Mwy o blant dwy oed ledled Cymru yn cael manteisio ar ofal blant a ariennir diolch i fuddsoddiad pellach o £10 miliwn
More two-year-olds across Wales to benefit from funded childcare with further £10 million investment
Bydd mwy o blant dwy oed ledled Cymru yn cael manteisio ar ofal blant a ariennir diolch i fuddsoddiad pellach o £10 miliwn gan Lywodraeth Cymru.
Mae’r cyllid ychwanegol yn rhan o gynllun gam wrth gam i ehangu’r ddarpariaeth blynyddoedd cynnar i bob plentyn dwy oed yng Nghymru, gyda phwyslais benodol ar gryfhau darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae hwn yn ymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Bydd y buddsoddiad newydd yn caniatáu i 2,200 yn fwy o blant fanteisio ar ofal plant Dechrau’n Deg yn 2023-24.
Mae Dechrau’n Deg yn helpu teuluoedd â phlant ifanc sy’n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yng Nghymru, ac mae’n cynnwys gofal plant rhan-amser am ddim i blant dwy a thair oed sy’n byw yn yr ardaloedd hynny.
Yn ystod 2023-24 a 2024-25 bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi cyfanswm o £46 miliwn i ehangu gofal plant Dechrau’n Deg i gefnogi plant a theuluoedd ledled Cymru sy’n wynebu’r heriau mwyaf.
Mae disgwyl i gam 2 gefnogi dros 4,500 yn fwy o blant dwy oed i gael gafael ar ofal plant o ansawdd uchel Dechrau’n Deg yn 2023-24. Yn 2024-25, bydd cam 2 yn cefnogi 5,200 yn fwy o blant dwy oed.
Mae’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan ac Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian wedi gwneud cyhoeddiad am y cyllid wrth ymweld ag Ysgol Gynradd Mount Stuart yng Nghaerdydd.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan:
“Mae datblygu cefnogaeth o ansawdd uchel i blant a theuluoedd yn y blynyddoedd cynnar wedi bod yn flaenoriaeth hirdymor i Lywodraeth Cymru.
“Rwy’n falch o gael cyhoeddi bod £10 miliwn ychwanegol ar gael yn 2023-24 i ehangu cwmpas y cynllun, a fydd yn caniatáu i fwy o blant gael mynediad at ddarpariaeth gofal plant o ansawdd uchel.
“Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywydau a deilliannau miloedd o blant a’u teuluoedd ledled Cymru, ac yn cynnig cyfle i fwy o blant gael mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.
“Mae gofal a dysgu o ansawdd uchel yn y blynyddoedd cynnar yn cefnogi datblygiad plant ac yn allweddol i’w paratoi ar gyfer yr ysgol ac i fynd i’r afael â’r bwlch cyrhaeddiad, yn enwedig i’r plant hynny sy’n wynebu’r heriau mwyaf.”
Dywedodd Aelod Dynodedig Plaid Cymru, Siân Gwenllian:
“Mae buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar yn allweddol er mwyn mynd i’r afael ag anghydraddoldeb a rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i blant. Y cyllid hwn yw’r cam diweddaraf yn ein hymdrech i gyflawni ein hymrwymiad i ehangu gofal plant a ariennir i bob plentyn dwy oed, gan ganolbwyntio’n benodol ar gryfhau gofal plant cyfrwng Cymraeg.
“Bydd y £10 miliwn ychwanegol hwn yn rhan o ddull gweithredu cam wrth gam ar gyfer cyflwyno’r ymrwymiad hwn a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. Mae’n fater o ddarparu gofal plant hygyrch, sydd o fudd i’r plant a’u teuluoedd ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl ledled y wlad.”