntiad, ac mae'n helpu i ryddhau apwyntiadau ymarferwyr cyffredinol i bobl sydd ag anghenion iechyd mwy brys neu gymhleth.

Mae'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin, sydd ar gael mewn 99% o fferyllfeydd ledled Cymru, yn sicrhau mynediad yn rhad ac am ddim at gyngor a thriniaethau cyfrinachol ar gyfer 28 o anhwylderau cyffredin, gan gynnwys dolur gwddf a heintiau'r llwybr wrinol. Y llynedd, defnyddiodd dros 400,000 o bobl y gwasanaeth ac ers ei lansio yn 2013, mae wedi helpu bron i 1.25 miliwn o bobl.

Ar hyn o bryd, mae tua 220 o fferyllfeydd yn darparu'r gwasanaeth fferyllwyr-ragnodwyr annibynnol, sy'n cyfateb i draean o'r holl fferyllfeydd yng Nghymru. Mae hyn yn galluogi fferyllwyr i drin ystod o gyflyrau fel heintiau yn y glust, heintiau ar y croen, heintiau anadlol, llid y sinysau a meigryn.

Dywedodd 95% o bobl y byddent wedi mynd at eu meddyg teulu, neu ddarparwr gofal iechyd arall, pe na baent wedi gallu defnyddio'r gwasanaeth hwn yn eu fferyllfa.

Yn flynyddol, mae hyd at 100 o fferyllwyr cymunedol yn ymgymryd â hyfforddiant presgripsiynu ac o 2026 ymlaen, bydd pob fferyllydd sydd newydd gymhwyso yn bresgripsiynydd ar adeg ei gofrestru.

Mae meddygon teulu, nyrsys, fferyllwyr, deintyddion, optometryddion, gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gweithwyr gofal cymdeithasol mewn lleoliadau gofal sylfaenol a gofal cymunedol yn gweld mwy o bobl nag erioed, ac maent yn ehangu eu hystod o wasanaethau yn barhaus.

Mewn datganiad i'r Senedd ddydd Mawrth, bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles yn tynnu sylw at y diwygiadau i ofal sylfaenol er mwyn darparu mwy o ofal yn agosach i'r cartref:

  • Bob diwrnod gwaith, mae ymarferwyr cyffredinol yn cael tua 100,000 o alwadau ffôn ac yn delio â 68,000 o apwyntiadau.
  • Bob mis, mae optometryddion yn cynnal mwy na 2,000 o ymgyngoriadau.
  • Ers mis Ebrill 2022, mae dros 420,000 o gleifion newydd wedi cael triniaeth ddeintyddol.
  • Bob mis, mae nyrsys ardal yn gweld tua 31,000 o bobl sy'n cyfateb i 1% o boblogaeth Cymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Jeremy Miles:

"Rydyn ni'n gwybod bod galw mawr am wasanaethau meddygon teulu yng Nghymru, gyda thua 1.6 miliwn o bobl yn cysylltu â'u practis bob mis. 

"Ar gyfer y pryderon iechyd mwyaf cyffredin, eich fferyllfa leol yw'r opsiwn gorau, gan roi ichi fynediad hwylus ac am ddim at driniaeth.

"Rydyn ni'n gweithio gyda'r GIG i ddarparu mwy o ofal yn y gymuned, yn agosach at gartrefi pobl a'i gwneud hi'n haws i bobl ddewis y gwasanaeth cywir ar gyfer eu hanghenion iechyd."

Dywedodd Gwawr Davies-Jones, fferyllydd yn Fferyllfa'r Stryd Fawr, y Barri:

"Ers rhoi'r contract fferylliaeth newydd ar waith yn 2022, mae ein rôl wedi newid yn sylweddol.  

"Yn lle bod yn y fferyllfa, rydyn ni bellach yn yr ystafell ymgynghori am y rhan fwyaf o'r dydd yn cynnig gwasanaethau clinigol. Ar gyfartaledd, rydyn ni'n cynnal dros 20 o ymgyngoriadau bob dydd, sy'n amrywio o roi dulliau atal cenhedlu i gyflenwadau o feddyginiaethau brys.  

"Mae'r galw am gyngor ar gyflyrau cyffredin yn y gymuned yn uchel, sy'n rhoi cyfle i fferyllwyr rannu cyngor a thriniaeth â'u cleifion, gan gynnwys presgripsiynu gwrthfiotigau a meddyginiaethau eraill drwy bresgripsiwn yn unig, heb yr angen i fynd at feddyg teulu, gan ryddhau apwyntiadau sydd eu hangen yn fawr ar bobl sydd â chyflyrau mwy cymhleth.

"Rydyn ni'n teimlo ein bod ni'n cynnig gwasanaeth amhrisiadwy i'n cymuned.  Mae'r gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig yn lleddfu'r pwysau ar y GIG, gan roi boddhad mawr i fferyllwyr drwy wybod eu bod yn gwneud eu rhan."

Yn rhan o'r gwasanaeth anhwylderau cyffredin, mae fferyllfeydd yn darparu triniaeth ar gyfer 28 o anhwylderau cyffredin. Mae llawer o fferyllfeydd hefyd yn cynnig mynediad at ddulliau atal cenhedlu brys, yn ogystal â brechiadau ffliw blynyddol a gwasanaethau atal cenhedlu rheolaidd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi'r gwaith o ehangu'r gwasanaeth hwn gyda chyllid sylweddol, gan gynyddu ei buddsoddiad 24% ers 2016-17, yn ogystal â chyllid ychwanegol gwerth £9.9 miliwn eleni.

Nodiadau i olygyddion

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin yn Gwasanaeth Anhwylderau Cyffredin.